Hawlio ac ymdrin â Budd-dal Plant ar ran rhywun arall
Printable version
1. Os yw eich plentyn yn cael baban
Os yw plentyn yr ydych yn gyfrifol amdano yn cael baban, gallant hawlio Budd-dal Plant neu gallwch hawlio ar ei ran, ac ar ran y baban.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Os yw eich plentyn yn hawlio Budd-dal Plant, byddant yn cael y canlynol:
- £26.05 yr wythnos, os mai dyma ei blentyn hynaf neu’r unig blentyn
- credydau Yswiriant Gwladol sy’n cyfrif tuag at ei Bensiwn y Wladwriaeth os yw’r plentyn yn hŷn nag 16.
Os ydych yn hawlio ar ei ran:
- byddwch yn cael £17.25 yr wythnos am bob plentyn ychwanegol y byddwch yn hawlio ar ei gyfer – os ydych yn talu’r Tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel, ni fyddwch yn cael arian ychwanegol
- ni fydd eich plentyn yn cael credydau Yswiriant Gwladol
I un cyfrif yn unig y gall Swyddfa Budd-dal Plant dalu’r budd-dal. Gall hwn fod yn gyfrif ar y cyd sydd gennych â’ch plentyn.
2. Penodedigion
Gallwch wneud cais am yr hawl i ddelio â Budd-dal Plant rhywun sy’n methu â rheoli ei faterion ei hun, er enghraifft, os yw rhywun yn analluog yn feddyliol neu’n ddifrifol anabl.
Gelwir hyn yn dod yn ‘benodai’.
Gallwch wneud cais fel unigolyn, neu fel sefydliad gwirfoddol.
Ni allwch weithredu fel penodai ar gyfer hawliwr Budd-dal Plant os ydych yn cael eich talu i ddeilio â hawliadau rhywun arall (gelwir hyn yn ‘asiant sy’n cael ei dalu’). Gall asiant sy’n cael ei dalu ddelio â materion Tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel yn unig.
Nid ydych yn benodai os mai dim ond cynorthwyo rhywun i lenwi ei ffurflen hawlio ydych chi.
Sut i ddod yn benodai
Er mwyn gwneud cais, cysylltwch â’r Swyddfa Budd-dal Plant. Byddant yn trafod gyda chi os mai bod yn benodai yw’r dewis gorau i chi, a rhoi gwybod i chi beth sydd angen i chi ei wneud.
Eich cyfrifoldebau
Bydd rhai o’ch dyletswyddau fel penodai yn cynnwys:
-
cwblhau’r ffurflen hawlio
-
delio ag unrhyw lythyrau gan y Swyddfa Budd-dal Plant
-
rhoi gwybod am unrhyw newidiadau sy’n effeithio ar hawliadau Budd-dal Plant
-
stopio neu ailgychwyn taliadau pan fydd y person, neu ei bartner, yn cael ei effeithio gan y Tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel
Bydd y Budd-dal Plant yn cael ei dalu i un o’r canlynol:
-
eich cyfrif banc chi – neu gyfrif banc eich sefydliad
-
cyfrif banc yr hawliwr
Stopio neu newid penodai
Ysgrifennwch at y Swyddfa Budd-dal Plant cyn pen un mis o’r dyddiad yr ydych am stopio neu newid y penodai.
3. Awdurdodiad
Gall y llinell Gymorth Budd-dal Plant dim ond trafod hawliadau gyda’r person sydd wedi’i enwi ar y ffurflen hawlio (neu ei benodai). Gall partner, neu unrhyw berson arall, gael cymorth cyffredinol, ond mae’n rhaid bod ganddo ‘awdurdodiad’ er mwyn trafod hawliad gyda’r llinell gymorth.
Mae’r broses yn wahanol os ydych yn gweithredu ar ran llawer o gleientiaid, neu os ydych yn asiant sy’n cael ei dalu sy’n delio â materion Tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel ar ran cleient.
Cael awdurdodiad
Mae’n rhaid i’r hawliwr lenwi’r ffurflen CH105, neu ysgrifennu llythyr sy’n cynnwys yr un wybodaeth, a’i hanfon at y Swyddfa Budd-dal Plant – mae’r cyfeiriad ar y ffurflen.
Bydd yr awdurdodiad yn gyfredol am 12 mis, oni bai bod dyddiad dod i ben gwahanol yn cael ei nodi ar y ffurflen. Fel arfer, bydd awdurdodiad yn cymryd 2 ddiwrnod o’r dyddiad y mae’r ffurflen yn dod i law. Gan amlaf, ni fyddwch yn cael llythyr i gadarnhau’r awdurdodiad.
Bydd angen i’r Swyddfa Budd-dal Plant fod wedi cael ffurflen hawlio Budd-dal Plant yr hawliwr.
Gall mwy nag un person gael awdurdodiad, ond mae’n rhaid i bob un anfon ffurflen CH105.
Os ydych yn gweithredu ar ran llawer o gleientiaid
Ysgrifennwch at y Swyddfa Budd-dal Plant er mwyn cofrestru fel ‘sefydliad cyfryngwyr’ os ydych yn gweithio yn y sector gwirfoddol ac yn gweithredu ar ran llawer o bobl.
Gallwch gael awdurdodiad os ydych yn sefydliad cyfryngwyr, a bod eich cleient yn rhoi ffurflen CH105 sydd wedi’i llenwi i chi. Mae’n rhaid i chi gadw ffurflen CH105 eich cleient am 7 mlynedd o’r dyddiad y cafodd ei llofnodi.
Os ydych yn asiant sy’n cael ei dalu
Bydd angen i’ch cleient gwblhau ffurflen CH995 er mwyn eich awdurdodi i ddelio â materion Tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel.
Canslo awdurdodiad
Gall awdurdodiad gael ei ganslo drwy ysgrifennu at y Swyddfa Budd-dal Plant.