°Ç¸çłÔšĎ

Skip to main content

Deall labelu bwyd

Printable version

1. Trosolwg

Mae angen i chi ddeall yr wybodaeth ar labeli bwyd er mwyn i chi allu penderfynu a yw bwyd yn ddiogel i chi ei fwyta. Mae hyn yn cynnwys:

  • dyddiadau ‘defnyddio erbyn’ ac ‘ar ei orau cyn’

  • labeli alergenau

  • labeli figan

  • labeli ‘rhydd rhag’

Mae’r canllawiau hyn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Beth i’w wneud os yw label bwyd yn gamarweiniol

Mae’n rhaid i fusnesau bwyd ddilyn rheolau penodol wrth labelu eu cynhyrchion.

Mae’n rhaid i labeli ddangos gwybodaeth benodol. Mae’n rhaid iddyn nhw fod yn gywir a pheidio â bod yn gamarweiniol.

Gallwch gysylltu â i roi gwybod am fusnes bwyd os ydych chi’n credu bod rhywfaint o wybodaeth ar goll ar label, neu fod yr wybodaeth yn gamarweiniol mewn perthynas â’r canlynol:

  • honiadau iechyd

  • cynhwysion

  • pwysau

  • disgrifiad y cynnyrch

  • alergenau

Os ydych chi’n byw yng Ngogledd Iwerddon, gallwch gysylltu â’ch tîm diogelwch bwyd lleol os oes problem gyda gwybodaeth goll neu gamarweiniol. Am unrhyw broblemau eraill gyda’r pwysau neu’r mesuriadau ar labeli bwyd, cysylltwch â Safonau Masnach.

2. Dyddiadau ‘ar ei orau cyn’ a ‘defnyddio erbyn’

Mae’n rhaid i’r rhan fwyaf o fwydydd sydd wedi’u pecynnu ymlaen llaw ddangos naill ai dyddiad ‘defnyddio erbyn’ neu ddyddiad ‘ar ei orau cyn’.

Mae dyddiadau ‘defnyddio erbyn’ yn ymwneud â diogelwch y bwyd, tra bo dyddiadau ‘ar ei orau cyn’ yn ymwneud ag ansawdd y bwyd.

Gweithgynhyrchwyr sy’n penderfynu a fyddan nhw’n rhoi dyddiad ‘defnyddio erbyn’ neu ddyddiad ‘ar ei orau cyn’ ar eu cynhyrchion. Mae hyn yn dibynnu ar y math o fwyd a pha mor debygol yw hi y bydd y bwyd dan sylw yn mynd yn anniogel i’w fwyta dros amser.

Gwiriwch label y bwyd i weld a oes ganddo ddyddiad ‘defnyddio erbyn’ neu ‘ar ei orau cyn’.

Mae’r canllawiau hyn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Dyddiadau ‘defnyddio erbyn’ (‘use-by’)

Mae dyddiadau ‘defnyddio erbyn’ ar labeli bwyd yn dweud wrthych chi pryd mae bwyd bellach yn anniogel i’w fwyta. Mae’n rhaid eu dangos ar fwydydd sy’n mynd yn ddrwg yn gyflym, fel cynhyrchion cig a saladau parod i’w bwyta.

Gallai bwyta bwyd ar ôl y dyddiad ‘defnyddio erbyn’ eich gwneud chi’n sâl.

Bydd y label yn dweud wrthych chi sut i storio’r bwyd yn iawn hyd nes y byddwch chi eisiau ei fwyta, gan gynnwys beth i’w wneud ar ôl i chi agor y pecyn. Er enghraifft, os yw’r cyfarwyddiadau ar y deunydd pecynnu yn dweud wrthych chi am roi’r bwyd yn yr oergell ar ôl ei agor, dylech chi gadw’r bwyd mewn oergell ar 5°C neu is.

Os na fyddwch chi’n storio bwyd yn iawn, gallai ddod yn anniogel i’w fwyta cyn y dyddiad ‘defnyddio erbyn’.

Pryd gallwch chi fwyta bwyd ar ôl y dyddiad ‘defnyddio erbyn’

Gallwch fwyta bwyd ar ôl y dyddiad ‘defnyddio erbyn’ os cafodd ei goginio neu ei rewi ar y dyddiad ‘defnyddio erbyn’, neu cyn y dyddiad hwnnw.

Os byddwch chi’n coginio bwyd cyn y dyddiad ‘defnyddio erbyn’, dylech chi ei oeri a’i gadw yn yr oergell. Yna, mae’n rhaid i chi ei fwyta o fewn 48 awr neu ei rewi i’w fwyta yn hwyrach.

Os byddwch chi’n rhewi bwyd cyn y dyddiad ‘defnyddio erbyn’, ni fydd yn dirywio gan na all bacteria dyfu ar fwyd sydd wedi’i rewi. Dylech chi gadw’ch rhewgell ar -18°C a dilyn y cyfarwyddiadau rhewi a dadmer ar y label. Dylech chi hefyd labelu’r bwyd fel eich bod chi’n gwybod beth yw ef a phryd cafodd ei rewi.

