°Ç¸ç³Ô¹Ï

Skip to main content

Ardrethi busnes

Printable version

1. Trosolwg

Mae ardrethi busnes yn cael eu codi ar y rhan fwyaf o eiddo annomestig, megis:

  • siopau
  • swyddfeydd
  • tafarndai
  • warysau
  • ´Ú´Ú²¹³Ù°ùï´Ç±ð»å»å
  • llety gwyliau neu dai gwesteion

Mae’n debygol y bydd yn rhaid i chi dalu ardrethi busnes os ydych yn defnyddio adeilad, neu ran o adeilad, at ddibenion annomestig.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Ymdrinnir ag ardrethi busnes mewn ffordd wahanol os yw’r canlynol yn berthnasol:

Yr hyn sydd i’w dalu a phryd

Bob blwyddyn, bydd eich cyngor lleol yn anfon bil ardrethi busnes atoch ym mis Chwefror neu ym mis Mawrth. Mae hyn ar gyfer y flwyddyn dreth ddilynol. Gallwch hefyd amcangyfrif eich bil ardrethi busnes.

Gallwch gael help gydag ardrethi busnes gan:

  • eich cyngor, os oes gennych gwestiynau am eich bil
  • Swyddfa Brisio, os ydych yn credu bod eich ‘gwerth ardrethol’ yn anghywir

Cynlluniau rhyddhad

Mae’n bosibl y gallwch ostwng eich bil drwy gael rhyddhad ardrethi busnes gan eich cyngor lleol. Weithiau, mae hyn yn digwydd yn awtomatig, ond efallai y bydd angen i chi wneud cais.

Mae’r broses hon yn ddibynnol ar y canlynol:

Pwy sydd ddim yn gorfod talu

Mae rhai eiddo wedi’u heithrio rhag ardrethi busnes, er enghraifft adeiladau fferm neu leoedd a ddefnyddir er lles pobl anabl.

Os ydych yn berchen ar stabl

Fel arfer mae angen i chi dalu ardrethi busnes ar eich stablau, oni bai eich bod yn defnyddio’ch ceffylau ar gyfer ffermio.

Os yw’ch stablau yn eich gardd, gallwch dalu Treth Gyngor yn lle ardrethi busnes. Cysylltwch ag Swyddfa Brisio i wirio pa un y dylech ei thalu.

2. Sut y cyfrifir eich ardrethi

Mae ardrethi busnes yn seiliedig ar ‘werth ardrethol’ eich eiddo.

Dyma amcangyfrif gan Swyddfa Brisio (VO) o faint y byddai wedi costio rhentu eiddo am flwyddyn ar 1 Ebrill 2021.

Bydd eich eiddo yn cael gwerth ardrethol newydd ar 1 Ebrill 2026.

Gallwch ddod o hyd i’ch gwerth ardrethol a gwirio sut y cafodd ei gyfrifo.

Caiff ardrethi busnes eu trin yn wahanol neu .

Amcangyfrif eich ardrethi busnes

Mae eich cyngor lleol yn cyfrifo eich bil ardrethi busnes gan ddefnyddio ‘lluosydd’. Mae eich gwerth ardrethol yn cael ei luosi â’r rhif hwn i gael eich bil terfynol.

Mae canllawiau ar sut i amcangyfrif eich ardrethi busnes.

Efallai y bydd eich bil yn cael ei leihau os yw’ch eiddo yn gymwys ar gyfer rhyddhad ardrethi busnes.

Os ydych chi’n credu bod eich gwerth ardrethol yn anghywir

Gallwch ddefnyddio eich cyfrif prisio ardrethi busnes i:

  • roi gwybod am newidiadau i’ch eiddo (megis maint arwynebedd llawr a pharcio)

  • herio eich gwerth ardrethol

Mae gennych chi tan 31 Mawrth 2026 i herio eich gwerth ardrethol cyfredol.

Gallwch roi gwybod am newidiadau i’ch eiddo ar unrhyw adeg.

Gallwch herio eich gwerth ardrethol newydd o 1 Ebrill 2026

Os gofynnir i chi ddarparu gwybodaeth rhent

Efallai y bydd Swyddfa Brisio yn gofyn i chi ddarparu gwybodaeth rhent am eich eiddo er mwyn gallu cyfrifo ei werth ardrethol.

Cysylltwch ag Swyddfa Brisio os oes angen mwy o amser arnoch i anfon eich gwybodaeth rhent.

3. Ailbrisiad

Yn ystod ailbrisiad mae Swyddfa Brisio (VO) yn diweddaru gwerth ardrethol eiddo busnes i adlewyrchu newidiadau yn y farchnad eiddo.

Daeth yr ailbrisiad diweddaraf i rym yng Nghymru a Lloegr ar 1 Ebrill 2023. Roedd yn seiliedig ar gost rhentu eiddo am flwyddyn ar 1 Ebrill 2021.

Bydd yr ailbrisiad nesaf yn dod i rym yng Nghymru a Lloegr ar 1 Ebrill 2026. Bydd yn seiliedig ar gost rhentu eiddo am flwyddyn ar 1 Ebrill 2024.

