°Ç¸ç³Ô¹Ï

Skip to main content
Ymgynghoriad agored

Ymgynghoriad ar y cynnig i ddirymu awdurdodiad ar gyfer un cynnyrch bwyd anifeiliaid rheoleiddiedig – Gorffennaf 2026

Cyhoeddwyd 10 Gorffennaf 2026

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2024 to 2026 Starmer Labour government

Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio safbwyntiau, sylwadau ac adborth rhanddeiliaid mewn perthynas â’r cynnig i ddirymu awdurdodiad ar gyfer un cynnyrch bwyd anifeiliaidÌýrheoleiddiedig.ÌýÌý

Mae’r ymgynghoriad hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Dyddiad lansio

10ÌýGorffennaf 2026Ìý

Ymatebion erbyn

2 Hydref 2026Ìý

I bwy y bydd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb yn bennaf?Ìý

Pob busnes bwyd a bwyd anifeiliaid yng Nghymru, Gogledd Iwerddon,Ìýa Lloegr,Ìýawdurdodau lleol ac awdurdodau iechyd phorthladdoedd, cynghorau dosbarth, a rhanddeiliaid eraill sydd â buddiant mewn diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid.Ìý

Gan mai dim ond i Gymru a Lloegr y mae’r ymgynghoriad hwn yn berthnasol, mae’n bwysig nodi yn yr Alban mai Safonau Bwyd yr Alban (FSS) yw’r awdurdod annibynnol sy’n gyfrifol am ddiogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid. Bydd yr FSS yn ystyried y sefyllfa ar gyfer yr Alban ar wahân ac yn penderfynu a ddylai gymryd unrhyw fesurau cyfatebol maes o law.

Diben yr ymgynghoriadÌý

Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio safbwyntiau, sylwadau ac adborth rhanddeiliaid mewn perthynas â’r cynnig i ddirymu awdurdodiad ar gyfer un cynnyrch bwyd anifeiliaid.Ìý

Sut i ymatebÌý

Dylech gyflwyno ymatebion i’r ymgynghoriad hwn drwy’rÌý. Os nad yw hyn yn bosib, gallwch ymateb drwy anfon e-bost i’r cyfeiriad canlynol:Ìý

·¡-²ú´Ç²õ³Ù: RPconsultations@food.gov.ukÌý

Gwelwch fanylion llawn ar sut i ymateb isod.Ìý

DiffiniadauÌý

Efallai y bydd yr wybodaeth a’r diffiniadau canlynol o ddefnydd i chi wrth ymateb i’r ymgynghoriad hwn.Ìý

CynhyrchionÌýrheoleiddiedig

Mae’n rhaid i rai cynhyrchion bwyd a bwyd anifeiliaid, a elwir yn gynhyrchionÌýrheoleiddiedig, fynd trwy broses dadansoddi risg, ac mae’n rhaid eu hawdurdodi cyn y gellir eu gwerthu yn y DU.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y broses o wneud cais, gan gynnwys y prosesau dadansoddi risg a rheoli risg, yn ogystal â chyfraniad gweinidogion yma:

.Ìý

Rheoliadau aÌýgymathwyd

Nid yw deddfwriaeth yr UE sy’n uniongyrchol gymwys bellach yn gymwys ym Mhrydain Fawr. Cafodd deddfwriaeth yr UE, aÌýddargadwydÌý(‘retained’) pan ymadawodd y DU â’r UE, ei chymathu (‘assimilated’) ar 1 Ionawr 2024.

Pan fo cyfeiriadau at ddeddfwriaeth ag ‘UE/EU’ neu ‘CE/EC’ yn y teitl, dylech ystyried bod y rhain bellach yn gyfraith aÌýgymathwydÌýlle bo’r rhain yn gymwys i Brydain Fawr. Cyhoeddir cyfreithiau aÌýgymathwydÌýar legislation.gov.uk. Dylai cyfeiriadau at ‘gyfraith yr UE aÌýddargedwir’ neu ‘REUL’ gael eu hystyried bellach yn gyfeiriadau at gyfraith aÌýgymathwyd.Ìý

Ychwanegion bwyd anifeiliaid

Dyma’r sylweddau, micro-organebau neu baratoadau (ac eithrio deunyddiau bwyd anifeiliaid a rhag-gymysgeddau) sy’n cael eu hychwanegu’n fwriadol at fwyd anifeiliaid neu ddŵr i gyflawni un neu fwy o swyddogaethau penodol. Ìý

Mae’rÌýÌýyn drefniant anstatudol rhwng Llywodraeth y DU a’r Gweinyddiaethau Datganoledig i sefydlu dulliau cyffredin o ymdrin â meysydd polisi lle mae pwerau wedi dychwelyd o’r UE o fewn meysydd lle y mae cymhwysedd wedi’i ddatganoli.ÌýÌýÌý

Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i ddatblygu i gwmpasu rhanddeiliaid Cymru a Lloegr. Byddwn yn cytuno ar yr argymhellion terfynol cyn eu cyflwyno i weinidogion yng Nghymru a Lloegr, gan roi gwybod i Weinidog Iechyd Gogledd Iwerddon am y diweddaraf. Mae Gogledd Iwerddon yn parhau i gymryd rhan lawn yn y prosesau dadansoddi risg sy’n ymwneud â diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid. Mae hyn yn adlewyrchu rôl annatod Gogledd Iwerddon yn y DU ac yn sicrhau bod unrhyw benderfyniad yn ystyried yn llawn yr effeithiau posib ar y DU gyfan.Ìý

Fframwaith Windsor – ychwanegion bwyd anifeiliaidÌý

  • Mae Fframwaith Windsor yn darparu set unigryw o drefniadau i helpu llif cynhyrchion bwyd o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon at ddiben manwerthu bwyd-amaeth. Gall y nwyddau hyn fodloni’r un safonau sydd wedi’uÌýcymhwyso yng ngweddill y DU ym maes iechyd y cyhoedd, marchnata (gan gynnwys labelu) a bwydydd organig wrth symud drwy Gynllun Symud Nwyddau Manwerthu Gogledd Iwerddon (NIRMS).ÌýÌý

  • Mae’r cynllun yn cynnwys rhai bwydydd anifeiliaid anwes a bwydydd cnoi ar gyfer cŵn. Ni fyddai bwyd anifeiliaid at ddefnydd maethol penodol (PARNUTs) nac ychwanegion bwyd anifeiliaid yn gallu elwa o’r cynllun, p’un a ydynt yn cael eu defnyddio i gynhyrchu bwydydd cyfansawdd i anifeiliaid neu’n cael eu bwydo’n uniongyrchol i dda byw.ÌýÌý

Asesiad diogelwch

MaeÌýaseswyr risg yr ASB acÌýFSS yn cyflwyno’rÌýwyddoniaethÌýsy’n sail i’nÌýcyngor. Maen nhw’n gyfrifol am ganfod a disgrifio peryglon a risgiau i iechyd, ac am asesu lefelau cysylltiad (‘exposure’).ÌýÌý

Rheoli risg

Ein hymgynghorwyr polisi sy’n gyfrifol am yr allbynnau rheoli risg. Mae dogfen argymhellion yr ASB o ran rheoli risg yn cyflwyno’r ffactorau y maent wedi’u nodi fel rhai sy’n berthnasol i’r ceisiadau hyn, gan gynnwys effaith bosib unrhyw benderfyniad a wneir gan weinidogion, ac mae’n cynnwys telerau awdurdodi arfaethedig a darpariaethau perthnasol eraill.ÌýÌý

Manylion yr ymgynghoriadÌý

RhagymadroddÌý

Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio safbwyntiau ar y cynnig i ddirymu awdurdodiad ar gyfer un ychwanegyn bwyd anifeiliaid (sy’n gynnyrchÌýrheoleiddiedig).Ìý

