ǸԹ

Skip to main content
Consultation outcome

Crynodeb o'r ymatebion ac ymateb y llywod

Updated 30 October 2024

Cyflwyniad

Mae’r ddogfen hon yn grynodeb o’r ymatebion i’r . Cyhoeddwyd yr ymgynghoriad gan Defra ar ran llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, a Llywodraeth yr Alban. Fe’i lansiwyd ar 7 Mawrth 2023 ac roedd ar agor am 12 wythnos, gan gau ar 31 Mai 2023.

Mae’r ddogfen hon hefyd yn nodi ymateb y llywodraeth i’r adborth a ddaeth i law. Mae’n rhoi gwybod i randdeiliaid a’r cyhoedd beth fydd y camau nesaf, gan gynnwys gweithredu newidiadau deddfwriaethol. Mae Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth Cymru yn ddiolchgar i’r holl sefydliadau ac unigolion a roddodd o’u hamser i ymateb i’r ymgynghoriad.

Roedd 22 o gwestiynau yn yr ymgynghoriad. Roedd deg o’r rhain yn gwestiynau cefndir am yr ymatebwyr, er mwyn rhoi gwybodaeth gyd-destunol. Mae’r crynodeb hwn yn drosolwg o’r prif negeseuon o’r ymatebion i’r ymgynghoriad, gan adlewyrchu’r safbwyntiau a gynigiwyd. Mae’n darparu ymateb gan y llywodraeth i’r negeseuon hyn.

Cefndir yr ymgynghoriad

Anogir pob ceidwad dofednod ym Mhrydain Fawr i gofnodi’r ffaith eu bod yn cadw dofednod trwy gofrestru eu hadar gyda’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA), ond dim ond ceidwaid sydd â 50 neu fwy o ddofednod ar unrhyw un safle fydd yn gorfod cofrestru ar hyn o bryd.

Mae ceidwaid dofednod gyda llai na 50 o adar yn cael eu hannog i gofrestru eu hadar o’u gwirfodd.

Mae hefyd yn ofynnol i geidwaid colomennod rasio ym Mhrydain Fawr gofrestru eu sefydliad gydag awdurdod perthnasol y llywodraeth fel y gallant symud eu hadar i Ogledd Iwerddon neu’r UE i’w rhyddhau ar unwaith i rasio yn ôl i Brydain Fawr.

Roedd y newidiadau arfaethedig yn yr ymgynghoriad yn cynnwys gwersi a nodwyd o achosion blaenorol o ffliw adar pathogenig iawn, yn ogystal ag argymhelliad , a gynhaliwyd ar gyfer Lloegr.

Mae’r wybodaeth ar y gofrestr dofednod yn bwysig o safbwynt atal a rheoli achosion o glefydau adar hysbysadwy (megis clefyd Newcastle a ffliw adar). Mae’r wybodaeth ar y gofrestr yn cael ei defnyddio er mwyn:

  • cyfathrebu â cheidwaid pan fydd mwy o risg o fynd i gysylltiad â ffliw adar ac yn ystod achosion ffliw adar a chlefyd Newcastle, ar fesurau y mae angen iddynt eu cymryd i ddiogelu iechyd eu hadar, ac i atal clefydau rhag lledaenu

  • bodloni’r mesurau rheoli clefydau a nodir mewn deddfwriaeth ddomestig (Gorchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy’n deillio o Adar mewn Mamaliaid (Lloegr) (Rhif 2) 2006, fel y’i diwygiwyd yn Lloegr, Gorchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy’n deillio o Adar mewn Mamaliaid (Cymru) (Rhif 2) 2006, fel y’i diwygiwyd yng Nghymru a Gorchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy’n deillio o Adar mewn Mamaliaid (Yr Alban) 2006, fel y’i diwygiwyd yn yr Alban) a’r , megis ymgymryd â gweithgareddau gwyliadwriaeth mewn unrhyw barth cyfyngedig yn dilyn cadarnhad o frigiad o’r glefyd

  • bodloni gofynion rhyddid rhag clefyd yr UE at ddibenion masnach yn dilyn brigiad o glefyd ym Mhrydain Fawr

