°Ç¸ç³Ô¹Ï

Skip to main content

Cyfrifon Cynilo Unigol (ISAs)

Printable version

1. Trosolwg

Gallwch gynilo’n ddi-dreth gyda Chyfrifon Cynilo Unigol (cyfrifon ISA).

Ym mlwyddyn dreth 2026 i 2027, y swm mwyaf y gallwch ei arbed mewn cyfrif ISA yw £20,000

Mae 4 math o ISA:

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Pwy sy’n cael agor ISA

Mae’n rhaid i chi fod yn 18 oed neu’n hŷn i agor ISA. Os ydych yn agor ISA gydol oes, mae’n rhaid i chi hefyd fod o dan 40 oed.

Mae’n rhaid i chi hefyd fod naill ai:

  • yn breswyl yn y DU
  • yn aelod o’r lluoedd arfog neu weithiwr y Goron (er enghraifft Gwasanaeth Sifil diplomyddol neu dramor) neu ei briod neu bartner sifil os nad ydych yn byw yn y DU

Gallwch ddod o hyd i’ch statws preswylio os ydych yn ansicr – darllenwch y dudalen preswylio yn y DU a threthi i gael rhagor o fanylion.

Does dim modd i chi ddal ISA gyda rhywun arall.

Gallwch gael ISA ar gyfer Plant Iau (yn agor tudalen Saesneg) ar gyfer plant dan 18 oed.

2. Sut mae cyfrifon ISA yn gweithio

Mae 4 math o Gyfrif Cynilo Unigol (ISA):

Nid ydych yn talu treth ar y canlynol:

  • llog ar arian mewn ISA
  • incwm neu enillion cyfalaf o fuddsoddiadau mewn ISA

Os byddwch yn llenwi Ffurflen Dreth, nid oes angen i chi ddatgan unrhyw log, incwm nac enillion cyfalaf ar yr ISA.

Rhoi arian mewn ISA

Bob blwyddyn dreth, gallwch gynilo hyd at £20,000 mewn un cyfrif neu rannu’r lwfans ar draws sawl cyfrif. Mae’r flwyddyn dreth yn rhedeg o 6 Ebrill i 5 Ebrill.

Gallwch dim ond talu i mewn i un ISA Gydol Oes mewn blwyddyn dreth. Yr uchafswm y gallwch ei dalu i mewn yw £4,000 mewn blwyddyn dreth.

Enghraifft 1

Gallech gynilo £15,000 mewn ISA arian parod, £2,000 mewn ISA stociau a chyfranddaliadau a £3,000 mewn ISA cyllid arloesol mewn un flwyddyn dreth.

Enghraifft 2

Gallech gynilo £11,000 mewn ISA arian parod, £2,000 mewn ISA stociau a chyfranddaliadau, £3,000 mewn ISA cyllid arloesol a £4,000 mewn ISA Gydol Oes mewn un flwyddyn dreth.

Enghraifft 3

Gallech gynilo £10,000 mewn un ISA arian parod, £3,000 mewn ISA arian parod arall a £7,000 mewn ISA stociau a chyfranddaliadau mewn un flwyddyn dreth.

Ni fydd eich ISAs yn cau pan fydd y flwyddyn dreth yn dod i ben. Byddwch yn cadw’ch cynilion ar sail ddi-dreth cyhyd â’ch bod yn cadw’r arian yn eich cyfrifon.

Beth allwch ei gynnwys yn eich ISAs

Gall ISAs arian parod gynnwys:

Gall ISAs stociau a chyfranddaliadau gynnwys:

  • cyfranddaliadau mewn cwmnïau
  • ymddiriedolaethau unedol a chronfeydd buddsoddi
  • bondiau corfforaethol
  • bondiau’r llywodraeth
  • cronfeydd asedion tymor hir

Ni ellir dal nodynnau cyfnewid a fasnachir mewn cryptoasedion mewn ISA stociau a chyfranddaliadau, oni bai eu bod eisoes wedi’u dal yno cyn 6 Ebrill 2026. Bydd angen iddynt gael eu dal mewn ISA cyllid arloesol.

Ni allwch drosglwyddo unrhyw gyfranddaliadau nad ydynt yn rhan o ISA rydych chi eisoes yn berchen arnynt i ISA oni eu bod yn dod o gynllun cyfranddaliadau gweithiwr (yn agor tudalen Saesneg).

Gall cyfrifon ISA Gydol Oes gynnwys naill ai:

  • arian parod
  • stociau a chyfranddaliadau

Gall ISAs cyllid arloesol gynnwys:

  • benthyciadau cymar-i-gymar - benthyciadau sy’n cael eu rhoi i bobl neu i fusnesau eraill heb ddefnyddio banc
  • ‘dyledebau cyllido torfol’ – buddsoddi mewn busnes drwy brynu ei ddyled
  • cronfeydd lle mae’r cyfnod rhybudd neu’r cyfnod adbrynu yn golygu na ellir eu dal mewn ISA stociau a chyfranddaliadau
  • nodynnau cyfnewid a fasnachir mewn cryptoasedion

Ni ellir dal cronfeydd asedion tymor hir mewn ISA cyllid arloesol, oni bai eu bod eisoes yn wedi’u dal yno cyn 6 Ebrill 2026. Bydd angen iddynt gael eu dal mewn ISA stociau a chyfranddaliadau.

