Digwyddiadau bwyd neu fwyd anifeiliaid: galw a thynnu cynhyrchion yn ôl
Printable version
1. Trosolwg
Ystyr digwyddiad bwyd neu fwyd anifeiliaid yw pan fyddwch chi’n gwybod, neu’n amau, fod un neu fwy o’r problemau canlynol yn berthnasol i fwyd neu fwyd anifeiliaid y mae eich busnes wedi’i gynhyrchu neu ei ddosbarthu:
- mae’n niweidiol i iechyd
- nid yw’n ddiogel ei fwyta
- nid yw’n bodloni gofynion cyfreithiol
- mae label y cynnyrch neu’r rhestr gynhwysion yn anghywir neu’n gamarweiniol
- mae’n cynnwys alergenau neu gynhwysion eraill a allai fod yn beryglus nad ydynt wedi’u nodi ar label y cynnyrch
Rhaid i chi gymryd camau gweithredu a rhoi gwybod am unrhyw ddigwyddiadau bwyd neu fwyd anifeiliaid.
Mae’r canllawiau hyn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Rhoi gwybod am ddigwyddiad yn yr Alban
Mae ffordd wahanol o .
Os ydych chi eisiau rhoi gwybod am fusnes rhywun arall
Cysylltwch â thîm diogelwch bwyd eich awdurdod lleol os ydych chi o’r farn bod digwyddiad bwyd neu fwyd anifeiliaid wedi codi mewn busnes nad ydych chi’n berchen arno.
Newyddion a rhybuddion am ddigwyddiadau bwyd
Dysgwch fwy am . Gallwch danysgrifio i gael rhybuddion.
2. Beth i’w wneud
Casglwch wybodaeth am y digwyddiad ac ewch ati i olrhain eich cyflenwyr a’ch cwsmeriaid busnes, fel eich bod chi’n gwybod pa fwyd neu fwyd anifeiliaid yr effeithir arnynt a beth yw’r risgiau i ddefnyddwyr.
Yna, mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:
- tynnu’r bwyd neu’r bwyd anifeiliaid yn ôl o’r gadwyn gyflenwi ar unwaith
- cyhoeddi rhybudd i alw’r cynnyrch yn ôl os yw wedi cyrraedd defnyddwyr neu anifeiliaid
- dweud wrth dîm diogelwch bwyd eich awdurdod lleol neu awdurdod iechyd porthladd
- dweud wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) am y digwyddiad os yw eich busnes wedi cael ei gymeradwyo gan dîm milfeddygol yr ASB
- dweud wrth eich awdurdod lleol neu’r ASB os yw’r cynnyrch wedi’i ddosbarthu y tu allan i’r DU
- cymryd camau i atal digwyddiadau yn y dyfodol
Os na fyddwch chi’n mynd i’r afael â digwyddiad, gallai eich busnes gael ei atal rhag cynhyrchu bwyd neu fwyd anifeiliaid. Gallech gael dirwy neu, mewn achosion difrifol, gael eich erlyn.
Bydd eich awdurdod lleol yn rhoi gwybod i dîm digwyddiadau’r ASB. Gallwch hefyd roi gwybod i’r ASB eich hun os yw’r bwyd neu’r bwyd anifeiliaid eisoes wedi cyrraedd defnyddwyr neu anifeiliaid.
Mae’r canllawiau hyn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Tynnu cynhyrchion yn ôl
Rhaid i chi dynnu fwyd neu fwyd anifeiliaid sydd wedi’i labelu’n anghywir, nad yw’n cydymffurfio, neu sy’n anniogel yn ôl o’r gadwyn gyflenwi. Gwnewch hyn ar unwaith, cyn iddo gyrraedd defnyddwyr neu anifeiliaid.
Rhaid i chi ddweud wrth unrhyw fusnesau eraill rydych chi wedi gwerthu’r bwyd neu’r bwyd anifeiliaid iddynt am y digwyddiad. Nodwch y canlynol:
- pa gynnyrch a swp yr effeithir arno
- pam mae’r cynnyrch wedi’i dynnu’n ôl
- beth dylen nhw ei wneud nesaf, er enghraifft dychwelyd y cynnyrch neu gael gwared arno’n ddiogel
Galw cynhyrchion yn ôl
Os yw’r bwyd neu’r bwyd anifeiliaid eisoes wedi cyrraedd defnyddwyr neu berchnogion anifeiliaid, mae angen i chi alw’r cynnyrch yn ôl.
Rhaid i chi gysylltu â defnyddwyr. Rhannwch wybodaeth gywir am y canlynol:
- manylion y cynnyrch, fel yr enw, y maint, y dyddiadau ‘ar ei orau cyn’ neu ‘defnyddio erbyn’ a chod y swp
- delwedd o’r cynnyrch
- y rheswm dros alw’r cynnyrch yn ôl
- beth dylen nhw ei wneud os ydyn nhw wedi prynu’r cynnyrch, gan gynnwys a yw’n ddiogel ei fwyta, a ddylen nhw ei ddychwelyd ac a allan nhw gael ad-daliad
- sut i gael gwared ar y cynnyrch yn ddiogel – siaradwch â’ch awdurdod lleol am hyn
- ble i gael rhagor o wybodaeth
Rhaid i chi gyfathrebu â defnyddwyr yn effeithiol. Gallech ddefnyddio posteri yn eich siop, eich gwefan, cyfryngau cymdeithasol neu gyfathrebiadau marchnata. Gallech hefyd gysylltu â sefydliadau defnyddwyr, cleifion neu alergeddau penodol.
