Gordaliadau a thandaliadau treth
Printable version
1. Os nad ydych wedi talu’r swm cywir o dreth
Os ydych wedi talu naill ai gormod neu ddim digon o dreth erbyn diwedd y flwyddyn dreth (5 Ebrill), bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn anfon y naill neu’r llall o’r canlynol atoch:
-
llythyr cyfrifiad treth (a elwir hefyd yn P800)
-
llythyr Asesiad Syml
Bydd hwn yn rhoi gwybod i chi sut i gael ad-daliad neu dalu’r dreth sydd arnoch.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Byddwch yn cael llythyr dim ond os yw’r canlynol yn berthnasol:
-
rydych yn gyflogedig
-
rydych yn cael pensiwn
Os ydych wedi cofrestru ar gyfer Hunanasesiad, bydd eich bil yn cael ei addasu’n awtomatig os ydych wedi tandalu neu ordalu treth. Ni fyddwch yn cael llythyr cyfrifiad treth na llythyr Asesiad Syml.
Pryd bydd y llythyrau’n cael eu hanfon
Bydd y llythyrau yn cael eu hanfon rhwng mis Mehefin a mis Mawrth yn ystod y flwyddyn dreth ganlynol.
Pam y gallech gael llythyr cyfrifiad treth
Mae’n bosibl y cewch lythyr cyfrifiad treth naill ai os oes arnoch dreth neu os oes ad-daliad yn ddyledus i chi oherwydd eich bod:
-
ar y cod treth anghywir, er enghraifft oherwydd bod gan CThEF yr wybodaeth anghywir am eich incwm
-
wedi gorffen un swydd, dechrau un newydd a’ch bod wedi cael eich talu gan y naill a’r llall yn yr un mis
-
wedi dechrau cael pensiwn yn y gwaith
-
wedi cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth neu Lwfans Ceisio Gwaith
Pam y gallech gael llythyr Asesiad Syml
Efallai y cewch lythyr Asesiad Syml os:
-
oes arnoch dreth nad oes modd ei thynnu o’ch incwm yn awtomatig
-
oes arnoch dros £3,000 i CThEF
-
mae’n rhaid i chi dalu treth ar eich Pensiwn y Wladwriaeth
Dysgwch sut i dalu eich bil Asesiad Syml.
Bydd angen i chi dalu’r dreth sydd arnoch erbyn dyddiad cau penodol.
Os na anfonwyd llythyr cyfrifiad treth nac Asesiad Syml atoch
Os ydych yn credu eich bod wedi talu gormod o dreth ac nad yw CThEF wedi anfon llythyr cyfrifiad treth atoch, dysgwch sut i hawlio ad-daliad.
Os ydych yn meddwl bod arnoch dreth ac nad ydych wedi cael llythyr, cysylltwch â CThEF.
2. Os bydd eich llythyr cyfrifiad treth (P800) yn dweud bod ad-daliad yn ddyledus i chi
Bydd eich llythyr cyfrifiad treth (a elwir hefyd yn P800) yn rhoi gwybod i chi sut y gallwch gael eich ad-daliad.
Os yw’ch llythyr cyfrifiad treth yn dweud eich bod yn gallu hawlio ar-lein
Gallwch hawlio gan ddefnyddio’r gwasanaeth trosglwyddiad banc ar-lein neu wneud cais am siec ar-lein. Bydd angen y canlynol arnoch:
-
cyfeirnod o’ch llythyr P800 llythyrau
-
eich rhif Yswiriant Gwladol
Ffyrdd eraill o hawlio
Gallwch hefyd hawlio ad-daliad:
-
drwy eich cyfrif treth personol neu ap CThEF, os oes gennych gyfrif banc yn y DU
-
drwy gysylltu â CThEF
Pryd y cewch eich ad-daliad
Byddwn yn anfon yr arian atoch cyn pen:
-
5 diwrnod gwaith os ydych wedi hawlio ar-lein
-
6 wythnos os ydych wedi gofyn i CThEF anfon siec atoch
Os bydd eich llythyr cyfrifiad treth yn dweud y cewch siec
Bydd eich llythyr cyfrifiad treth yn rhoi gwybod i chi os bydd CThEF yn anfon siec atoch.
Does dim angen i chi gysylltu â CThEF i wneud hawliad – byddwch yn cael siec drwy’r post yn awtomatig.
Pryd y cewch eich ad-daliad
Byddwch yn cael eich siec cyn pen 14 diwrnod i’r dyddiad sydd ar eich llythyr.
Os oes treth yn ddyledus i chi am fwy nag un flwyddyn, cewch un siec am y cyfanswm.
3. Os bydd eich llythyr cyfrifiad treth (P800) yn dweud bod arnoch dreth
Bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) fel arfer yn casglu’r dreth sy’n ddyledus drwy newid eich cod treth. Bydd hyn yn cynyddu’r dreth a ddidynnir o’ch cyflog, salari neu bensiwn. Bydd hyn fel arfer yn digwydd mewn rhandaliadau cyfartal dros 12 mis o ddechrau’r flwyddyn dreth ganlynol.
Bydd hyn yn digwydd yn awtomatig os:
-
ydych yn talu Treth Incwm drwy gyflogwr neu ddarparwr pensiwn
-
ydych yn ennill digon o incwm dros eich Lwfans Personol i dalu am y tandaliad
-
oes arnoch lai na £3,000
Bydd CThEF yn ysgrifennu atoch ynghylch sut y gallwch dalu os na all gasglu’r arian fel hyn.
Os hoffech, gallwch dalu’r hyn sydd arnoch cyn dechrau’r flwyddyn dreth ganlynol.
Os ydych o’r farn bod eich cyfrifiad treth yn anghywir
Os ydych o’r farn bod y symiau a ddefnyddiwyd yn eich cyfrifiad yn anghywir, cysylltwch â CThEF.
Bydd angen i chi roi gwybod i CThEF am y symiau sy’n anghywir yn eich barn chi, a beth ddylai’r rhain fod.
Yr hyn sy’n digwydd nesaf
Os bydd CThEF yn cytuno bod eich cyfrifiad treth yn anghywir, byddwn yn anfon cyfrifiad newydd atoch.
Os yw CThEF yn anghytuno, bydd yn cysylltu â chi i esbonio pam.