Diben yr ymgynghoriad hwn

Diben yr ymgynghoriad hwn oedd ceisio barn y cyhoedd ar gynigion y llywodraeth i’w gwneud yn ofynnol i bob ceidwad dofednod ac adar caeth eraill gofrestru eu hadar. Gwnaethom ymgynghori ar dri opsiwn:

  • llinell sylfaen: gwneud dim – peidio â newid y gofynion cofrestru dofednod presennol

  • opsiwn 1: (yr opsiwn a ffefrir gan y llywodraeth) ymestyn y gofyniad cofrestru i bob ceidwad adar, gan gynnwys diweddariad blynyddol gorfodol i’r wybodaeth gofrestru

  • opsiwn 2: ymestyn y gofyniad cofrestru i geidwad 10 aderyn neu fwy, gan gynnwys diweddariad blynyddol gorfodol i’r wybodaeth gofrestru

Gofynnodd yr ymgynghoriad am wybodaeth a thystiolaeth ychwanegol i ddatblygu ymhellach ein hasesiad o effeithiau’r newidiadau arfaethedig. Bydd hyn yn sicrhau bod cynigion yn addas ar gyfer cyflawni’r amcanion polisi a byddant yn gwirio yn erbyn canlyniadau anfwriadol posibl. Yn ogystal, buom yn gofyn ychydig o gwestiynau (cwestiynau 20 a 21) i helpu i fynd i’r afael â bylchau yn yr asesiad de-minimis.

Trosolwg o’r ymatebwyr

Cafwyd 3,419 o ymatebion i’r ymgynghoriad. Cyflwynwyd 3,387 trwy wefan Citizen Space. Nid atebwyd yr holl gwestiynau gan bob un o’r ymatebwyr. Cafwyd 2 ymateb arall nad oeddent yn ateb unrhyw un o’r cwestiynau ymgynghori. Maent wedi cael eu trin fel rhai annilys.

Cyflwynwyd 32 o ymatebion drwy e-bost. Ni wnaeth y rhan fwyaf o ymatebion trwy e-bost ateb yr ymgynghoriad yn uniongyrchol. Mae’r cyfraniadau hyn wedi’u cynnwys yng nghrynodebau’r adrannau mwyaf perthnasol. Hyn sydd i gyfrif pam na chafodd rhai cwestiynau gyfradd ymateb o 100%. Rydym wedi ystyried yr holl ymatebion. Gall cyfanswm y canrannau fod yn uwch na 100 oherwydd talgrynnu.

Gofynnwyd i bob ymatebydd a oedd yn ymateb fel unigolyn neu’n swyddogol yn rhinwedd ei swydd ar ran sefydliad. Tynnwyd ar hyn, lle bo’n berthnasol, i nodweddu barn gwahanol fathau o ymatebwyr. Roedd llawer o’r ymatebion i gwestiynau yn ailadrodd themâu a phroblemau drwyddi draw.

O’r 3,387 o ymatebion a ddaeth i law drwy wefan Citizen Space, roedd 3,148 gan unigolion, 81 gan fusnesau, 34 gan gyrff masnach yn y sector, 7 gan sefydliadau ymchwil, 19 gan elusennau, 27 gan awdurdodau lleol a 101 gan sefydliadau o fathau eraill. Ni dderbyniwyd unrhyw ymatebion ymgyrchu mewn ymateb i’r ymgynghoriad. Mae Atodiad A yn darparu rhestr o’r holl ymatebwyr nad oedd wedi gofyn am i’w hymateb fod yn gyfrinachol.

Tabl 1: Dadansoddiad o gynrychiolaeth ddaearyddol yr ymgynghoriad

Rhanbarth Cyfanswm
Lloegr 2,712
Yr Alban 558
Cymru 451
Gogledd Iwerddon 164
Arall 25
Heb ateb 2

Mae’r cyfanswm yn fwy na 3,419, gan y gallai ymatebwyr ddewis mwy nag un rhanbarth.

Tabl 2: Dadansoddiad o’r ymatebion yn ôl mathau o ymatebwyr

Math o Ymatebydd Cyfanswm
Corff masnach y sector neu sefydliad aelodaeth 34 (1%)
Sefydliad ymchwil 7 (0%)
Elusen 19 (1%)
Busnes 81 (2%)
Awdurdod lleol 27 (1%)
Unigolyn 3,148 (92%)
Arall 101 (3%)
Heb ateb 2 (0%)
Cyfanswm 3,419 (100%)

Tabl 3: Dadansoddiad o’r ymatebwyr yn ôl mathau o ymatebwyr

Yn cadw adar Corff masnach y sector neu sefydliad aelodaeth Sefydliad ymchwil Elusen Busnes Awdurdod lleol Unigolyn Aral
Yn cadw dofednod 12 5 5 65 2 1,753 45
Yn cadw adar caeth eraill 19 0 13 18 1 562 36
Nid yw’n cadw adar 8 2 3 8 24 965 30

Gofynnwyd i ymgyngoreion a oeddent hwy neu eu sefydliad yn cadw dofednod neu adar caeth eraill (gellid dewis ymatebion lluosog). Mae Tabl 3 isod yn dangos canlyniadau yn ôl ceidwaid adar.

Crynodeb o’r ymatebion

Roedd 22 o gwestiynau yn y ddogfen ymgynghori. Roedd deg o’r rhain yn gwestiynau cefndir am yr ymatebwyr, gan ddarparu gwybodaeth gyd-destunol bwysig. Mae’r crynodeb hwn yn drosolwg lefel uchel o brif negeseuon yr ymatebion i’r ymgynghoriad, gan adlewyrchu’r safbwyntiau a gynigiwyd.

Roedd cwestiynau 11 i 20 yn gymysgedd o gwestiynau agored a chaeedig, gan ofyn am farn a mewnbwn gan ymatebwyr ar yr opsiynau arfaethedig ac agweddau dethol ar y cynigion.

Cwestiynau cyffredinol oedd cwestiynau 21 a 22 (caeedig ac agored yn y drefn honno), a oedd yn gofyn am wybodaeth ychwanegol. Mae cwestiynau sy’n casglu barn ar bwnc yr ymgynghoriad yn dechrau gyda Chwestiwn 11, o dan ‘Cynigion i ymestyn y gofynion cofrestru dofednod presennol’.

Ceir manylion yr ymatebion i Gwestiynau 11 i 20 isod:

Cynigion i ymestyn y gofynion cofrestru dofednod presennol (cwestiynau 11 i 13)

Cwestiwn 11: Nodwch yr opsiwn sydd orau gennych. Eglurwch y rhesymau dros eich ateb

  • llinell sylfaen: peidiwch â newid y gofynion cofrestru dofednod presennol

  • opsiwn 1: (yr opsiwn a ffefrir gan y llywodraeth) ymestyn y gofyniad cofrestru i bob ceidwad adar, gan gynnwys diweddariad blynyddol gorfodol i’r wybodaeth gofrestru

  • opsiwn 2: ymestyn y gofynion cofrestru i geidwad 10 aderyn neu fwy, gan gynnwys diweddariad blynyddol gorfodol i’r wybodaeth gofrestru

  • Nid oes gennyf neu gennym ni opsiwn a ffefrir. n.

Atebodd pawb a ymatebodd i’r ymgynghoriad (3,419) gwestiwn 11. Nid oedd y mwyafrif (75%) o ymatebwyr eisiau newid i’r gofynion cofrestru presennol (‘Gwneud dim’). Dim ond cyfran fach o’r ymatebwyr (13%) a ddewisodd opsiwn 1 ac 11% yn unig a ddewisodd opsiwn 2. Nid oedd gan 2% o’r ymatebwyr opsiwn yr oeddent yn ei ffafrio.

Tabl 4: Dosbarthiad opsiynau dewisol ymatebwyr

Opsiynau Nifer yr ymatebion
Gwneud dim 2,560
Opsiwn 1 (yr opsiwn a ffefrir gan y llywodraeth) 427
Opsiwn 2 372
Ddim yn ffafrio unrhyw opsiwn 60

Tabl 5: Dadansoddiad yn ôl mathau o ymatebwyr i gwestiwn 11

Ymatebwyr Gwneud dim Opsiwn 1 Opsiwn 2 Ddim yn ffafrio unrhyw opsiwn
Corff masnach y sector neu sefydliad aelodaeth 20 10 1 3
Sefydliad ymchwil 5 1 1 0
Elusen 7 8 4 0
Busnes 35 37 8 1
Awdurdod lleol 0 27 0 0
Unigolyn 2,420 325 353 50
Arall 71 19 5 6
Anhysbys (heb ei ateb) 2 0 0 0