Gallwch weld trosolwg o’r manylion yn nes ymlaenÌýarÌýyÌýdudalenÌýhon. Am wybodaeth lawn a phellach, cyfeiriwch at ddogfennau technegol asesiadau diogelwch yr ASB ac FSS a dogfen argymhellion yr ASB o ran rheoli risg.ÌýMaeÌýhyperddolenniÌýi’r rhainÌýarÌýyÌýdudalenÌýhon.Ìý

Patent Blue V (2a131) (Dirymu) (Ychwanegyn bwyd anifeiliaid)Ìý

Wrth ymgynghori ar y mater hwn, mae’r ASB yn ceisio safbwyntiau rhanddeiliaid ar y cynnig i ddirymu’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid. Mae croeso iÌýranddeiliaidÌýddefnyddio’r cyfle hwn i wneud sylwadau neu dynnu sylw at unrhyw ffactorau ychwanegol a ddylai gael sylw gweinidogion cyn dod i benderfyniad terfynol.Ìý

Yn dilyn yr ymgynghoriad, y cam nesaf yw i’r ASB ysgrifennu at weinidogion yng Nghymru a Lloegr gyda’i hargymhellion. Mae hyn yn unol â chyfrifoldeb yr ASB am roi cyngor, gwybodaeth neu gymorth i weinidogion am faterion diogelwch bwyd neu fuddiannau eraill defnyddwyr mewn perthynas â bwyd (Adran 6, Deddf Safonau Bwyd 1999). Bydd gweinidogion yng Ngogledd Iwerddon yn cael gwybod y diweddaraf. Yna, bydd y gweinidogion perthnasol yn penderfynu ar yr argymhellion o ran rheoli risg, gan ystyried unrhyw ddarpariaethau perthnasol mewn cyfraith aÌýgymathwydÌýac unrhyw ffactorau dilys eraill, gan gynnwys y rhai sydd wedi’u codi yn ystod y broses ymgynghori.ÌýÌý

EffeithiauÌý

Fel rhan o’r broses dadansoddi a rheoli risg, mae’r ASB wedi asesu’r effeithiau posib a fyddai’n deillio o’r cynnig i ddirymu’r awdurdodiad dan sylw.

Roedd yr effeithiau a ystyriwyd yn cynnwys y rhai a nodwyd amlaf fel effeithiau posib wrth gyflwyno neu ddiwygio cyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid (hynny yw, effeithiau amgylcheddol, masnachol, gwleidyddol, amgylcheddol, cymdeithasol, pa mor ymarferol yw hi’n dechnegol, a buddiannau defnyddwyr).ÌýÌý

Ar gyfer y cynnig i ddirymu’r awdurdodiad dan sylw, sef testun yr ymgynghoriad hwn, nid oedd unrhyw effeithiau arwyddocaol wedi’u nodi. Mae rhestr o’r effeithiau unigol, gan gynnwys masnach, Gogledd Iwerddon, ffactorau cyfreithlon eraill, ac unrhyw effeithiau eraill yn y ddogfen o ran rheoli risg.Ìý

Y broses ymgysylltu ac ymgynghoriÌý

Bydd manylion yr holl geisiadau am awdurdodiadau, a statws y cynhyrchionÌýrheoleiddiedigÌýa oedd wedi’u hawdurdodi’n flaenorol, yn cael eu cyhoeddi ar y GofrestrÌýCeisiadau am GynhyrchionÌýRheoleiddiedigÌýar wefan yr ASB.ÌýÌý

Rydym yn gwahodd rhanddeiliaid i ystyried y cwestiynau isod mewn perthynas ag unrhyw ddarpariaethau perthnasol yng nghyfraith aÌýgymathwydÌýa ffactorau dilys eraill.ÌýÌý

