Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes
Printable version
1. Trosolwg
Mae’r Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes wedi cau. Bydd yn ailagor ym mis Hydref 2026.
Rhagor o wybodaeth am beth i’w wneud os na chawsoch eich gostyngiad ar gyfer gaeaf 2025 i 2026.
Mae’r Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes yn ostyngiad untro o £150 oddi ar eich bil trydan.
Os ydych chi’n gymwys, bydd eich cyflenwr trydan yn rhoi’r gostyngiad ar eich bil. Dyw’r arian ddim yn cael ei dalu i chi.
Fel arfer, byddwch chi’n cael y gostyngiad yn awtomatig os ydych chi’n gymwys. Dim ond os ydych chi ar incwm isel yn yr Alban y mae angen ichi wneud cais – cysylltwch â’ch cyflenwr ynni i wneud cais.
Efallai y gallwch chi gael y gostyngiad ar eich bil nwy yn lle’ch bil trydan os yw’ch cyflenwr yn darparu nwy a thrydan i chi a’ch bod chi’n gymwys. Cysylltwch â’ch cyflenwr i gael gwybod.
Mae’r canllaw yma hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Fydd y gostyngiad ddim yn effeithio ar eich Taliad Tywydd Oer ²Ô²¹â€™c³ó Taliad Tanwydd Gaeaf.
Cymhwystra
Mae gwahanol ffyrdd o fod yn gymwys ar gyfer y Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes, gan ddibynnu ble rydych chi’n byw.
Os ydych chi’n byw yng Nghymru a Lloegr
Rydych chi’n gymwys os ydych chi naill ai:
Os ydych chi’n byw yn yr Alban
Rydych chi’n gymwys os ydych chi naill ai:
-
ar incwm isel yn yr Alban ac yn bodloni meini prawf eich cyflenwr ynni ar gyfer y cynllun
Dyw’r Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes ddim ar gael yng Ngogledd Iwerddon. .
Mesuryddion talu ymlaen llaw neu dalu wrth fynd
Rydych chi’n dal yn gallu bod yn gymwys i gael y gostyngiad os ydych chi’n defnyddio mesurydd trydan talu ymlaen llaw neu fesurydd talu wrth fynd.
Gall eich cyflenwr trydan ddweud wrthoch chi sut y byddwch chi’n cael y gostyngiad os ydych chi’n gymwys, er enghraifft taleb y gallwch ei defnyddio i ychwanegu at eich mesurydd.
Cartrefi (symudol) mewn parc
Rydych chi’n gwneud cais mewn ffordd wahanol os ydych chi’n byw mewn cartref mewn parc.
.
2. Os ydych chi'n cael yr elfen Credyd Gwarant o’r Credyd Pensiwn
Mae’r Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes wedi cau. Bydd yn ailagor ym mis Hydref 2026.
Rhagor o wybodaeth am beth i’w wneud os na chawsoch eich gostyngiad ar gyfer gaeaf 2025 i 2026.
Rydych chi’n gymwys i gael y gostyngiad os oedd y canlynol i gyd yn gymwys ar 24 Awst 2025:
-
bod eich cyflenwr ynni yn rhan o’r cynllun
-
bod eich enw chi (neu enw’ch partner) ar y bil trydan
-
eich bod chi neu’ch partner yn cael yr elfen Credyd Gwarant o’r Credyd Pensiwn (hyd yn oed os ydych chi’n cael Credyd Cynilo hefyd)
Yr enw ar hyn yw’r ‘grŵp craidd 1’ yng Nghymru a Lloegr. Yn yr Alban, dyma’r ‘grŵp craidd’.
Os nad ydych chi’n cael yr elfen Credyd Gwarant o’r Credyd Pensiwn, efallai y byddwch chi’n dal yn gymwys os ydych chi:
Os ydych chi’n gymwys
Bydd eich cyflenwr trydan yn rhoi’r gostyngiad ar eich bil. Dydy’r arian ddim yn cael ei dalu i chi.
3. Os ydych chi ar incwm isel yng Nghymru a Lloegr
Mae’r Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes wedi cau. Bydd yn ailagor ym mis Hydref 2026.
Rhagor o wybodaeth am beth i’w wneud os na chawsoch eich gostyngiad ar gyfer gaeaf 2025 i 2026.
Os nad ydych chi’n cael yr elfen Credyd Gwarant o’r Credyd Pensiwn, efallai y byddwch chi’n dal yn gymwys i gael y Gostyngiad Cartref Cynnes.
Efallai y byddwch chi’n gymwys os oedd y canlynol i gyd yn gymwys ar 24 Awst 2025:
- bod eich cyflenwr ynni yn rhan o’r cynllun
- eich bod chi (neu’ch partner) yn cael budd-daliadau penodol sydd â phrawf moddion
- bod eich enw chi (neu enw’ch partner) ar y bil trydan
Yr enw ar hyn yw ‘grŵp craidd 2’.
