°Ç¸ç³Ô¹Ï

Skip to main content

Cosbau

Byddwch yn cael cosb os oes angen i chi lenwi Ffurflen Dreth a bod y canlynol yn wir:Ìý

  • rydych yn anfon Ffurflen Dreth yn hwyrÌý

  • rydych yn talu’ch bil treth yn hwyrÌý

Gallwch amcangyfrif eich cosb (yn agor tudalen Saesneg) am Ffurflenni Treth a thaliadau Hunanasesiad hwyr.Ìý

Os byddwch yn cofrestru ar gyfer Hunanasesiad yn hwyrÌý

Os byddwch yn cofrestru ar ôl 5 Hydref ac na fyddwch yn talu’ch holl fil treth erbyn 31 Ionawr, efallai y byddwch yn cael cosb am ‘fethu â hysbysu’.ÌýÌý

Mae’r gosb hon yn seiliedig ar y swm sy’n dal i fod yn weddill a byddwch yn ei chael cyn pen 12 mis ar ôl i CThEF gael eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad.Ìý

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am gosbau ‘methu â hysbysu’.

Os byddwch yn cyflwyno’ch Ffurflen Dreth yn hwyrÌý

Byddwch yn cael y cosbau canlynol am gyflwyno’n hwyr:Ìý

  • cosb gychwynnol o £100Ìý

  • ar ôl 3 mis, cosbau ychwanegol o £10 y dydd, hyd at uchafswm o £900Ìý

  • ar ôl 6 mis, cosb bellachÌý sef 5% o’r dreth sy’n ddyledus neu £300, p’un bynnag sydd fwyafÌý

  • ar ôl 12 mis, cosb arallÌý sef 5% neu £300, p’un bynnag sydd fwyafÌý

Er mwyn osgoi hyn, anfonwch eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad cyn gynted â phosibl.Ìý

Bydd pob partner yn cael cosb os yw Ffurflen Dreth Partneriaeth yn hwyr.

Os byddwch yn talu’ch treth yn hwyrÌý

Byddwch yn cael cosbau o 5% o’r dreth sydd heb ei thalu ar yr adegau canlynol:Ìý

  • 30 diwrnodÌý

  • 6 misÌý

  • 12 misÌý

Byddwn hefyd yn codi llog ar y swm sy’n ddyledus. Er mwyn osgoi hyn, talwch eich bil treth Hunanasesiad cyn gynted â phosibl.Ìý

Talu cosbÌý

Mae’n rhaid i chi dalu cyn pen 30 diwrnod i ddyddiad yr hysbysiad o gosb. Cael gwybod sut i dalu cosb.

Os ydych yn anghytuno â chosb

Os oes gennych esgus rhesymol, gallwch apelio yn erbyn cosb.