°Ç¸ç³Ô¹Ï

Skip to main content
Collection

Canfodydd Tanwydd

Darganfyddwch am wasanaeth Canfodydd Tanwydd.

Mae Canfodydd Tanwydd yn wasanaeth gan Lywodraeth y DU sy’n dod â phrisiau tanwydd manwerthu byw a gwybodaeth am fforydd tanwydd ledled y DU ynghyd.

Mae’r gwasanaeth yn helpu:

  • masnachwyr tanwydd modur i gyflawni eu dyletswyddau
  • sefydliadau awdurdodedig i ddod o hyd i a rhannu data agored dibynadwy
  • pobl i adrodd am broblemau maent yn eu gweld ar y cwrt blaen

Gall gyrwyr ddod o hyd i’r wybodaeth ar apiau a gwefannau trydydd parti sy’n cymryd rhan. Darganfod mwy.

Mae’r dudalen hon ar gael hefyd yn Saesneg (English).

Diweddaru prisiau tanwydd a manylion cwrt blaen

Ar gyfer masnachwyr tanwydd modur.

Diweddaru prisiau tanwydd a rheoli manylion eich cwrtiau blaen. Rhaid i chi gyflwyno diweddariadau prisiau o fewn 30 munud i unrhyw newid.

Mynediad at y data trwy API neu e-bost

Ar gyfer sefydliadau ac unigolion awdurdodedig.

Cael mynediad at ddata agored dibynadwy trwy lawrlwythiadau, tanysgrifiadau neu’r API. Mae data yn cynnwys prisiau cyfredol yn ôl math o danwydd, manylion cwrt blaen (cyfeiriad, gweithredwr, brand), cyfleusterau a diweddariadau â stamp amser.

Adrodd ar wall yn y data

Ar gyfer pobl sy’n adrodd ar wall yn y data.

Adrodd ar anghysondeb rhwng y data a’r prisiau a manylion eraill mewn cwrt blaen. Er enghraifft, pris anghywir, math o danwydd anghywir, swm anghywir, dyddiad ac amser anghywir.

Updates to this page

Published 2 February 2026