Yn dilyn y broses ymgynghori, bydd yr ymatebion ar gael ar wefan yr ASB ac yn cael eu rhannu â gweinidogion.Ìý

CwestiynauÌý

Y cwestiynau yn yr ymgynghoriad hwn:Ìý

  1. Os ydych chi’n anghytuno â safbwynt yr ASB neu os oes gennych chi bryderon penodol ynghylch dirymu awdurdodiad yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid hwn, esboniwch pam a rhowch wybodaeth i’n helpu ni i ddeall, gan roi tystiolaeth o’r effaith.ÌýÌý

  2. Ydy’r darpariaethau pontio arfaethedig yn caniatáu digon o amser i fusnesau bwyd anifeiliaid ddefnyddio stociau presennol o’r ychwanegyn hwn?ÌýÌý

  3. Oes unrhyw ffactorau eraill y dylai gweinidogion eu hystyried sydd heb eu hamlygu eisoes?Ìý

  4. Oes gennych chi unrhyw adborth arall? Gan gynnwys ystyried unrhyw ddarpariaethau perthnasol yng nghyfraith aÌýgymathwydÌýa ffactorau dilys eraill (tystiolaeth arall sy’n ategu dadansoddiad risg clir, rhesymol, a chyfiawnadwy, fel buddiannau defnyddwyr, pa mor ymarferol yw hi’n dechnegol a ffactorau amgylcheddol).Ìý

YmatebionÌý

Mae angen ymatebion erbyn 23:59, 2 Hydref 2026. Os byddwch yn ymateb drwy e-bost, nodwch a ydych chi’n ymateb fel unigolyn neu ar ran sefydliad neu gwmni (gan gynnwys manylion unrhywÌýranddeiliaidÌýy mae eich sefydliad yn eu cynrychioli), ac ym mha wlad rydychÌýchiÌýwedi eich lleoli.ÌýÌý

Ymatebwch i’r ymgynghoriad drwy’rÌý. Os nad yw hyn yn bosib, gallwch ymateb drwy anfon e-bost i’r cyfeiriad canlynol:ÌýRPconsultations@food.gov.ukÌýÌý

Nodwch pa gais/ceisiadau neu gynnyrch/cynhyrchion rydych chi’n ymateb yn eu cylch drwy ddefnyddio’r llinell bwnc ganlynol ar gyfer eich ymateb: Ymateb i ymgynghoriad ‘Patent Blue V’ ar ddirymu ychwanegyn bwyd anifeiliaid.Ìý

Ein nod yw cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad hwn o fewn 3 mis i’r ymgynghoriad ddod i ben.Ìý

I gael gwybodaeth am sut mae’r ASB yn trin eich data personol, cyfeiriwch at yrÌý.ÌýÌý

Bydd yr ymatebion yn cael eu rhannu â gweinidogion yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr.Ìý

Gwybodaeth bellachÌý

Os bydd angen y ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, anfonwch fanylion at y cyswllt sydd wedi’i enwi ar gyfer ymatebion i’r ymgynghoriad hwn, a bydd eich cais yn cael ei ystyried.Ìý

Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i baratoi yn unol agÌýegwyddorion ymgynghori Llywodraeth EF.Ìý

Diolch i chi, ar ran yr ASB, am gymryd rhan yn yr ymgynghoriad cyhoeddus hwn.Ìý

YÌýGwasanaeth Cyflenwi CynhyrchionÌýRheoleiddiedig ÌýÌý

Patent Blue V (2a131) (Dirymu) (Ychwanegyn bwyd anifeiliaid)Ìý

CefndirÌý

Cynhaliodd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a Safonau Bwyd yr Alban (FSS) adolygiad o ddiogelwch yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid hwn oherwydd pryder diogelwch posib ynghylch effaithÌýanewgenaiddÌý(‘aneugenicity’), a hynny’n dilyn pryderon a oedd wedi’u codi ym marn Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop (EFSA) ynghylch yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid hwn.Ìý

