Apelio i’r Tribiwnlys Apeliadau Cyflogaeth
Printable version
1. Trosolwg
Gallwch apelio i’r Tribiwnlys Apeliadau Cyflogaeth (EAT) os ydych yn meddwl bod camgymeriad cyfreithiol wedi’i wneud mewn achos tribiwnlys cyflogaeth.
²Ñ²¹±ð’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Er enghraifft, gallwch apelio os:
- cafodd y tribiwnlys y gyfraith yn anghywir
- na wnaeth y tribiwnlys gymhwyso’r gyfraith gywir
- na wnaeth y tribiwnlys ddilyn y gweithdrefnau cywir ac amharodd hyn ar y penderfyniad
- nid oedd gan y tribiwnlys dystiolaeth i gefnogi ei benderfyniad
- roedd y tribiwnlys yn rhagfarnllyd yn annheg tuag at y parti arall
Gofynnwch am gyngor cyfreithiol os ydych yn ansicr am hyn.
²Ñ²¹±ð’r EAT yn annibynnol o’r llywodraeth a bydd yn gwrando ar ddwy ochr y ddadl cyn gwneud penderfyniad.
Cyn i chi apelio
Gofynnwch i’r anfon y rhesymau dros y penderfyniad atoch, os nad ydynt gennych yn barod. Gallwch barhau â’ch apêl tra byddwch yn aros amdanynt.
Cymorth gyda’ch apêl
Darllenwch y rheolau a ddilynir gan yr EAT wrth wneud penderfyniadau.
Gallwch hefyd gael cyngor cyfreithiol am ddim gan a .
Cysylltu â’r Tribiwnlys Apeliadau Cyflogaeth
Cysylltwch â’r llinell ymholiadau am fwy o wybodaeth.
Llinell ymholiadau cyhoeddus EAT
Rhif ffôn: 020 7273 1041 (Cymru a Lloegr)
Rhif ffôn: 0131 225 3963 (Yr Alban)
Gwybodaeth am gost galwadau
2. Sut i apelio
-
Darllenwch y llawn a’r canllaw apelio.
-
Llenwch y ffurflen hysbysiad o apêl.
-
Anfonwch y ffurflen, gyda’r dogfennau ategol a restrir arni, i’r swyddfa Tribiwnlys Apeliadau Cyflogaeth (EAT).
Nid oes rhaid i chi dalu ffi i apelio.
Terfyn amser ar gyfer apelio
Mae’n rhaid i chi apelio o fewn 42 diwrnod o’r dyddiad y cafodd naill ai:
- y penderfyniad ei anfon atoch
- y rhesymau eu hanfon atoch (dim ond os na wnaeth y Tribiwnlys Cyflogaeth roi rhesymau yn y gwrandawiad neu eich bod wedi gofyn am y rhesymau o fewn 14 diwrnod o’r dyddiad yr anfonwyd y penderfyniad atoch chi)
Rhaid i’ch apêl gyrraedd erbyn 4pm ar y diwrnod olaf.
Gallwch ofyn i apêl gael ei hystyried hyd yn oed os yw’n hwyr, ond anaml y rhoddir estyniad ac mae’n rhaid i chi gael rheswm da.
Ble i anfon eich apêl
Gallwch ei hanfon:
- »å°ù·É²â’r gwasanaeth E-Ffeilio
- drwy e-bost - dylech atodi’r ffurflen apêl ac unrhyw ddogfennau ategol i’r e-bost, ac mae’n rhaid i’r e-bost fod yn 10MB neu lai
- »å°ù·É²â’r post
²Ñ²¹±ð’r cyfeiriad e-bost neu postio yn wahanol yn dibynnu lle cafodd eich achos ei wrando.
Ar gyfer achosion yng Nghymru a Lloegr
Tribiwnlys Apeliadau Cyflogaeth (EAT)
londoneat@justice.gov.uk
Rhif ffôn: 020 7273 1041
Gwybodaeth am gost galwadau
Tribiwnlys Apeliadau Cyflogaeth (EAT)
5ed Llawr / 5th Floor
Rolls Building
7 Rolls Buildings
Fetter Lane
Llundain
EC4A 1NL
Ar gyfer achosion yn yr Alban
Tribiwnlys Apeliadau Cyflogaeth (EAT)
edinburgheat@justice.gov.uk
Rhif ffôn: 0131 225 3963
Gwybodaeth am gost galwadau
Tribiwnlys Apeliadau Cyflogaeth (EAT)
George House
126 George Street
Caeredin
EH2 4HH
Ar ôl i chi apelio
Bydd EAT yn penderfynu a all eich apêl barhau. Os bydd, efallai y gofynnir i chi fynychu gwrandawiad i gyflwyno eich achos.
Os na all eich apêl barhau, anfonir llythyr atoch yn egluro pam a ph’un a allwch apelio ymhellach.
3. Y gwrandawiad tribiwnlys
Mae’n bosibl y bydd rhaid i chi fynychu gwrandawiad lle byddwch chi (neu eich cynrychiolydd) yn cyflwyno eich achos.
Bydd y Tribiwnlys Apeliadau Cyflogaeth (EAT) yn penderfynu a yw eich apêl wedi bod yn llwyddiannus.
Byddwch yn cael gwybod canlyniad yr achos naill ai ar ddiwedd y gwrandawiad neu wedyn drwy lythyr.