Unwaith y bydd y bwyd wedi dadmer, mae angen i chi ei ddefnyddio o fewn 24 awr.

Dyddiadau ‘ar ei orau cyn’

Mae ansawdd rhai bwydydd yn gwaethygu dros amser. Mae’r dyddiad ‘ar ei orau cyn’, sydd weithiau i’w weld ar y pecyn fel ‘best before end’ (BBE), yn dweud wrthych chi pryd gallai ansawdd y bwyd ddechrau gwaethygu. Dylai dyddiadau ‘ar ei orau cyn’ ymddangos ar gynhyrchion fel:

  • bwydydd wedi’u rhewi (er enghraifft, pys, sglodion a hufen iâ)

  • bwydydd sych (er enghraifft, pasta a reis)

  • bwydydd tun (er enghraifft, ffa pob a thomatos tun)

  • caws

Ar ôl y dyddiad ‘ar ei orau cyn’, bydd y bwyd fel arfer yn ddiogel i’w fwyta ond efallai na fydd o’r un ansawdd.

Mae’r label yn dweud wrthych chi sut i storio’r bwyd yn iawn nes y byddwch chi eisiau ei fwyta.

Os na fyddwch chi’n storio bwyd yn iawn, gallai ansawdd y bwyd waethygu cyn y dyddiad ‘ar ei orau cyn’.

Ar ôl y dyddiad ‘ar ei orau cyn’, gallwch chi ystyried golwg, blas neu arogl bwyd i benderfynu a ddylech chi ei fwyta – er enghraifft, drwy wneud y canlynol:

  • chwilio am lwydni amlwg ar fara

  • blasu bisgedi neu greision i weld a ydyn nhw wedi mynd yn hen

  • arogli rhai cynhyrchion llaeth i weld a ydyn nhw wedi suro

3. Labeli alergenau

Mae 14 o alergenau y mae’n rhaid i fusnesau bwyd eu datgan os ydyn nhw yn eu cynhyrchion bwyd neu ddiod. Yr alergenau hyn yw:

  • seleri

  • grawnfwydydd sy’n cynnwys glwten – gan gynnwys gwenith, rhyg (‘rye’), haidd (‘barley’) a cheirch

  • cramenogion (‘crustaceans’) – gan gynnwys corgimychiaid, crancod a chimychiaid

  • wyau

  • pysgod

  • bysedd y blaidd (‘lupin’)

  • llaeth

  • molysgiaid – gan gynnwys mĂ´r-lewys (‘squid’), cregyn gleision, cocos, cregyn moch (‘whelks’) a malwod

  • mwstard

  • cnau

  • pysgnau

  • hadau sesame

  • ffa soia

  • sylffwr deuocsid neu sylffitau ar lefelau dros 10mg y cilogram neu’r litr

Mae’r canllawiau hyn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Gall labeli bwyd roi gwybodaeth am alergenau i chi mewn sawl ffordd wahanol. Gall hyn ddibynnu ar y mathau o fwydydd neu ddiodydd rydych chi’n eu prynu ac o ba fathau o fusnesau y maen nhw’n dod.

Dysgwch beth i’w wneud wrth fwyta allan neu archebu bwyd pan fydd gennych alergedd.

Bwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw

Ystyr bwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw yw unrhyw fwydydd neu ddiodydd sy’n cael eu rhoi mewn deunydd pecynnu gan weithgynhyrchwr cyn iddyn nhw gael eu rhoi ar werth gan fusnes bwyd arall. Dyma rai enghreifftiau o gynhyrchion sydd wedi’u pecynnu ymlaen llaw:

  • pecynnau o greision

  • caniau o ddiodydd pop

  • bara wedi’i becynnu

Os yw bwydydd neu ddiodydd sydd wedi’u pecynnu ymlaen llaw yn cynnwys unrhyw un o’r 14 o alergenau, mae’n rhaid i’r label ddangos hyn yn glir yn y rhestr gynhwysion. Er enghraifft, gallai’r alergenau fod mewn print trwm, italig neu liw gwahanol.

Bwyd wedi’i becynnu ymlaen llawn i’w werthu’n uniongyrchol (PPDS)

Ystyr cynhyrchion PPDS yw bwydydd neu ddiodydd sydd wedi’u pecynnu ar y safle lle maen nhw’n cael eu gwerthu cyn i chi eu dewis. Dyma rai enghreifftiau o gynhyrchion PPDS:

  • brechdanau wedi’u pecynnu ar y safle mewn caffi

  • danteithion crwst neu gacennau wedi’u pecynnu ar y safle mewn becws

  • bocsys salad wedi’u pecynnu ymlaen llaw mewn deli

  • byrgyrs wedi’u pecynnu ar y safle mewn siop gig

Mae’n rhaid i’r alergenau gael eu labelu’n glir yn rhestr gynhwysion y bwyd neu ddiod PPDS hefyd. Gallwch ofyn i’r busnes am gynhwysion a dylech sôn wrthyn nhw am eich alergedd neu anoddefiad.

