Defnyddio eich °Ç¸ç³Ô¹Ï One Login
Printable version
1. Mewngofnodi i'ch °Ç¸ç³Ô¹Ï One Login
Ar hyn o bryd gallwch ond ei ddefnyddio i gael mynediad i rai gwasanaethau’r llywodraeth. Gweler y .
Nid yw’n gweithio gyda holl gyfrifon a gwasanaethau’r llywodraeth eto (er enghraifft Credyd Cynhwysol).
Dros amser, bydd °Ç¸ç³Ô¹Ï One Login yn disodli’r holl ffyrdd eraill o fewngofnodi i wasanaethau ar °Ç¸ç³Ô¹Ï, gan gynnwys Porth y Llywodraeth.
Mae’r gwasanaeth ar-lein ar gael yn Saesneg (English) hefyd.
Os ydych angen °Ç¸ç³Ô¹Ï One Login i ddefnyddio gwasanaeth, ac nad oes gennych un yn barod, byddwch yn gallu creu un pan fyddwch yn defnyddio’r gwasanaeth hwnnw am y tro cyntaf.
Mewngofnodwch i:
- newid eich manylion mewngofnodi (cyfeiriad e-bost, cyfrinair neu sut rydych yn cael codau diogelwch)
- gweld a chael mynediad at y gwasanaethau rydych wedi’u defnyddio gyda’ch °Ç¸ç³Ô¹Ï One Login
- dileu eich °Ç¸ç³Ô¹Ï One Login
Cael help i ddefnyddio °Ç¸ç³Ô¹Ï One Login
Gallwch i gael help, rhoi gwybod am broblem neu roi adborth.
Gallwch hefyd ofyn i rywun rydych yn eu hadnabod ac yn ymddiried ynddynt i’ch helpu os nad ydych yn teimlo’n gyfforddus yn defnyddio °Ç¸ç³Ô¹Ï One Login ar eich pen eich hun. Darganfyddwch beth gall ac na all y person rydych yn gofyn iddynt eich helpu gyda.
Sut mae °Ç¸ç³Ô¹Ï One Login yn defnyddio’ch gwybodaeth
I gael gwybod sut mae eich gwybodaeth yn cael ei storio a’i defnyddio pan fyddwch yn defnyddio °Ç¸ç³Ô¹Ï One Login, gweler hysbysiad preifatrwydd °Ç¸ç³Ô¹Ï One Login.
2. Profi eich hunaniaeth gyda °Ç¸ç³Ô¹Ï One Login
Bydd angen i chi brofi eich hunaniaeth gyda °Ç¸ç³Ô¹Ï One Login i ddefnyddio rhai gwasanaethau. Pan fyddwch yn gwneud hyn, bydd eich gwybodaeth One Login yn cael ei storio’n awtomatig i’ch °Ç¸ç³Ô¹Ï One Login.
Mae hyn yn golygu na fydd angen i chi brofi eich hunaniaeth eto y tro nesaf y bydd angen i wasanaeth wirio pwy ydych chi.
Mae yna 3 ffordd i brofi eich hunaniaeth gyda °Ç¸ç³Ô¹Ï One Login:
- gyda’r ap °Ç¸ç³Ô¹Ï One Login
- drwy ateb cwestiynau diogelwch ar-lein
- mewn Swyddfa Bost
Bydd y dull a ddefnyddiwch yn dibynnu ar eich dyfais, os oes gennych ID gyda llun a pha fath o ID gyda llun sydd gennych.
Gyda’r ap °Ç¸ç³Ô¹Ï One Login
Byddwch angen mynediad i ffôn gyda chamera sy’n gweithio.
Os ydych yn defnyddio iPhone, rhaid iddo fod yn:
- iPhone 8 neu fwy newydd
- rhedeg iOS 16.7 neu uwch
Ar gyfer ffôn Android (er enghraifft, Samsung neu Google Pixel), rhaid iddo fod yn rhedeg Android 10 neu uwch.
Byddwch yn cael arweiniad ar sut i lawrlwytho a defnyddio’r ap.
Y mathau o ID gyda llun y gallwch eu ddefnyddio yn yr ap
Byddwch angen un o’r mathau canlynol o ID gyda llun:
- trwydded yrru cerdyn llun y DU
- pasbort y DU
- pasbort o’r tu allan i’r DU gyda sglodyn biometrig
- trwydded breswylio biometreg y DU (BRP)
- cerdyn preswylio biometreg y DU (BRC)
- trwydded Gweithwyr Ffiniol y DU (FWP)
Os yw’ch ID gyda llun wedi dod i ben
Ni allwch ddefnyddio pasbort sydd wedi dod i ben i brofi eich hunaniaeth gyda’r ap.
Gallwch ddefnyddio trwydded yrru sydd wedi dod i ben os daeth i ben yn y 90 diwrnod diwethaf a cafodd ei chyhoeddi gan DVLA.
Gallwch ddefnyddio BRP, BRC neu FWP sydd wedi dod i ben os yw wedi dod i ben yn ystod y 18 mis diwethaf.
Trwy ateb cwestiynau diogelwch ar-lein
Bydd yn rhaid i chi ateb rhai cwestiynau diogelwch am naill ai:
- pethau ariannol - fel eich contract ffôn symudol, ac unrhyw gyfrifon banc, cardiau credyd, benthyciadau neu forgeisi a allai fod gennych
- eich Taliad Annibyniaeth Personol (PIP), os ydych yn ei gael
Mae angen i chi hefyd roi manylion o un o’r canlynol:
- pasbort y DU
- trwydded yrru cerdyn llun y DU
- cyfrif cyfredol gyda banc neu gymdeithas adeiladu yn y DU
Mewn Swyddfa Bost
Gofynir i chi:
- roi manylion o’ch ID gyda llun ar °Ç¸ç³Ô¹ÏÂ
- fynd i , lle byddant yn sganio’ch ID gyda llun ac yn tynnu llun ohonoch chi
Byddwch yn cael e-bost am ganlyniad eich gwiriad hunaniaeth - fel arfer o fewn diwrnod o fynd i Swyddfa Bost.
Byddwch angen un o’r mathau canlynol o ID gyda llun:
- pasbort y DU
- pasbort o’r tu allan i’r DU
- trwydded yrru cerdyn llun y DU
- trwydded yrru cerdyn llun yr Undeb Ewropeaidd (UE)
- cerdyn llun hunaniaeth genedlaethol o wlad yr UE, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein