°Ç¸ç³Ô¹Ï

Skip to main content

Dyddiadau taliadau Budd-dal Plant

Printable version

1. Pan fyddwch yn cael eich talu

Fel arfer, caiff Budd-dal Plant ei dalu bob 4 wythnos, ar ddydd Llun neu ddydd Mawrth.

Mae yna ddyddiadau talu gwahanol os yw’r dyddiad yn disgyn ar ŵyl y banc.

Gellir cael Budd-dal Plant wedi ei dalu’n wythnosol os ydych yn rhiant sengl neu os ydych chi neu’ch partner yn cael budd-daliadau penodol, megis Cymhorthdal Incwm.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Eich taliad cyntaf

Gwiriwch eich hysbysiad o ddyfarniad i weld dyddiad eich taliad cyntaf. Gallwch gyfrif ymlaen 4 wythnos o’r dyddiad hwn i gyfrifo pryd fydd y taliad nesaf.

Mae’n bosibl na fydd eich taliad cyntaf yn eich cyrraedd am 12 wythnos (gall fod yn hirach os ydych newydd symud i’r DU). Bydd yn cael ei ôl-ddyddio hyd at 3 mis.

Cyfrifo’ch taliad nesaf

Gallwch gyfrifo pryd byddwch yn cael Budd-dal Plant nesaf drwy gyfrif 4 wythnos ymlaen o’ch taliad diwethaf. Peidiwch â chyfrif ymlaen os oedd eich taliad i’w dalu ar ŵyl y banc - mae’r dyddiadau’n wahanol.

Gwiriwch pryd oedd y tro diwethaf i chi cael eich talu

Gallwch wneud un o’r canlynol:

  • gwirio’ch cyfriflen banc - bydd y cyfeirnod talu yn dechrau gyda ‘HMRC Child Benefit’ ac mae’n cynnwys 18 o gymeriadau
  •  a gweld hyd at 5 taliad blaenorol

Bydd angen i chi fewngofnodi er mwyn defnyddio’r gwasanaeth hwn. Os nad oes gennych fanylion mewngofnodi eisoes, byddwch yn gallu eu creu.

Wrth i chi fewngofnodi, cewch wybod a oes angen i chi brofi pwy ydych. Mae hyn er mwyn cadw’ch manylion yn ddiogel ac, fel arfer, bydd angen i chi ddefnyddio ID ffotograffig fel pasbort neu drwydded yrru i wneud hynny.

Os nad ydych wedi cael eich taliad

Os yw taliad yn hwyr, gwiriwch ddyddiad eich taliad a chysylltwch â’ch banc cyn ffonio’r Swyddfa Budd-dal Plant.

Mae’n bosibl bod eich taliadau wedi dod i ben oherwydd:

  • nid ydych wedi rhoi gwybod i’r Swyddfa Budd-dal Plant bod eich banc wedi newid neu am blaniau eich plentyn o ran addysg ar ôl troi’n 16 oed
  • nid ydych wedi ymateb i lythyr oddi wrth y Swyddfa Budd-dal Plant
  • mae’ch plentyn bellach yn byw gyda rhywun arall
  • nid ydych bellach yn gymwys i gael hawlio Budd-dal Plant

Rhowch wybod am newidiadau i’ch amgylchiadau er mwyn gwneud yn siŵr bod eich taliadau’n gywir.

2. Gwyliau banc

Fel arfer, os yw eich taliad Budd-dal Plant yn disgyn ar ŵyl y banc caiff ei dalu ar ddyddiad gwahanol.

Dyddiad dyledus  Dyddiad talu
29 Rhagfyr 2025 30 Rhagfyr (Gogledd Iwerddon yn unig)
30 Rhagfyr 2025 31 Rhagfyr (Gogledd Iwerddon yn unig)
5 Ionawr 2026 6 Ionawr (Yr Alban yn unig)
17 Mawrth 2026 18 Mawrth (Gogledd Iwerddon yn unig)
6 Ebrill 2026 2 Ebrill
4 Mai 2026 1 Mai
25 Mai 2026 22 Mai
13 Gorffennaf 2026 14 Gorffennaf (Gogledd Iwerddon yn unig)
14 Gorffennaf 2026 15 Gorffennaf (Gogledd Iwerddon yn unig)
3 Awst 2026 4 Awst (Yr Alban yn unig)
4 Awst 2026 5 Awst (Yr Alban yn unig)
31 Awst 2026 28 Awst
28 Rhagfyr 2026 24 Rhagfyr
29 Rhagfyr 2026 30 Rhagfyr (Gogledd Iwerddon yn unig)

Gallwch weithio allan pryd y cewch eich talu.

Gwyliau cyhoeddus yn yr Alban a Gogledd Iwerddon

Mae’n bosibl y caiff eich taliad ei oedi os yw’r banc ar gau oherwydd gwyliau cyhoeddus ar y diwrnod mae Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn eich talu.

Gwiriwch gyda’ch banc o ran y dyddiad y byddwch yn cael eich taliad.

Gwyliau lleol yn yr Alban

Mae’n bosibl y caiff eich taliad ei oedi oherwydd gwyliau lleol os ydych yn byw yn y llefydd canlynol:

  • Glasgow - gwyliau lleol ar 28 Medi
  • Caeredin - gwyliau lleol ar 21 Medi
  • Dundee - gwyliau lleol ar 5 Hydref