Sylwadau gan ymatebwyr o blaid ‘gwneud dim’

Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr yn ffafrio cadw’r gofynion cofrestru presennol. Gydag ymatebion a oedd yn dewis peidio â newid y gofynion cofrestru presennol, roedd 37% o’r farn bod yr opsiynau arfaethedig yn rhy fiwrocrataidd neu’n rhy feichus i geidwaid adar. Nododd rhai ymatebwyr (31%) fod y gofynion cofrestru dofednod gorfodol presennol yn ddigonol, a nododd 21% “hawl i breifatrwydd” fel eu rheswm dros gefnogi’r opsiwn hwn.

Sylwadau gan ymatebwyr o blaid opsiwn 1

Pan ddewisodd ymatebwyr opsiwn 1, nododd 48% y byddai’r newidiadau arfaethedig yn helpu i wella’r gallu i olrhain adar er mwyn rheoli bygythiadau clefydau yn effeithiol a mynd i’r afael ag achosion o ffliw adar. Nododd yr ymatebwyr hefyd y byddai’r gofyniad cofrestru gorfodol yn helpu’r llywodraeth i gyfleu gwybodaeth i geidwaid ynghylch bioddiogelwch, newidiadau mewn arferion gorau neu reoleiddio a gwybodaeth am gadw eu hadar yn iach.

Sylwadau gan ymatebwyr o blaid opsiwn 2

Roedd rhai ymatebwyr a oedd yn cefnogi opsiwn 2 (36%) yn teimlo na ddylid ystyried heidiau bach o adar yn risg, a mynegodd 27% bryderon y byddai’r opsiwn yn annog ceidwaid heidiau bach rhag cadw adar. Roedd ambell un hefyd yn mynegi pryderon ynghylch sut y byddai’r newidiadau arfaethedig yn cael eu gorfodi.

Cwestiwn 12: I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r cynnig i ymestyn y gofynion cofrestru dofednod i gynnwys pob rhywogaeth o adar? Eglurwch y rhesymau dros eich ateb

Cafwyd 3,387 o ymatebion i’r cwestiwn hwn:

  • roedd 404 (12%) yn cytuno’n gryf

  • roedd 301 (9%) yn cytuno

  • roedd 228 (7%) yn niwtral

  • roedd 331 (10%) yn anghytuno

  • roedd 2,123 (62%) yn anghytuno’n gryf

Tabl 6: Dadansoddiad yn ôl mathau o ymatebwyr i gwestiwn 12

Mathau o ymatebwyr Cytuno’n gryf Cytuno Ddim yn cytuno nac yn anghytuno Anghytuno Anghytuno’n gryf Ddim yn gwybod
Corff masnach y sector neu sefydliad aelodaeth 9 3 3 4 15
Sefydliad ymchwil 2 0 0 1 4
Elusen 7 2 0 0 10
Busnes 32 10 6 3 30
Awdurdod lleol 21 5 0 0 0
Unigolyn 314 274 212 307 2,010
Arall 19 7 7 15 53
Heb ateb 0 0 0 1 1

Mae’r sylwadau a ddaeth i law i’r cwestiwn hwn yn cyfateb i, ac yn gyson â’r ymatebion i gwestiwn 11. Roedd nifer o ymatebwyr (48%) a oedd yn gwrthwynebu’r cynnig i ymestyn y gofynion cofrestru gorfodol presennol i bob rhywogaeth o adar yn ystyried ei fod yn rhy fiwrocrataidd neu’n rhy feichus, gydag is-set yn nodi diffyg ymddiriedaeth yn sgil canfyddiad o or-reoleiddio a rheolaeth. Dywedodd rhai ymatebwyr (20%) y byddai’r estyniad arfaethedig yn torri ar breifatrwydd y ceidwaid.