Os ydych chi wedi gwerthu’r cynnyrch i fusnes arall, dywedwch wrtho am roi gwybod i’w gwsmeriaid fod y cynnyrch wedi’i alw yn ôl.
Defnyddiwch y dogfennau templed hyn i’ch helpu i alw cynnyrch yn ôl.
Beth i’w wneud â bwyd a bwyd anifeiliaid anniogel
Os bydd gennych fwyd neu fwyd anifeiliaid sy’n anniogel, sydd wedi’i labelu’n anghywir, neu nad yw’n cydymffurfio, dylech wneud y canlynol:
- storio bwyd anniogel ar wahân i fwyd diogel
- labelu’r bwyd yn glir
- bod â chynllun ar waith ar gyfer delio â bwyd anniogel sy’n cael ei ddychwelyd atoch chi
- cael gwared ar y bwyd yn ddiogel – siaradwch â’ch awdurdod lleol a dilyn cyfreithiau gwaredu gwastraff perthnasol, gan gynnwys y rhai ar gyfer cynhyrchion anifeiliaid
- dogfennu’r hyn rydych chi’n ei wneud gyd²¹â€™r bwyd, gan gynnwys sut rydych chi’n cael gwared arno’n ddiogel
Efallai y byddwch chi’n gallu gwneud y bwyd neu’r bwyd anifeiliaid yn ddiogel, er enghraifft trwy ail-labelu bwyd fel ei fod yn nodi ei fod yn cynnwys alergen. Rhaid i chi gael caniatâd gan dîm diogelwch bwyd eich awdurdod lleol neu awdurdod iechyd porthladd cyn i chi wneud hyn.
3. Ar ôl digwyddiad
Ar ôl delio â’r digwyddiad uniongyrchol, rhaid i chi ddarganfod sut a pham y cododd y digwyddiad a sut i atal digwyddiadau yn y dyfodol.
Gallwch ddadansoddi gwraidd y broblem i wneud hyn.
Mae gwybodaeth ar gael drwy ²¹â€™r adnoddau ar ddadansoddi gwraidd yr achos.
Gallwch hefyd ofyn i’ch awdurdod lleol am gyngor.
Mae’r canllawiau hyn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Gallwch hefyd atal digwyddiadau drwy wneud y canlynol:
- bod â system diogelwch bwyd ar waith
- dilyn arferion gorau mewn perthynas â hylendid bwyd
- sicrhau bod bwyd wedi’i labelu’n gywir
4. Rhoi gwybod am y digwyddiad i’r ASB
Fel arfer, bydd eich awdurdod lleol yn cysylltu â’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ar eich rhan.
Dylech gysylltu â’r ASB cyn gynted â phosibl os yw’r:
- bwyd neu’r bwyd anifeiliaid wedi’i ddosbarthu y tu allan i’r DU
- digwyddiad yn ddifrifol a bod y cynnyrch wedi cyrraedd cwsmeriaid
Mae’r canllawiau hyn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Gwybodaeth y dylech ei rhoi i’r ASB
Cofiwch gynnwys yr wybodaeth ganlynol wrth roi gwybod i’r ASB:
- enw eich busnes
- cyfeiriad post llawn a chod post y busnes
- pryd y gwnaethoch chi sylwi ar y digwyddiad
- disgrifiad byr o unrhyw ymchwil hyd yn hyn – manylion y cynnyrch, y meintiau yr effeithir arnynt, unrhyw beryglon a nodwyd ²¹â€™r effaith ar ddefnyddwyr neu anifeiliaid
- crynodeb o’r camau rydych chi wedi’u cymryd ²¹â€™r camau rydych chi’n bwriadu eu cymryd
- manylion unrhyw gyngor penodol sydd ei angen arnoch gan yr ASB
- manylion cyswllt lle mae modd cysylltu â chi ar unrhyw adeg, gan gynnwys y tu allan i oriau busnes arferol
Os yw’r cynnyrch wedi’i fewnforio neu ei allforio y tu allan i’r DU, rhaid i chi hefyd gynnwys gwybodaeth ddosbarthu neu olrheiniadwyedd.
Rhaid hefyd gynnwys yr wybodaeth ganlynol os yw ar gael:
- gwybodaeth ddosbarthu ac olrheiniadwyedd
- ffotograffau perthnasol
- copïau o unrhyw dystysgrifau prawf
- canlyniad unrhyw waith dadansoddi gwraidd y broblem, a sut y byddwch chi’n atal digwyddiadau yn y dyfodol
Manylion cyswllt
Anfonwch eich adroddiad drwy e-bost at y tîm perthnasol ar gyfer eich gwlad.
Asiantaeth Safonau Bwyd – Cymru
FSA.IncidentsWales@food.gov.uk
Asiantaeth Safonau Bwyd – Lloegr
Ffôn: 020 7276 8448
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5.30pm
Gall awdurdodau lleol a busnesau bwyd adael neges bob amser
FSA.Incidents@food.gov.uk
Asiantaeth Safonau Bwyd – Gogledd Iwerddon
FSA.IncidentsNI@food.gov.uk