Gwneud didyniadau cynhaliaeth plant o gyflog gweithiwr
Gwneud taliadau gorchymyn didynnu o enillion (DEO)
Anfonwch daliadau gorchymyn didynnu o enillion (DEO) i’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant cyn gynted ag y byddwch yn gwneud didyniad.
Os na allwch wneud y didyniad llawn, rhaid i chi anfon amserlen dalu wedi’i diweddaru i’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant drwy’r post neu ar-lein.Ìý
Os oes gennych fwy nag un gweithiwr gyda DEO, anfonwch bob taliad ar wahân.Ìý
Gallwch gael dirwy o £500 am bob taliad a fethwyd a hyd at £1,000 am beidio â darparu gwybodaeth y gofynnwyd i chi amdani.%Ìý
Talu’r Gwasanaeth Cynhaliaeth PlantÌý
Gallwch dalu drwy:Ìý
- defnyddio’r gwasanaeth ar-leinÌý
- ffonio Tîm Talu Cyflogwyr y Gwasanaeth Cynhaliaeth PlantÌý
- defnyddio System Glirio Awtomataidd y Banciau (Bacs), Taliadau Cyflymach neu drosglwyddiad CHAPSÌý
- anfon siec i’r Gwasanaeth Cynhaliaeth PlantÌý
Talu gan ddefnyddio’r gwasanaeth ar-leinÌý
Gallwch . Mae angen i chi gysylltu â Thîm Talu Cyflogwyr Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant i gofrestru.Ìý
Talu dros y ffônÌý
Ffoniwch Tîm Talu Cyflogwyr Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant.Ìý
Tîm Talu Cyflogwyr Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant
Ffôn: 0800 232 1961
(os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 232 1961
Dydd Llun i Ddydd Gwener, 8am i 5pm
Darganfyddwch am gostau galwadau
Talu drwy Bacs, Taliadau Cyflymach neu CHAPSÌý
Gallwch wneud trosglwyddiad o’ch cyfrif banc naill ai drwy Bacs, Taliadau Cyflymach neu CHAPS.Ìý
Dylech ddefnyddio:Ìý
- cod didoli: 60 70 80Ìý
- rhif cyfrif: 10026584Ìý
- enw cyfrif: DWPCMGEMPLOYERÌý
- cod cyfrif: 0Ìý
- cod trafodiad: 99Ìý
Bydd angen i chi roi rhif Yswiriant Gwladol y gweithiwr fel y cyfeirnod.Ìý
Talu drwy siecÌý
Anfonwch siec yn daladwy i ‘Child Maintenance Service’.Ìý
Child Maintenance Service 21ÌýÌý
Mail Handling Site AÌýÌý
°Â´Ç±ô±¹±ð°ù³ó²¹³¾±è³Ù´Ç²ÔÌýÌý
WV98 2BUÌýÌý
Rhaid i’r siec:Ìý
- gyd-fynd â’r swm ar yr amserlen daluÌý
- cynnwys rhif cyfeirnod eich cyflogwr ar y cefn - mae hwn yn rhif 12 digid sy’n dechrau gyda 5Ìý
- cynnwys rhif Yswiriant Gwladol eich gweithiwr ar y cefnÌý
Os oes gennych fwy nag un gweithiwr gyda Gorchymyn Diddymu Enillion, anfonwch gopi o’ch amserlen dalu gyda’r siec.Ìý
Os oes angen help arnoch gyda thaliadÌý
Gallwch naill ai:Ìý
- Ìý
- ffonio Tîm Taliadau Cyflogwyr Gwasanaeth Cynhaliaeth PlantÌý
Tîm Taliadau Cyflogwyr Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant
Ffôn: 0800 232 1961
(os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 232 1961
Dydd Llun i Ddydd Gwener, 8am i 5pm
Darganfyddwch am gostau galwadau
Dywedwch wrth eich gweithiwrÌý
Rhaid i chi ddweud wrth eich gweithiwr yn ysgrifenedig am bob didyniad pan fyddwch chi’n rhoi eu slip cyflog iddyn nhw. Cynhwyswch a ydych chi wedi cymryd costau gweinyddol o £1.Ìý