°Ç¸ç³Ô¹Ï

Skip to main content

Cynhaliaeth plant os yw rhiant yn byw dramor

Printable version

1. Trosolwg

Mae rheolau gwahanol ar gyfer cynhaliaeth plant os yw rhiant yn byw dramor.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Gwneud cais newydd

Os yw’r plentyn a’r rhiant sydd â’r prif ofal dyddiol yn byw dramor, ni allwch wneud cais newydd i’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant.

Os yw’r rhiant heb brif ofal dyddiol yn byw dramor, dim ond os ydynt yn gweithio i rai sefydliadau Prydeinig y gall y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant helpu.

Os na allwch wneud cais drwy’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant, gallwch wneud trefniant cynhaliaeth plant preifat.

Gorfodi penderfyniad cynhaliaeth plant

Gallwch ofyn i lys am help os na fydd y rhiant arall yn talu’r gynhaliaeth plant sy’n ddyledus i chi ganddynt. Gelwir hyn yn cymryd ‘camau gorfodi’.

Ni allwch orfodi trefniant cynhaliaeth plant preifat a wnaethoch eich hun – rydych angen ei wneud yn gyfreithiol rwymol yn gyntaf.

Gallwch hefyd ofyn i’r llys newid penderfyniad cynhaliaeth plant presennol neu wneud un newydd.

Mae sut y gallwch orfodi, newid neu wneud penderfyniad yn dibynnu ar:

  • ble mae’r rhiant arall yn byw
  • lle y gwnaed eich penderfyniad gwreiddiol

Mae gan y DU gytundeb Cydorfodi Gorchmynion Cynhaliaeth (REMO) gyda nifer o wledydd eraill. Gall llysoedd mewn ‘gwledydd REMO’ orfodi penderfyniadau cynhaliaeth plant a wnaed gan lysoedd y DU.

Cynhaliaeth plant yn yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon

Mae’r broses yn wahanol os ydych chi’n byw yn yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon neu os ydych eisiau gorfodi penderfyniad a wnaed yn wreiddiol yn yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon.

Cynhaliaeth plant yn yr Alban

Cysylltwch â Llywodraeth yr Alban am gyngor.

maintenanceenforcement@gov.scot
Rhif ffôn: 0131 244 3570 neu 0131 244 4829
Ffacs: 0131 244 4848
Gwybodaeth am gost galwadau

The Scottish Government Justice Directorate
Central Authority and International Law Team
St Andrew’s House
Regent Road
Edinburgh
EH1 3DG

Cynhaliaeth plant yng Ngogledd Iwerddon

Cysylltwch â Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Gogledd Iwerddon am gyngor.

Northern Ireland Courts and Tribunals Service
Laganside House
23 - 27 Oxford Street
Belfast
BT1 3LA

2. Os yw’r rhiant arall yn byw dramor

Mae sut y cewch benderfyniad ynghylch cynhaliaeth plant yn dibynnu ar p’un a yw’r rhiant arall yn byw mewn gwlad lle mae Cydorfodi Gorchmynion Cynhaliaeth (REMO) yn berthnasol. Gwiriwch y rhestr o wledydd REMO .

Os nad yw’r rhiant arall yn byw mewn gwlad REMO, ceisiwch gyngor cyfreithiol gan gyfreithiwr i gael gwybod a allwch orfodi’r penderfyniad ai peidio.

Os yw’r rhiant arall yn byw mewn gwlad REMO

Sut i wneud cais

Os yw’r rhiant arall yn byw mewn gwlad REMO, cysylltwch â’r Ganolfan Fusnes Gorfodi Cynhaliaeth (MEBC) drwy’r post neu e-bost.

Bydd y MEBC yn gofyn cwestiynau i chi i wirio eich bod yn gymwys. Os ydych yn gymwys, byddant yn anfon ffurflen gais a chanllawiau atoch i’ch helpu i wneud cais.

Yn dibynnu ar eich sefyllfa, efallai y bydd angen i chi fynychu gwrandawiad llys yn y DU neu dalu ffi’r llys. Bydd eich canllawiau ategol yn esbonio hyn yn fanylach.

Dywedwch wrth y MEBC os nad ydych eisiau i’r rhiant arall weld gwybodaeth benodol amdanoch chi, fel eich cyfeiriad.

Llenwch y ffurflen a’i hanfon yn ôl i’r MEBC gydag unrhyw ddogfennau ategol.

Cysylltwch â’r MEBC os oes gennych unrhyw gwestiynau.

Ar ôl ichi wneud cais

Bydd eich cais wedi’i lenwi yn cael ei anfon i’r llys yn y wlad lle mae’r rhiant arall yn byw.

Yna bydd y llys tramor yn penderfynu a ddylid talu (‘dyfarnu’) cynhaliaeth plant ai peidio. Gall hefyd benderfynu a ddylid gorfodi’r taliad ai peidio.

Gallwch gysylltu â’r MEBC i gael gwybod sut mae eich cais yn mynd rhagddo. Peidiwch â chysylltu â’r llys tramor.

Cysylltu â’r Ganolfan Fusnes Gorfodi Cynhaliaeth (MEBC)

Pan fyddwch yn cysylltu â’r MEBC, dywedwch wrthynt beth yw:

  • eich enw llawn
  • eich cyfeiriad e-bost
  • eich rhif ffôn
  • rhif yr achos, os oes gennych un

Os ydych yn gwneud cais am y tro cyntaf, bydd angen i chi hefyd ddweud wrthynt:

  • ym mha wlad yr ydych yn byw
  • ym mha wlad y mae’r rhiant arall yn byw

Canolfan Fusnes Gorfodi Cynhaliaeth
Triton House
St Andrews Street North
Bury St Edmunds
Suffolk
IP33 1TR

Dim ond un MEBC sydd yna yn awr ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae MEBC Cymru a MEBC Llundain wedi cau.

3. Gorfodi penderfyniad cynhaliaeth plant os ydych chi’n byw dramor

Gallwch dal orfodi penderfyniad cynhaliaeth plant os yw’r rhiant arall yn byw yn y DU ond rydych chi’n byw mewn gwlad arall.

Gwiriwch os ydych yn byw mewn gwlad sy’n gallu gorfodi penderfyniad cynhaliaeth plant a wnaed yn y Deyrnas Unedig. Gelwir hyn yn gwlad Cydorfodi Gorchmynion Cynhaliaeth (REMO).

Os ydych yn byw mewn gwlad REMO, gofynnwch i’r llys ble rydych yn byw i orfodi’r penderfyniad.

Efallai y byddwch dal yn gallu gorfodi penderfyniad os nad ydych yn byw mewn gwlad REMO. Ceisiwch gyngor cyfreithiol gan gyfreithiwr yn y wlad lle rydych chi’n byw neu yn y DU.