Ni allai’r asesiad diogelwch ddod i gasgliad ynghylch diogelwch yr ychwanegyn hwn ar gyfer y rhywogaeth darged, oherwydd nad oedd yn gallu dod i gasgliad ynghylch pryderon posib am effaithÌýanewgenaidd.ÌýÌý

MasnachÌý

Byddai disgwyl hysbysiad gan Sefydliad Masnach y Byd o dan y Cytundeb SPS, gan fod Cymru a Lloegr yn tynnu ychwanegyn oddi ar eu marchnadoedd yn annibynnol. Er bod gan y mesur effeithiauÌýcyfyngol ar y farchnad gan ei fod yn tynnu cynnyrch o gylchrediad, mae wedi’i gyfiawnhau ar sail iechyd y cyhoedd, a hynny’n seiliedig ar yr asesiad diogelwch sylfaenol, ac felly mae’n ganiataol o dan reolau Sefydliad Masnach y Byd. Cafodd Sefydliad Masnach y Byd wybod am fesurau tebyg gan yr UE ac ni chodwyd unrhyw sylwadau.ÌýÌýÌý

Yr Undeb Ewropeaidd (UE)Ìý

Nid yw awdurdodiad Patent Blue V wedi’i adnewyddu yn yr UE. Os bydd yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid hwn yn cael ei ddirymu yng Nghymru a Lloegr, yna bydd hyn yn cyd-fynd â’r UE.Ìý

Gogledd IwerddonÌý

Yr EFSA sy’n asesu ychwanegion bwyd anifeiliaid y mae bwriad eu rhoi ar farchnad Gogledd Iwerddon. Os oes unrhyw wahaniaeth yn y dull gweithredu, caiff hyn ei reoli drwy’r Fframweithiau Cyffredin dros dro perthnasol.ÌýPe bai Cymru a Lloegr yn dirymu’r awdurdodiad hwn, byddai hyn yn cyd-fynd â’r UE (a Gogledd Iwerddon).ÌýÌýÌý

Argymhellion yr ASB o ran rheoli risgÌý

Ni allai asesiad diogelwch yr ASB ac FSS o Patent Blue V ddod i’r casgliadÌýbod yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid yn ddiogel ac nad yw’n cael effaith andwyolÌýar y boblogaeth darged, ar y crynodiadau y bwriedir eu defnyddio. Felly, mae’r ASB yn argymell bod yr awdurdodiad presennol yn cael ei ddirymu.Ìý

Dylech weithredu darpariaethau dros dro i ganiatáu amser i stociau presennol o’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid hwn gael eu tynnu oddi ar y farchnad.Ìý

Rydym yn argymell cyfnod pontio o 3 mis cyn eu tynnu oddi ar y farchnad lle bydd modd i chi ddefnyddio stociau presennol o’r ychwanegyn, a rhag-gymysgeddau sy’n cynnwys yr ychwanegyn sydd wedi’u bwriadu ar gyfer anifeiliaid nad ydynt yn cynhyrchu bwyd.Ìý

Hefyd, rydym yn argymell cyfnod pontio o 6 mis cyn eu tynnu oddi ar y farchnad lle bydd modd i chi ddefnyddio deunyddiau bwyd anifeiliaid a bwyd cyfansawdd i anifeiliaid sydd wedi’u cynhyrchu gyda’r ychwanegyn neuÌýrag-gymysgeddau sy’n cynnwys yr ychwanegyn, ac sydd wedi’u bwriadu ar gyfer anifeiliaid nad ydynt yn cynhyrchu bwyd.Ìý

Rydym yn awgrymu bod y cyfnodau pontio hyn yn rhedeg o’r dyddiad y caiff yr awdurdodiad ei ddirymuÌýyng Nghymru a Lloegr.ÌýGallai cynhyrchion barhau i gael eu cynhyrchu’n gyfreithlon mewnÌýgwledydd eraill yn y DU.