°Ç¸ç³Ô¹Ï

Skip to main content
Ymgynghoriad caeedig

Cyflwyno cyfnod dysgu gofynnol ar gyfer gyrwyr sy'n dysgu

Rydym yn dadansoddi eich adborth

Dewch yn ôl at y wefan hon yn fuan i lwytho'r canlyniad i lawr ar gyfer yr adborth cyhoeddus hwn.

Crynodeb

Yn ceisio adborth ar gynigion i gyflwyno gofynion gorfodol y mae'n rhaid i yrwyr sy'n dysgu eu bodloni cyn sefyll prawf gyrru ymarferol ar gyfer trwydded categori B.

Roedd yr ymgynghoriad hwn yn rhedeg o
to

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Gweld yr ymgynghoriad hwn yn Saesneg (English).

Mae’r Adran Drafnidiaeth (DfT) yn ceisio barn ar gyflwyno cyfnod amser gofynnol rhwng pasio prawf theori a sefyll prawf gyrru ymarferol. Mae ein hymgynghoriad yn cwmpasu profion gyrru a gymerir ar gyfer trwydded categori B, y drwydded safonol a ddefnyddir i yrru car.

Ar hyn o bryd, gall gyrwyr sy’n dysgu wneud cais am brawf gyrru ymarferol cyn gynted ag y byddant yn cael trwydded dros dro ac yn pasio’r prawf theori.

Heb dreulio digon o amser yn gyrru, mae llawer o ddysgwyr yn wynebu sefyllfaoedd ac amodau ar y ffordd nad oes ganddynt unrhyw brofiad ohonynt, oherwydd diffyg ymarfer.

Y nod yw cyflwyno dull strwythuredig sy’n rhoi mwy o amser i ddysgwyr gynyddu eu cymhwysedd a’u profiad cyn sefyll prawf. Rydym hefyd yn croesawu barn ar:

  • gyflwyno nifer gofynnol o oriau gyrru ymarferol dan oruchwyliaeth
  • creu maes llafur dysgu gorfodol
  • y ffyrdd y gellid cynnal unrhyw ddysgu gofynnol

Dogfennau

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 16 Chwefror 2026

Argraffu'r dudalen hon