Bwyta allan neu archebu bwyd pan fydd gennych alergedd
Printable version
1. Yr hyn y mae’n rhaid i fwytai a siopau tecawê ei ddweud wrthych chi am alergenau
Mae 14 alergen y mae’n rhaid i fusnesau roi gwybod i chi amdanynt.
Mae’r canllawiau hyn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Mae sut a phryd y mae angen i fusnesau ddweud wrthych chi yn dibynnu a ydych chi’n prynu:
- bwyd mewn bwyty
- bwyd tecawê
- bwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw i’w werthu’n uniongyrchol (PPDS), er enghraifft, brechdanau wedi’u pecynnu
Bwytai
Rhaid i fwytai roi gwybodaeth gywir i chi am alergenau, gan gynnwys a yw bwyd yn cynnwys unrhyw un o’r 14 alergen y mae’n rhaid i fusnesau roi gwybod i chi amdanynt. Efallai y byddwch chi’n gallu cael yr wybodaeth hon o fwydlen ar-lein cyn i chi fynd.
Gallwch ffonio ymlaen llaw i ofyn:
- a yw’r bwyty’n cynnig prydau sy’n addas i chi
- sut mae’r bwyd yn cael ei drin yn y gegin ac a allai eich bwyd fod wedi’i halogi â rhywbeth y mae gennych alergedd iddo
Gallwch atgoffa staff a gofyn cwestiynau eto pan ewch chi i’r bwyty. Gallwch hefyd ofyn a yw’r cynhwysion mewn pryd o fwyd wedi newid. Gallwch ofyn iddyn nhw goginio rhywbeth gwahanol i chi, ond does dim rhaid iddyn nhw wneud hynny.
Siopau tecawê
Rhaid i fusnesau sy’n gwerthu bwyd tecawê ddweud wrthych chi a oes unrhyw un o’r 14 alergen i’w cael yn eu bwyd. Mae angen iddyn nhw wneud hyn:
- cyn i chi brynu’r bwyd – naill ai’n ysgrifenedig ar wefan neu mewn bwydlen, neu dros y ffôn
- pan fydd y bwyd yn cael ei ddanfon – naill ai’n ysgrifenedig, gan ddefnyddio sticeri ar fwyd neu fwydlen er enghraifft, neu wyneb yn wyneb gan y gyrrwr sy’n dosbarthu’r bwyd. Os ydych chi’n archebu bwyd i sawl person, gallwch ofyn i’r busnes labelu’r cynwysyddion fel eich bod chi’n gwybod pa bryd yw’ch un chi
Bwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw i’w werthu’n uniongyrchol (PPDS)
Dyma fwyd sy’n cael ei wneud a’i becynnu yn yr un man lle mae’n cael ei werthu, cyn i chi ei brynu. Er enghraifft, brechdanau wedi’u pecynnu neu fyrgyrs wedi’u lapio. Dylai enw’r bwyd fod ar y label ynghyd â rhestr gynhwysion sy’n dangos mewn llythrennau bras unrhyw un o’r 14 alergen y mae’n rhaid i fusnesau ddweud wrthych amdanynt.
Dyma fwy o wybodaeth am fwyd PPDS.
2. Alergenau y mae’n rhaid i fusnesau ddweud wrthych amdanynt
Rhaid i fusnesau ddweud wrthych chi a yw eu bwyd yn cynnwys unrhyw un o’r 14 alergen hyn:
- seleri
- grawnfwydydd sy’n cynnwys glwten (fel gwenith, rhyg (‘rye’), haidd (‘barley’) a cheirch)
- cramenogion (fel corgimychiaid, crancod a chimychiaid)
- wyau
- pysgod
- bysedd y blaidd (gan gynnwys hadau bysedd y blaidd a chynhyrchion a wneir ohonynt, fel blawd bysedd y blaidd)
- llaeth
- molysgiaid (fel cregyn gleision ac wystrys)
- mwstard *cnau, yn benodol cnau coed (fel cnau almon, cnau cyll, cnau Ffrengig, cnau Brasil, cnau cashew, cnau pecan, cnau pistachio a chnau macadamia)
- pysgnau
- sesame
- ffa soia
- sylffwr deuocsid a sylffitau (mewn crynodiad o fwy na deg rhan fesul miliwn)
Mae’r canllawiau hyn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Os oes gennych chi alergedd i rywbeth arall, gallwch chi ofyn i’r busnes a yw eu bwyd yn ei gynnwys.
3. Os byddwch chi’n cael adwaith alergaidd
Os byddwch chi’n teimlo’n sâl neu’n cael adwaith alergaidd ar ôl bwyta, dylech geisio cymorth meddygol ar unwaith.
Mae gan y GIG wybodaeth am a sut i’w trin. Os oes gennych chi chwistrellwr adrenalin awtomatig (AAI), cariwch ef gyda chi a’i ddefnyddio os ydych chi’n meddwl eich bod chi’n cael adwaith alergaidd.
Mae’r canllawiau hyn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Rhoi gwybod am adwaith alergaidd
Cysylltwch â’r busnes a werthodd y bwyd i chi a dywedwch wrthyn nhw. Gallwch hefyd roi gwybod am ddigwyddiad diogelwch bwyd i dîm diogelwch bwyd eich cyngor lleol.
Ceisio cefnogaeth
Mae sawl sefydliad a all eich cefnogi i fyw gydag alergedd bwyd, gan gynnwys:
4. Tanysgrifio i’r gwasanaeth rhybuddion alergeddau
Gallwch danysgrifio i gael rhybuddion pan fo cynhyrchion bwyd yn cael eu gwerthu heb wybodaeth am alergenau neu â’r wybodaeth anghywir.
Mae’r canllawiau hyn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Mae’r rhybuddion yn rhad am ddim. Maent yn cael eu hanfon drwy e-bost neu neges destun. Bydd y rhybuddion yn nodi’r cynnyrch dan sylw a beth i’w wneud os ydych chi wedi’i brynu.
Gallwch ddewis cael rhybuddion am bob alergen, neu rybuddion am eich alergedd bwyd chi yn unig.