Bwyd rhydd

Mae bwyd rhydd nad yw wedi’i becynnu ymlaen llaw (‘non-prepacked food’) yn cynnwys:

  • bwyd sy’n cael ei werthu’n rhydd mewn siopau manwerthu (er enghraifft, rholiau bara heb eu lapio wrth gownter becws, ffrwythau a llysiau rhydd a salad o gownter hunanwasanaeth)

  • bwyd nad yw’n cael ei werthu wedi’i becynnu ymlaen llaw (er enghraifft, prydau mewn bwytai wedi’u gweini ar blatiau, prydau tecawĂŞ a gaiff eu pecynnu ar Ă´l eu harchebu ac eitemau wedi’u torri a’u lapio ar gais wrth gownteri deli)

Mae’n rhaid i fusnesau bwyd roi gwybodaeth am alergenau i chi ar gyfer unrhyw eitem rhydd rydych chi’n ei brynu sy’n cynnwys unrhyw un o’r 14 alergen. Gall busnesau roi’r wybodaeth hon ar lafar neu’n ysgrifenedig. Os byddan nhw’n rhoi’r wybodaeth ar lafar, mae’n rhaid iddyn nhw roi gwybod i chi ble gallwch chi ddod o hyd i gadarnhad ysgrifenedig.

Labeli ‘rhydd rhag’

Mae labeli diogelwch bwyd fel ‘rhydd rhag’ neu ‘rhydd rhag alergenau’ yn warant nad yw’r alergen dan sylw yn y cynnyrch. Mae’n rhaid i fusnesau bwyd sy’n creu cynhyrchion bwyd ‘rhydd rhag’ neu ‘rhydd rhag alergenau’ ddilyn prosesau llym i atal croeshalogi.

Os nad yw busnes yn gallu cael gwared ar y risg o groeshalogi, dyai roi gwybod i chi. Ni ddylai wneud unrhyw honiadau ‘rhydd rhag’.

Nid yw labeli figan yn gwarantu bod y bwyd yn rhydd rhag alergen penodol.

Labelu alergenau rhagofalus (PAL)

Gall busnesau ddefnyddio’r broses o labelu alergenau rhagofalus i ddweud wrth gwsmeriaid y gallai olion alergenau fod wedi mynd i mewn i gynhyrchion ar ddamwain. Yn aml, bydd y labeli hyn yn defnyddio geiriad fel “gallai gynnwys llaeth” neu “ddim yn addas i bobl ag alergedd i gnau”.

Nid yw’n ofynnol yn ôl y gyfraith i fusnesau bwyd ddefnyddio’r broses PAL.

4. Labeli bwyd figan

Nid oes diffiniad cyfreithiol o fwyd figan yng nghyfraith y DU, ond mae’n rhaid i fusnesau labelu bwyd yn gywir a pheidio â bod yn gamarweiniol.

Mae’r canllawiau hyn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Os yw label bwyd yn dweud bod cynnyrch yn figan neu’n ddiogel i figaniaid, mae’n golygu nad oes unrhyw gynhwysion sy’n deillio o anifeiliaid wedi’u defnyddio’n fwriadol wrth greu’r cynnyrch.

Nid yw label figan yn gwarantu nad yw’r cynnyrch yn cynnwys unrhyw gynhwysion sy’n deillio o anifeiliaid.

Gall bwyd figan gael ei baratoi mewn mannau a ffatrïoedd lle mae alergenau neu gynhwysion sy’n deillio o anifeiliaid yn bresennol. Mae hyn yn golygu y gallai cynhwysion sy’n deillio o anifeiliaid fod yn y cynnyrch o ganlyniad i groeshalogi.

Os yw busnes bwyd wedi labelu cynnyrch fel un figan, ond wedi canfod risg o groeshalogi, dylai wneud yn siŵr bod y label yn dangos hyn yn glir. Gall y busnes wneud hyn drwy ddefnyddio’r broses o labelu alergenau rhagofalus (PAL), er enghraifft drwy gynnwys datganiad ‘gallai gynnwys’ ar y label.

Os oes gennych alergedd neu anoddefiad

Ni ddylech gymryd yn ganiataol bod cynnyrch sydd wedi’i labelu fel un figan yn ddiogel i’w fwyta os oes gennych alergedd bwyd neu anoddefiad i’r canlynol:

  • llaeth

  • wyau

  • cramenogion

  • pysgod

  • molysgiaid

Mae labeli diogelwch bwyd fel ‘rhydd rhag’ neu ‘rhydd rhag alergenau’ yn warant nad yw’r alergen dan sylw yn y cynnyrch. Mae’n rhaid i fusnesau bwyd sy’n creu cynhyrchion bwyd ‘rhydd rhag’ neu ‘rhydd rhag alergenau’ ddilyn prosesau llym i atal croeshalogi.

Fodd bynnag, nid oes rhaid i fusnesau ddilyn y prosesau hyn i labelu bwyd yn figan. Felly, mae dal i fod siawns o groeshalogi ag alergenau sy’n deillio o anifeiliaid.