Cadw mewn cysylltiad â rhywun yn y carchar
Printable version
1. Llythyrau a galwadau ffôn a fideo
Llythyrau
Gallwch gysylltu â charcharor drwy ysgrifennu ato. Ysgrifennwch rif y carcharor ar yr amlen. Fel arfer, does dim cyfyngiad ar nifer y llythyrau y cewch chi eu hanfon.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Mae’r rhan fwyaf o lythyrau sy’n cael eu hanfon i’r carchar ac oddi yno yn cael eu harchwilio gan staff y carchar.
Ni chaiff carchardai agor llythyrau gan gyfreithwyr a llysoedd dim ond mewn achosion arbennig, er enghraifft, os ydynt yn amau nad cynghorydd cyfreithiol sydd wedi anfon y llythyr go iawn.
Gallwch gwyno i’r carchar os ydych chi’n meddwl bod eich llythyrau’n cael eu darllen pan na ddylai hynny fod yn digwydd, neu os nad yw eich llythyrau’n cyrraedd y carcharor.
Galwadau fideo
Gallwch wneud galwadau fideo diogel i bobl mewn rhai carchardai gan ddefnyddio eich ffôn symudol neu dabled.
Gall galwadau bara hyd at 30 munud. Mae gan garcharor hawl i 1 alwad fideo am ddim bob mis.
Pwy sy’n cael ffonio
Rhaid i chi fod dros 18 oed ac ar restr ffrindiau a theulu’r carcharor.
Gallwch wahodd hyd at 3 pherson arall (o unrhyw oedran) i ymuno â’r alwad os ydynt ar restr ymwelwyr y carcharor.
Sut i ffonio
-
Edrychwch i weld a yw’r carchar yn cynnig galwadau fideo.
-
Gosodwch ap ar eich ffôn neu’ch tabled (gall gymryd hyd at 24 awr i ddilysu eich cyfrif ar yr ap).
-
Gwiriwch a yw pawb sydd eisiau ymuno â’r alwad ar restr ffrindiau a theulu’r carcharor.
-
Gwnewch gais am alwad fideo gan ddefnyddio’r ap neu gofynnwch i’r carcharor wneud cais am alwad.
-
Bydd staff y carchar yn trefnu’r alwad ac yn anfon cadarnhad drwy e-bost.
Caiff pob galwad fideo ei recordio. Gall staff y carchar wylio galwadau fideo pan fyddant yn digwydd.
Galwadau ffôn
Mae’n rhaid i’r carcharor eich ffonio chi gan ddefnyddio un o ffonau’r carchar.
Dim ond pobl sydd wedi’u henwi ar restr ffrindiau a theulu carcharorion y cânt eu ffonio. Bydd y staff diogelwch yn gwirio’r rhestr hon pan fyddan nhw’n cyrraedd am y tro cyntaf, felly gall gymryd ychydig ddyddiau cyn y byddant yn gallu ffonio.
Gall staff y carchar wrando ar y rhan fwyaf o alwadau a’u recordio. Nid yw rhai galwadau’n cael eu monitro, er enghraifft, pan fydd carcharor yn ffonio cynghorydd cyfreithiol.
Gallwch hefyd gyfnewid negeseuon llais gyda charcharor gan ddefnyddio gwasanaeth .
2. E-bost a’r cyfryngau cymdeithasol
Ni fydd carcharorion yn cael mynediad at wefannau rhwydweithio cymdeithasol (fel Facebook neu Twitter) tra byddant yn y ddalfa.
Allwch chi ddim anfon e-bost at garcharorion yn uniongyrchol, ond gallwch ddefnyddio . Os byddwch chi’n anfon neges fel hyn, bydd yn cael ei hargraffu a’i danfon gan staff y carchar. Mae pob e-bost yn costio 40c a bydd angen i chi brynu credyd i ddefnyddio’r gwasanaeth.
Mewn rhai carchardai, gall carcharorion ateb hefyd ac atodi llun drwy Email a Prisoner. .
3. Eitemau sydd wedi eu gwahardd
Peidiwch ag anfon na rhoi dim byd i garcharor sydd:
- yn anweddus neu’n anllad
- yn peryglu diogelwch y carchar
- wedi’i ysgrifennu mewn cod
Peidiwch â chymryd dim byd a ysgrifennwyd gan garcharor y mae’n dymuno ei gyhoeddi a chael tâl amdano.
Mae’n drosedd anfon neu roi’r canlynol i garcharor:
- cyffuriau anghyfreithlon
- alcohol
- arfau
- camera
- ffôn symudol
Cysylltwch â’r carchar os nad ydych chi’n siŵr beth gewch chi ei anfon neu ei roi.
4. Anfon arian
Gallwch anfon arian at rywun yn y carchar drwy wneud taliad ar-lein drwy gerdyn debyd Maestro, Visa a Mastercard.
Bydd yr arian yn cael ei dalu i gyfrif y carcharor – cyfrif arian sylfaenol y gall ei ddefnyddio i anfon a derbyn arian.
Erbyn hyn, chewch chi ddim anfon arian drwy drosglwyddiad banc, siec neu archeb bost, nac anfon arian parod drwy’r post i unrhyw garchar. Bydd angen i chi ddefnyddio cerdyn debyd yn lle hynny.
Os na allwch chi wneud taliad ar-lein
Efallai y gallwch – er enghraifft:
-
os nad ydych chi’n gallu defnyddio cyfrifiadur, ffôn clyfar na’r rhyngrwyd
-
os nad oes gennych chi gerdyn debyd
Os felly, cewch anfon arian drwy’r post.
Gallwch hefyd gael gwybod sut mae cael cerdyn debyd drwy .
5. Ymweld â rhywun yn y carchar
Gallwch wneud cais ar-lein i ymweld â rhywun yn y carchar yn y rhan fwyaf o achosion.
Chewch chi ddim ymweld â charcharor oni bai ei fod wedi eich ychwanegu at ei restr ymwelwyr. Bydd y carchar yn cysylltu â chi pan fyddwch chi ar y rhestr hon.
Cael help gyda chostau ymweld â rhywun
Efallai y bydd modd i chi gael help i dalu i ymweld â charchar, er enghraifft costau teithio, os ydych chi’n cael budd-daliadau penodol.
Pa mor aml gewch chi ymweld â rhywun yn y carchar
I garcharor a gafwyd yn euog, caniateir o leiaf ddau ymweliad 1 awr o hyd bob 4 wythnos fel arfer.
I garcharor sydd ar remand (yn aros am ei dreial), caniateir tri ymweliad 1 awr o hyd yr wythnos.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am union reolau ymweliadau ar dudalen wybodaeth y carchar rydych chi’n ymweld ag ef.