Ni allwch drosglwyddo unrhyw drefniadau rydych chi eisoes wedi’u gwneud na buddsoddiadau sydd eisoes gennych i ISA cyllid arloesol.

Os oes gennych gwestiynau am y rheolau treth ar gyfer ISAs, gallwch ffonio Llinell Gymorth ISA.

3. Sut mae agor ISA

Gallwch gael Cyfrif Cynilo Unigol (ISA) gan y canlynol:

  • banciau
  • cymdeithasau adeiladu
  • undebau credyd
  • cymdeithasau cyfeillgar
  • broceriaid stoc
  • gwasanaethau benthyca cymar-i-gymar
  • cwmnïau cyllido torfol
  • sefydliadau ariannol eraill

Bydd angen i chi gael eich rhif Yswiriant Gwladol. Gallwch ddod o hyd i’ch rhif Yswiriant Gwladol ar-lein os nad ydych yn ei wybod.

Cysylltwch â’ch darparwr yn uniongyrchol i gael rhagor o wybodaeth am sut mae agor ISA gyda nhw.

Agor a rheoli ISA ar ran rhywun nad oes ganddo’r gallu meddyliol i wneud hyn drosto’i hun

Gallwch wneud cais am ISA a’i reoli ar ran rhywun os yw’r canlynol yn berthnasol:

I wneud cais i ddirprwyo ar ran rhywun mewn perthynas â materion ariannol:

4. Tynnu’ch arian allan

Gallwch dynnu eich arian o Gyfrif Cynilo Unigol (ISA) unrhyw bryd, heb golli unrhyw fuddion treth. Edrychwch ar delerau eich ISA i weld a oes unrhyw reolau neu daliadau am dynnu arian allan.

Mae rheolau gwahanol ar gyfer tynnu eich arian allan o ISA Gydol Oes (yn agor tudalen Saesneg).

Os yw eich ISA yn ‘hyblyg’, gallwch dynnu arian allan ac yna ei roi yn ôl i mewn yn ystod yr un flwyddyn dreth heb leihau eich lwfans blwyddyn gyfredol. Bydd eich darparwr yn gallu dweud wrthych a yw eich ISA yn hyblyg.

Enghraifft

£20,000 yw eich lwfans ac rydych yn rhoi £10,000 mewn ISA yn ystod blwyddyn dreth 2026 i 2027. Rydych chi wedyn yn tynnu £3,000 allan.

Dyma faint gallwch ei roi i mewn yn ystod yr un flwyddyn dreth:

  • £13,000 os yw eich ISA yn hyblyg (y lwfans sy’n weddill sef £10,000 a’r £3,000 roeddech wedi’i dynnu allan)
  • £10,000 os nad yw eich ISA yn hyblyg (dim ond y lwfans sy’n weddill)

5. Trosglwyddo eich ISA

Gallwch drosglwyddo’r holl arian yn eich Cyfrif Cynilo Unigol (ISA), neu ran ohono, o un darparwr i un arall unrhyw bryd. Gallai hyn fod i fath gwahanol o ISA neu i’r un math o ISA. Gall y buddsoddiad fod wedi cael ei wneud eleni neu yn ystod y blynyddoedd blaenorol.

Mae cyfyngiadau ar y trosglwyddiadau y gallwch eu gwneud os oes gennych ISA gydol oes (yn agor tudalen Saesneg) neu ISA Iau (yn agor tudalen Saesneg).

Cyfyngiadau ar yr hyn y gallwch ei drosglwyddo

Gallwch drosglwyddo arian o’ch ISA cyllid arloesol i ddarparwr arall - ond efallai na fyddwch yn gallu trosglwyddo buddsoddiadau eraill ohono.

Holwch eich darparwr am unrhyw gyfyngiadau sydd ganddo ar drosglwyddo ISAs. Efallai y bydd hefyd yn codi ffi arnoch.

Sut mae trosglwyddo eich ISA

I newid darparwr, cysylltwch â’r darparwr ISA rydych am symud ato a llenwi ffurflen drosglwyddo ISA i symud eich cyfrif. Os byddwch yn tynnu’r arian allan heb wneud hyn, ni fyddwch yn cael ail-fuddsoddi’r rhan honno o’ch lwfans sy’n rhydd o dreth eto.

Dyddiadau cau a chwynion

Ni ddylai trosglwyddo ISA gymryd mwy na:

  • 15 diwrnod gwaith ar gyfer trosglwyddiadau rhwng ISAs arian
  • 30 diwrnod calendr ar gyfer mathau eraill o drosglwyddo

Os ydych eisiau trosglwyddo buddsoddiadau sy’n cael eu dal mewn ISA cyllid arloesol, holwch eich darparwr faint o amser bydd hynny’n ei gymryd.

Os bydd y trosglwyddo’n cymryd mwy o amser nag y dylai, cysylltwch â’ch darparwr ISA.

Os ydych yn anhapus gyda’r ymateb, gallwch godi’r mater gyda Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol.

Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol
Ffôn (ar gyfer llinellau tir): 0800 023 4567
Ffôn (ar gyfer ffonau symudol): 0300 123 9123
Dydd Llun – Dydd Gwener, 08:00 i 20:00
Dydd Sadwrn, 09:00 i 13:00
Dysgwch am gostau galwadau

6. Os byddwch yn symud dramor

Os byddwch yn agor Cyfrif Cynilo Unigol (ISA) yn y DU ac yna’n symud dramor ac yn dod yn breswylydd y tu allan i’r DU, chewch chi ddim rhoi arian ynddo (oni bai eich bod yn un o weithwyr y Goron sy’n gweithio dramor neu’n briod neu bartner sifil i unigolyn o’r fath).

Mae’n rhaid i chi roi gwybod i ddarparwr eich ISA cyn gynted ag y byddwch yn rhoi’r gorau i breswylio yn y DU.

Fodd bynnag, gallwch gadw’ch ISA ar agor a byddwch yn dal i gael rhyddhad treth y DU ar yr arian a’r buddsoddiadau sy’n cael eu dal ynddo.

Gallwch drosglwyddo ISA i ddarparwr arall hyd yn oed os nad ydych yn byw yn y DU.

Gallwch dalu arian i’ch ISA eto os byddwch yn dychwelyd ac yn breswylydd yn y DU (yn amodol ar y lwfans ISA blynyddol).

7. Os byddwch yn marw

Bydd eich ISA yn dod i ben pan fydd naill ai:

  • eich ysgutor yn ei gau
  • y gwaith o weinyddu eich ystad wedi’i gwblhau

Fel arall, bydd eich darparwr ISA yn cau eich ISA 3 blynedd ac 1 diwrnod ar ôl i chi farw.

Fydd dim angen talu unrhyw Dreth Incwm na Threth Enillion Cyfalaf hyd at y dyddiad hwnnw, ond bydd buddsoddiadau ISA yn rhan o’ch ystad at ddibenion Treth Etifeddiaeth.

ISAs stociau a chyfranddaliadau

Gellir cyfarwyddo eich darparwr ISA i naill ai:

  • gwerthu’r buddsoddiadau a thalu’r elw i weinyddwr neu fuddiolwr eich ystad
  • trosglwyddo’r buddsoddiadau i ISA eich priod neu bartner sifil sy’n fyw - dim ond os oes ganddynt yr un darparwr ISA â chi y mae hyn yn bosibl

Edrychwch ar delerau ac amodau eich ISA i gael y manylion.

8. Etifeddu ISA gan eich priod neu bartner sifil

Mae cynilion ISA yn mynd i’r buddiolwr a enwir yn yr ewyllys.

Os bydd eich priod neu’ch partner sifil yn marw gallwch etifeddu ei lwfans ISA.Ìý

Os bu farw’ch priod neu bartner sifil rhwng 3 Rhagfyr 2014 a 5 Ebrill 2018

Daeth ei ISA i ben ar ddyddiad ei marwolaeth. Bydd buddsoddiadau ISAs yn ffurfio rhan o’i ystâd/hystâd at ddibenion Treth Etifeddiant.

Gellir cyfarwyddo ei ddarparwr ISA i werthu’r buddsoddiadau a naill ai:

  • talu’r enillion i weinyddwr neu fuddiolwr yr ystâd
  • trosglwyddo’r buddsoddiadau’n uniongyrchol i’r buddiolwr

Gallwch etifeddu ei lwfans ISA. Yn ogystal â’ch lwfans ISA arferol, gallwch ychwanegu swm sy’n rhydd o dreth hyd at y gwerth a oedd ganddo/ganddi yn ei ISA pan fu farw.

Cysylltwch â’ch darparwr ISA neu ddarparwr ISA eich priod neu bartner sifil i gael y manylion.

Ni allwch etifeddu lwfans ISA rhywun os bu farw cyn 3 Rhagfyr 2014.

Os bu farw eich priod neu bartner sifil ar neu ar ôl 6 Ebrill 2018

Bydd ei ISA yn dod i ben pan fydd un o’r canlynol yn digwydd:

  • bydd yr ymddiriedolwr yn ei gau
  • bydd gweinyddu’r ystâd wedi’i gwblhau
  • 3 blynedd ar ôl i’ch priod neu bartner sifil farw

Bydd ei ISA yn dod yn ‘gyfrif buddsoddwr sydd wedi marw sy’n parhau’. Mae hyn yn golygu y bydd buddsoddiadau ISA yn ffurfio rhan o’i ystâd ond yn aros yn ddi-dreth hyd nes y caiff ei gau.Ìý

Ni ellir gwneud unrhyw daliadau newydd i’r ISA.

Yn ogystal â’ch lwfans ISA arferol, gallwch ychwanegu swm sy’n rhydd o dreth hyd at naill ai:

  • y gwerth a oedd ganddo yn ei ISA pan fu farw
  • gwerth ei ISA pan fydd yn cael ei gau

Cysylltwch â’ch darparwr ISA neu ddarparwr ISA eich priod neu bartner sifil i gael y manylion.