°Ç¸ç³Ô¹Ï

Skip to main content

Costau byw: biliau, tai ac iechyd

Darganfyddwch pa gymorth sydd ar gael i helpu gyda biliau a chostau yn Lloegr. Mae hyn yn cynnwys cefnogaeth gyda biliau cyfleustodau, cefnogaeth gan eich cyngor lleol a Gostyngiad y Dreth Gyngor.

Darganfyddwch am gymorth gyda chostau byw , a

Cefnogaeth gyda biliau cyfleustodau

Help gyda biliau ynni

O fis Ebrill 2026, mae’r llywodraeth yn tynnu costau sy’n werth £150 ar gyfartaledd oddi ar filiau ynni cartrefi. Bydd hyn yn digwydd yn awtomatig ac nid oes angen i chi gymryd unrhyw gamau.

Darganfyddwch pa help y gallwch ei gael gyda biliau ynni.

Cymorth gan eich cyngor lleol (Crisis and Resilience Fund)

Darganfyddwch am gymorth y gallwch ei gael gyda chostau hanfodol. Mae hyn yn cynnwys biliau bwyd, ynni a dŵr.

Ffôn a band eang rhatach (‘tariffau cymdeithasol’)

Os ydych yn cael budd-daliadau penodol .

Help i dalu eich bil dŵr

.

Cymorth gyda chostau tai

Gostyngiad y Dreth Gyngor

Os ydych ar incwm isel neu fudd-daliadau penodol, gallwch edrych a ydych yn gymwys i leihau eich Treth Gyngor.

Help i dalu rhent (Crisis and Resilience Fund)

Os oes angen cymorth arnoch gyda chostau rhent neu dai, gallwch wirio a ydych chi’n gymwys i gael cymorth o’r Crisis and Resilience Fund gan eich cyngor lleol.

Help gyda chostau tai drwy Gredyd Cynhwysol

Os ydych yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol, gallwch gael help i dalu am dai (er enghraifft, rhent a llog morgais). Darganfyddwch fwy am gostau tai a Chredyd Cynhwysol.

Budd-dal Tai

Os ydych mewn llety â chymorth, llety cysgodol neu dros dro, gallwch edrych a ydych yn gymwys i gael Budd-dal Tai am help i dalu eich rhent.

Help arall y gallwch ei gael

Cael help gyda phresgripsiynau’r GIG a chostau iechyd

Atebwch ychydig o gwestiynau i ddarganfod pa gymorth y gallwch ei gael i dalu am gostau iechyd fel presgripsiynau, gofal llygaid a deintyddol.

Cael gostyngiadau ar gostau teithio

Gallwch:

  • i gael gostyngiad ar gost tocynnau rheilffordd

  • i gael gostyngiad ar gost tocynnau rheilffordd yn eich ardal leol

  • , fel Cerdyn Disgownt Teithio y Ganolfan Byd Gwaith os ydych chi’n cael Credyd Cynhwysol neu Lwfans Ceisio Gwaith