Paratoi ar gyfer y gwrandawiad
Fel arfer gofynnir i chi pryd rydych ar gael i fynychu gwrandawiad. Mewn rhai achosion mae’n bosibl y dywedir wrthych pryd y cynhelir gwrandawiad, ond dywedir wrthych o leiaf 14 diwrnod ymlaen llaw. Gall gwrandawiadau gael eu cynnal yn gynt na hyn mewn amgylchiadau eithriadol.
Cewch wybod pa ddogfennau rydych angen eu hanfon at yr EAT a’r partïon eraill.
Mae’n bosibl y gallwch gael cyngor am ddim yn union cyn y gwrandawiad os nad oes gennych gynrychiolydd - gofynnwch i’r EAT am fanylion.
Ni allwch hawlio unrhyw gostau teithio i fynd i wrandawiad.
Beth fydd yn digwydd yn y gwrandawiad
Byddwch yn cyflwyno eich achos - gall rhywun arall wneud hyn ar eich rhan, er enghraifft , ffrind neu aelod o’r teulu. Bydd y parti arall yn cyflwyno’r achos yn eich erbyn. Mae’n bosibl y gofynnir cwestiynau i chi am eich achos.
4. Os byddwch yn colli eich achos
Efallai y gallwch apelio i lys uwch os ydych yn meddwl bod yna broblem gyfreithiol gyda phenderfyniad y Tribiwnlys Apeliadau Cyflogaeth (EAT).
Gofynnwch am os nad ydych yn siŵr am hyn.
Apelio yn erbyn penderfyniad Tribiwnlys Apeliadau Cyflogaeth a wnaed yng Nghymru neu Loegr
Mae’n rhaid i chi ofyn am ganiatâd cyn apelio i’r llys uwch, y Llys Apêl. Gallwch naill ai ofyn i EAT neu’r Llys Apêl am ganiatâd.
Rhaid i chi roi eich rhesymau dros apelio a’r broblem gyfreithiol gyda’r penderfyniad.
Gofyn i EAT am ganiatâd
Mae’n rhaid i chi ofyn i’r EAT am ganiatâd i apelio o fewn 7 niwrnod i’r dyddiad ar y llythyr penderfyniad.
Gallwch ofyn am ganiatâd ar ddiwrnod eich gwrandawiad (os cewch eich penderfyniad ar y diwrnod).
Os gwrthodir rhoi caniatâd i chi, gallwch ofyn i’r Llys Apêl yn uniongyrchol.
Gofyn i’r Llys Apêl am ganiatâd
Gallwch ofyn i’r Llys Apêl am ganiatâd. Mae’n rhaid i chi wneud hyn o fewn 21 diwrnod i’r dyddiad ar y llythyr penderfyniad.
Os cewch orchymyn Rheol 3(7ZA) neu Reol 3(10)
Os yw eich apêl wedi’i gwrthod o dan Reol 3(7ZA) neu wedi’i diystyru o dan Reol 3(10), ni allwch ofyn i’r EAT am ganiatâd i apelio.
Mae angen i chi ofyn i’r Llys Apêl yn uniongyrchol am ganiatâd o fewn 7 niwrnod i ddyddiad y gorchymyn.
Gofyn am fwy o amser
Gallwch ofyn am fwy o amser i ofyn am ganiatâd i apelio. Mae’n rhaid i chi gael rheswm da.
Fel arfer, mae’n rhaid i chi ofyn i’r Llys Apêl am fwy o amser.
Apelio i’r Llys Apêl
Unwaith y byddwch wedi cael caniatâd, gallwch apelio i’r Llys Apêl.
Apelio yn erbyn penderfyniad Tribiwnlys Apeliadau Cyflogaeth a wnaed yn yr Alban
Mae’n rhaid i chi ofyn i’r EAT am ganiatâd i apelio o fewn 7 niwrnod i’r dyddiad ar y llythyr penderfyniad.
Os cewch ganiatâd, gallwch apelio i’r llys uwch yn yr Alban, .
Os bydd EAT yn gwrthod rhoi caniatâd i chi apelio, gallwch ofyn i Lys y Sesiwn yn uniongyrchol. Mae’n rhaid i chi wneud hyn o fewn 42 diwrnod i’r dyddiad y gwrthodwyd caniatâd i chi. i gael gwybod sut i wneud hyn.
5. Deddfwriaeth a phenderfyniadau blaenorol
Darllenwch y rheolau y mae’n rhaid i’r Tribiwnlys Apeliadau Cyflogaeth (EAT) eu dilyn a’i benderfyniadau ar achosion blaenorol.
Deddfwriaeth
Mae’n rhaid i’r EAT ddilyn y rheolau a’r broses yn:
- Rheolau’r Tribiwnlys Apeliadau Cyflogaeth 1993 (fel y’i diwygiwyd) — gallwch weld y rhain ar
²Ñ²¹±ð’r EAT hefyd wedi cyhoeddi cyfarwyddyd ymarfer ar sy’n cynnwys canllawiau mwy manwl.
Ar gyfer apeliadau penderfyniad tribiwnlys a wnaed yn yr Alban, mae’n rhaid i bob parti ddilyn Pennod 41 - Apeliadau o dan Statud .
Penderfyniadau blaenorol
Gallwch a wnaed mewn achosion EAT eraill.