Gallwch ddefnyddio gwasanaeth ar-lein Swyddfa Brisio i:

  • ddarganfod beth fydd eich gwerth ardrethol o 1 Ebrill 2026

  • amcangyfrif eich bil ardrethi busnes ar gyfer y flwyddyn dreth 2026 i 2027

Caiff ardrethi busnes eu trin yn wahanol neu .

Beth sy’n digwydd yn ystod ailbrisiad

Yn ystod ailbrisiad:

Mae hyn yn golygu nad yw newid yn eich gwerth ardrethol bob amser yn golygu newid yn eich bil.

Er mwyn sicrhau bod eich prisiadau yn gywir, gall y VO ofyn i chi am fanylion rhent a phrydles ar gyfer eich eiddo.

Os ydych chi’n credu bod eich gwerth ardrethol newydd yn anghywir

Byddwch chi’n gallu herio eich gwerth ardrethol newydd o 1 Ebrill 2026.

Gallwch ddefnyddio eich cyfrif prisio ardrethi busnes ar unrhyw adeg i roi gwybod i’r VO os oes angen newid manylion eich eiddo.

Rhyddhad ardrethi busnes

Efallai y byddwch yn gallu cael gostyngiad gan eich cyngor lleol os ydych yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi busnes.

Er enghraifft, efallai y byddwch yn gallu cael:

4. Help gydag ardrethi busnes

Mae’n bosibl y byddwch yn gallu cael gostyngiad gan eich cyngor lleol ar eich ardrethi busnes os ydych yn gymwys ar gyfer un neu fwy o gynlluniau rhyddhad ardrethi busnes.

I gael help gyda gwerth ardrethol eich eiddo, cysylltwch ag Swyddfa Brisio (VO).

I gael help gyda’ch bil ardrethi busnes (er enghraifft i dalu fesul rhandaliad) neu ryddhad ardrethi, cysylltwch â’ch cyngor.

Cael cyngor proffesiynol

Gallwch hefyd gael help gan syrfëwr trethu cymwys drwy un o’r sefydliadau canlynol:

Mae’n bosibl y codir tâl arnoch am unrhyw gyngor a gewch gan syrfëwr trethu o’r cychwyn cyntaf.

Gallwch gael cyngor gan sefydliad sy’n rhan o . Mae 30 munud cyntaf yr alwad ymgynghorol yn rhad ac am ddim.

5. Os yw’ch busnes neu safle yn newid

Gallai’ch ardrethi busnes newid os:

  • rydych yn symud neu’n gwneud newidiadau i’ch safle
  • mae natur eich busnes yn newid
  • rydych yn is-osod rhan o’ch eiddo
  • rydych yn cyfuno 2 eiddo neu fwy yn 1

Rhowch wybod i Swyddfa Brisio (VO) am newidiadau er mwyn sicrhau eich bod yn talu’r swm cywir. Bydd rhoi gwybod am newidiadau hefyd yn sicrhau nad ydych yn talu gormod nac yn cael cynnydd wedi’i ôl-ddyddio yn eich bil.

Mae ardrethi busnes yn cael eu trin yn wahanol os neu os .

Os yw’ch safle yn cael ei effeithio gan darfiad lleol

Mae’n bosibl y byddwch yn cael gostyngiad dros dro yn eich ardrethi busnes os bydd digwyddiad lleol difrifol yn effeithio ar eich safle (megis llifogydd, gwaith adeiladu neu waith ffordd).

Rhowch wybod i’r VO am newidiadau.

Sut i roi gwybod am newidiadau

Gallwch roi gwybod am newidiadau gan ddefnyddio’ch cyfrif prisio ardrethi busnes.

6. Gweithio gartref

Fel rheol, nid oes rhaid i chi dalu ardrethi busnes ar gyfer busnes sy’n cael ei redeg o’r cartref os ydych:

  • yn defnyddio rhan fach o’ch cartref ar gyfer eich busnes, er enghraifft os ydych yn defnyddio ystafell wely fel swyddfa
  • yn gwerthu nwyddau drwy’r post

Mae’n bosibl y bydd angen i chi dalu ardrethi busnes yn ogystal â Threth Gyngor os yw’r canlynol yn wir:

  • mae’ch eiddo yn rhannol yn fusnes ac yn rhannol ddomestig, er enghraifft os ydych yn byw uwchben eich siop
  • rydych yn gwerthu nwyddau neu wasanaethau i bobl sy’n ymweld â’ch eiddo
  • rydych yn cyflogi pobl eraill i weithio yn eich eiddo
  • rydych wedi gwneud newidiadau i’ch cartref ar gyfer eich busnes, er enghraifft trosi garej yn siop trin gwallt

Cysylltwch ag Swyddfa Brisio (VO) i gael gwybod a ddylech fod yn talu ardrethi busnes. Yn yr Alban, cysylltwch â’ch . Yng Ngogledd Iwerddon, cysylltwch â’r .

