Absenoldeb a Thâl ar y cyd i Rieni
Cymhwystra ar gyfer rhieni biolegol
I fod yn gymwys ar gyfer Absenoldeb ar y Cyd i Rieni (SPL) a Thâl Statudol ar y Cyd i Rieni (ShPP), mae’n rhaid i’r ddau riant:
-
rhannu cyfrifoldeb am y plentyn ar ei enedigaeth
-
bodloni meini prawf gwaith a thâl - mae’r rhain yn wahanol yn dibynnu ar ba riant sydd am ddefnyddio’r absenoldeb ²¹â€™r tâl ar y cyd i rieni
Nid ydych yn gymwys os gwnaethoch ddechrau rhannu’r cyfrifoldeb am y plentyn ar ôl iddo gael ei eni.
Mae’r meini prawf cymhwystra’n wahanol os ydych yn rhieni mabwysiadol neu rieni sy’n defnyddio mam fenthyg.
Gallwch . Bydd angen i chi wybod y canlynol:
-
dyddiad disgwyl neu ddyddiad geni eich plentyn
-
eich statws cyflogaeth (yn agor tudalen Saesneg) a’ch enillion chi a statws ac enillion eich partner
-
p’un a allwch chi a’ch partner gael Tâl Mamolaeth Statudol (yn agor tudalen Saesneg) neu Dâl Tadolaeth Statudol (yn agor tudalen Saesneg)
Os yw’r ddau riant am rannu’r SPL ²¹â€™r ShPP
Rhaid i’r ddau riant fodloni’r un meini prawf cymhwystra i gael SPL ac ShPP. Mae’n rhaid i chi:
-
bod wedi’ch cyflogi’n barhaol gan yr un cyflogwr am o leiaf 26 wythnos, erbyn diwedd y 15fed wythnos cyn y dyddiad dyledus
-
aros gyd²¹â€™r un cyflogwr tan o leiaf yr wythnos cyn i chi ddechrau’ch SPL
I fod yn gymwys ar gyfer SPL, mae’n rhaid i chi fod yn ‘gyflogeion’ (nid ‘gweithwyr’) – gwiriwch eich statws cyflogaeth (yn agor tudalen Saesneg). Os yw’r naill neu’r llall ohonoch yn ‘weithiwr’, efallai y gallwch rannu ShPP ond nid SPL.
I fod yn gymwys ar gyfer ShPP, mae’n rhaid i’r naill ²¹â€™r llall ohonoch ennill o leiaf £129 yr wythnos ar gyfartaledd.
Os yw partner y fam eisiau cymryd yr SPL ²¹â€™r ShPP
Er mwyn i bartner y fam gymryd SPL ac ShPP, mae’n rhaid i’r fam a phartner y fam fodloni rhai gofynion o ran cymhwystra.
Mae’n rhaid i’r fam:
-
bod wedi gweithio am o leiaf 26 wythnos allan o’r 66 wythnos cyn yr wythnos y disgwylir i’r babi gael ei eni (nid oes angen i’r 26 wythnos fod yn olynol)
-
bod wedi ennill cyfanswm o £390 o leiaf ar draws unrhyw 13 o’r 66 wythnos (ychwanegwch at ei gilydd yr wythnosau pan dalwyd y symiau uchaf – nid oes angen iddynt fod yn olynol)
Mae’n rhaid i bartner y fam:
-
bod wedi’ch cyflogi’n barhaol gan yr un cyflogwr am o leiaf 26 wythnos, erbyn diwedd y 15fed wythnos cyn y dyddiad dyledus
-
aros gyd²¹â€™r un cyflogwr tan o leiaf yr wythnos cyn i chi ddechrau’ch SPL
I fod yn gymwys ar gyfer SPL, mae’n rhaid i’r partner fod yn ‘gyflogai’ (nid ‘gweithiwr’) – gwiriwch ei statws cyflogaeth (yn agor tudalen Saesneg). Os yw’r partner yn ‘weithiwr’, efallai y bydd yn gallu cael ShPP ond nid SPL.
I fod yn gymwys ar gyfer ShPP, mae’n rhaid i’r partner ennill o leiaf £129 yr wythnos ar gyfartaledd.
Os yw’r fam eisiau cymryd yr SPL ²¹â€™r ShPP
Er mwyn i’r fam gymryd SPL ac ShPP, mae’n rhaid i’r fam a phartner y fam fodloni rhai gofynion o ran cymhwystra.
Mae’n rhaid i bartner y fam:
-
bod wedi gweithio am o leiaf 26 wythnos allan o’r 66 wythnos cyn yr wythnos y disgwylir i’r babi gael ei eni (nid oes angen i’r 26 wythnos fod yn olynol)
-
bod wedi ennill cyfanswm o £390 o leiaf yn ystod 13 o’r 66 wythnos (ychwanegwch yr wythnosau sy’n talu fwyaf - nid oes angen iddynt for yn olynol)
Mae’n rhaid i’r fam:
-
bod wedi’ch cyflogi’n barhaol gan yr un cyflogwr am o leiaf 26 wythnos, erbyn diwedd y 15fed wythnos cyn y dyddiad dyledus
-
aros gyd²¹â€™r un cyflogwr tan o leiaf yr wythnos cyn i chi ddechrau’ch SPL
I fod yn gymwys ar gyfer SPL, mae’n rhaid i’r fam fod yn ‘gyflogai’ (nid ‘gweithiwr’) – gwiriwch ei statws cyflogaeth (yn agor tudalen Saesneg). Os yw’r fam yn ‘weithiwr’, efallai y bydd yn gallu cael ShPP ond nid SPL.
I fod yn gymwys ar gyfer ShPP, mae’n rhaid i’r fam ennill o leiaf £129 yr wythnos ar gyfartaledd.