Budd-daliadau cymwys
Y budd-daliadau cymwys sy’n seiliedig ar brawf modd yw:
- Budd-dal Tai
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy’n gysylltiedig ag incwm (ESA)
- Lwfans Ceisio Gwaith ar sail incwm (JSA)
- Cymorth Incwm
- y rhan ‘Credyd Cynilion’ o Gredyd Pensiwn
- Credyd Cynhwysol
Os ydych chi’n gymwys
Bydd eich cyflenwr trydan yn rhoi’r gostyngiad ar eich bil. Dydy’r arian ddim yn cael ei dalu i chi.
4. Os ydych chi ar incwm isel yn yr Alban
Mae’r Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes wedi cau. Bydd yn ailagor ym mis Hydref 2026.
Rhagor o wybodaeth am beth i’w wneud os na chawsoch eich gostyngiad ar gyfer gaeaf 2025 i 2026.
Does dim angen ichi wneud cais os ydych chi’n cael yr elfen Credyd Gwarant o’r Credyd Pensiwn. Fe gewch chi lythyr yn awtomatig yn dweud wrthoch chi am y gostyngiad os ydych chi’n gymwys.
Fel arall, bydd angen ichi wneud cais yn uniongyrchol i’ch cyflenwr ynni.
Efallai y byddwch chi’n gymwys os yw’r canlynol i gyd yn gymwys:
- bod eich cyflenwr ynni yn rhan o’r cynllun
- eich bod chi (neu’ch partner) yn cael budd-daliadau penodol sydd â phrawf moddion
- bod eich enw chi (neu enw’ch partner) ar y bil trydan
Efallai y bydd gan eich cyflenwr trydan feini prawf cymhwystra ychwanegol. Byddan nhw hefyd yn dweud wrthoch chi pa fudd-daliadau sy’n golygu eich bod chi’n gymwys.
Yr enw ar hyn yw y ‘grŵp ehangach’.
Os ydych chi’n gymwys
Bydd eich cyflenwr trydan yn rhoi’r gostyngiad ar eich bil. Dydy’r arian ddim yn cael ei dalu i chi.
5. Cyflenwyr ynni
Mae’r Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes wedi cau. Bydd yn ailagor ym mis Hydref 2026.
Rhagor o wybodaeth am beth i’w wneud os na chawsoch eich gostyngiad ar gyfer gaeaf 2025 i 2026.
Mae’r darparwyr canlynol yn rhan o’r cynllun:
-
100Green (Green Energy UK neu GEUK gynt)
-
Affect Energy – gweler Octopus Energy
-
Boost
-
British Gas
-
Bulb Energy – gweler Octopus Energy
-
Co-op Energy - gweler Octopus Energy
-
E – sydd hefyd yn cael ei adnabod fel E (Gas and Electricity)
-
Ecotricity
-
E.ON Next
-
EDF
-
Fuse Energy
-
Good Energy
-
Home Energy
-
London Power
-
Octopus Energy
-
Outfox Energy
-
OVO
-
Sainsbury’s Energy
-
Scottish Gas – gweler Nwy Prydain
-
ScottishPower
-
Shell Energy Retail
-
So Energy
-
Tomato Energy
-
TruEnergy
-
Tulo Energy
-
Utilita
-
Utility Warehouse
Os nad yw’ch cyflenwr chi’n masnachu mwyach
Os yw’r , efallai y byddwch chi’n dal yn gymwys i gael Gostyngiad Cartrefi Cynnes. Bydd Ofgem yn penodi’ch cyflenwr newydd i chi.
Cysylltwch â’ch cyflenwr newydd os ydych chi’n gymwys i gael y gostyngiad.
6. Os na chawsoch eich gostyngiad ar gyfer gaeaf 2025 i 2026
Cysylltwch â’ch cyflenwr trydan os yw’r ddau beth canlynol yn gymwys:
- eich bod chi heb gael eich gostyngiad erbyn 31 Mawrth 2026
- bod gennych chi gadarnhad eich bod yn gymwys ar gyfer y cynllun ar gyfer gaeaf 2025 i 2026
Fe fydd gennych chi gadarnhad eich bod yn gymwys:
- os cawsoch chi lythyr gan y Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes yn dweud eich bod yn gymwys
- os dywedodd llinell gymorth y Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes wrthoch chi eich bod yn gymwys
- os dywedodd rhywun wrthoch chi eich bod yn gymwys pan wnaethoch chi gais i’ch cyflenwr trydan (os ydych chi ar incwm isel yn yr Alban)
Os na all eich cyflenwr trydan helpu
Ysgrifennwch at y Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes os oes gennych chi gadarnhad eich bod yn gymwys ond bod eich cyflenwr wedi methu rhoi’r gostyngiad i chi.
Dylech chi gynnwys:
- eich enw, eich cyfeiriad a’ch dyddiad geni
- y rhif cyfeirnod ar eich llythyr cadarnhau, os oes un gennych
- enw’ch cyflenwr trydan a’ch rhif cyfrif
- enw’r person ar y bil trydan ar 11 Awst 2024 (os yw’n wahanol i’ch enw chi)
Y Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes
PO Box 970
Preston
PR2 0FX