7. Tafarndai a masnach drwyddedig

Os ydych yng Nghymru a Lloegr, Swyddfa Brisio (VO) sy’n cyfrifo’ch gwerth ardrethol gan ddefnyddio ‘trosiant cynaliadwy teg’. Dyma’r lefel flynyddol o fasnach (heb gynnwys TAW) y mae disgwyl i’ch tafarn ei chyflawni os yw’n cael ei rhedeg mewn ffordd resymol o effeithlon. Mae’n seiliedig ar y canlynol:

  • y math o dafarn neu safle trwyddedig
  • yr ardal y mae ynddi
  • gwybodaeth a phatrymau eich masnach
  • y gwasanaethau y ³¾²¹±ð‵µ ei chynnig, er enghraifft bwyd, gemau neu ddangos chwaraeon ar sgrîn
  • faint o rent rydych yn ei dalu
  • unrhyw incwm a wnewch o letya
  • rhenti a throsiant tafarndai eraill

Yna, mae’r VO yn cymhwyso canran i gyfrifo’r gwerth ardrethol. Cytunir ar y canrannau â grwpiau’r diwydiant, gan gynnwys Cymdeithas Gwrw a Thafarndai Prydain (British Beer and Pub Association). Gallwch ddod o hyd i’r canrannau yng nghanllaw cymeradwy prisio tafarndai y VO.

Gallwch ddod o hyd i’ch prisiad ardrethi busnes ar-lein. Os ydych am wirio’r ffigurau y mae’r VO yn eu defnyddio neu os nad ydych yn cytuno â’r prisiad, gallwch gofrestru neu sefydlu cyfrif prisio ardrethi busnes neu gysylltu â’r VO.

Rhyddhad ardrethi busnes i dafarndai a masnach drwyddedig

Mae’n bosibl eich bod yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi busnes os yw’r canlynol yn wir am eich busnes:

Os yw’ch safle trwyddedig yn yr Alban

Yn yr Alban, eich asesydd lleol sy’n cyfrifo’ch gwerth ardrethol. os ydych am wirio’r ffigurau ³¾²¹±ð‵µ eu defnyddio neu os nad ydych yn cytuno â’r ffigurau sy’n cael eu defnyddio.

Os yw’ch eiddo trwyddedig yng Ngogledd Iwerddon

Yng Ngogledd Iwerddon, mae’r Gwasanaethau Tir ac Eiddo (LPS) yn cyfrifo’ch ardrethi busnes. .

8. Llety hunanddarpar a llety gwyliau

Mae bod yn gymwys i dalu ardrethi busnes yn dibynnu ar faint o nosweithiau y mae eich eiddo ar gael i’w osod bob blwyddyn a faint o nosweithiau y cafodd ei osod mewn gwirionedd.

Bydd Swyddfa Brisio (VO) yn cyfrifo gwerth ardrethol eich eiddo yn seiliedig ar ei fath, maint, lleoliad, ansawdd a faint o incwm rydych chi’n debygol o’i wneud o’i osod.

Mae yna reolau gwahanol neu .

Os yw eich eiddo yn Lloegr

Bydd yn cael ei ystyried fel eiddo hunanddarpar a’i brisio ar gyfer ardrethi busnes os oedd y ddau ganlynol yn wir dros y 12 mis diwethaf:

  • roedd ar gael i’w osod am gyfnodau byr yn fasnachol am o leiaf 140 noson yn gyfan gwbl

  • cafodd ei osod mewn gwirionedd am o leiaf 70 noson

Yn ogystal, rhaid i chi fod yn bwriadu gwneud eich eiddo ar gael am gyfnodau byr yn fasnachol am o leiaf 140 noson yn y 12 mis nesaf.

Os mai dim ond un eiddo rydych chi’n ei osod yn Lloegr a bod ei werth ardrethol yn llai na £15,000, efallai y byddwch chi’n gymwys i gael rhyddhad ardrethi busnesau bach.

Os yw eich eiddo yng Nghymru

Bydd yn cael ei ystyried fel eiddo hunanddarpar a’i brisio ar gyfer ardrethi busnes os oedd y ddau ganlynol yn wir dros y 12 mis diwethaf:

  • roedd ar gael i’w osod am gyfnodau byr yn fasnachol am o leiaf 252 noson yn gyfan gwbl

  • cafodd ei osod mewn gwirionedd am o leiaf 182 noson

Yn ogystal, rhaid i chi fod yn bwriadu gwneud eich eiddo ar gael am gyfnodau byr yn fasnachol am o leiaf 252 noson yn y 12 mis nesaf.

Gwiriwch a ydych chi’n .

Dywedwch wrth y VO eich bod yn gymwys i dalu ardrethi busnes

Os ydych chi’n talu’r Dreth Gyngor ar hyn o bryd ar eich eiddo hunanddarpar, ond ei fod wedi bodloni’r meini prawf ar gyfer ardrethi busnes, gallwch ddweud wrth y VO trwy lenwi ffurflen.

Mae ffurflenni gwahanol ar gyfer:

Ar ôl i chi ddechrau talu ardrethi busnes, anfonir ffurflen atoch bob blwyddyn i gadarnhau eich bod yn parhau i fodloni’r meini prawf. Os na fyddwch yn bodloni’r meini prawf, byddwch yn cael eich symud o ardrethi busnes i’r Dreth Gyngor.