Nododd rhai ymatebwyr (12%) na fyddai’r cynnig yn helpu i reoli lledaeniad ffliw adar yn ystod brigiad, gan nodi bod gan adar gwyllt fwy o ran yn lledu ffliw adar ymhlith adar a gedwir. Roedd ambell ymatebydd yn teimlo y dylai cofrestru adar yn wirfoddol yn hytrach na chofrestru pob aderyn yn orfodol fod yn ddigonol er mwyn i geidwaid dderbyn gwybodaeth bwysig am risgiau lleol o glefyd adar neu am frigidau o glefyd.

Roedd rhai ymatebwyr (21%) yn cefnogi’r cynnig i ymestyn y gofynion cofrestru gorfodol presennol i bob rhywogaeth o adar, gyda mwyafrif (60%) yn nodi y byddai’n cael effaith gadarnhaol wrth reoli ffliw adar a chlefydau adar eraill. Nododd rhai ymatebwyr fod pob rhywogaeth o adar, nid dofednod yn unig, yn agored i ffliw adar, gan dynnu sylw at yr angen i’r llywodraeth fandadu pob ceidwad i gofrestru eu hadar. Awgrymodd rhai ymatebwyr (18%) y byddai cofrestru pob rhywogaeth o adar yn caniatáu monitro ac adnabod yn well pe bai yna frigiadau o glefyd.

Roedd 15% o’r ymatebwyr a ddewisodd ‘ddim yn cytuno nac yn anghytuno’ yn ailadrodd pryderon bod y newidiadau arfaethedig yn fiwrocrataidd neu’n feichus, gydag is-set yn nodi diffyg ymddiriedaeth gyffredinol yn y broses gofrestru. Ychwanegodd rhai y byddai’r cynigion yn ddefnydd aneffeithiol o gyllid cyhoeddus.

Cwestiwn 13: I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r cynigion i leihau trothwy cofrestru pob rhywogaeth o adar (ac eithrio adaranwes a gedwir yn gyfan gwbl mewn annedd ddomestig)? Eglurwch y rhesymau dros eich ateb.

Gofynnwyd i’r ymatebwyr i ba raddau yr oeddent yn cytuno neu’n anghytuno â’r cynnig i leihau’r trothwy cofrestru o 50 i naill ai un aderyn neu 10 aderyn. Derbyniwyd cyfanswm o 3,376 o ymatebion ar gyfer y cwestiwn hwn.

Dewisodd ymatebwyr fwy nag un opsiwn wrth ymateb i’r cwestiwn hwn trwy gytuno neu anghytuno â gostwng y trothwy cofrestru presennol o 50 i naill ai un aderyn neu 10 aderyn. Fodd bynnag, ni wnaeth 35 ateb y cwestiwn ynglŷn â’r gostyngiad o 50 i un, ac ni wnaeth 97 ateb y cwestiwn ynglŷn â gostyngiad o 50 i 10. Felly, gallai’r sylwadau a ddarperir fod mewn perthynas â chefnogi neu wrthwynebu gostwng y trothwy cofrestru o 50 i un, neu o 50 i 10, neu mewn perthynas â’r ddau.

Roedd yr adborth allweddol gan ymatebwyr, a oedd naill ai’n cefnogi neu’n gwrthwynebu’r gostyngiad yn y trothwy cofrestru o 50 i un aderyn neu i 10 aderyn, yn debyg i’r adborth a dderbyniwyd ar gyfer cwestiynau 11 a 12. Nid yw’r rhain wedi’u hailadrodd yma. Fodd bynnag, nododd nifer fach o ymatebwyr y gallai’r cynigion fod yn anodd eu gorfodi.

Tabl 7: Dadansoddiad o’r ymatebion i gwestiwn 13

Math o ymatebydd Cytuno’n gryf Cytuno Ddim yn cytuno nac yn anghytuno Anghytuno Anghytuno’n gryf Ddim yn gwybod
Gostyngiad o 50 i 1 342 153 75 251 2,499 34
Gostyngiad o 50 i 10 225 291 476 239 2,032 29

Eithriad i geidwaid adar anwes (Cwestiwn 14)

Cwestiwn 14: A ydych chi’n meddwl y dylai adar anwes sy’n cael eu cadw mewn annedd ddomestig yn unig gael eu heithrio o’r cynnig i ymestyn y gofynion cofrestru gorfodol i bob rhywogaeth o adar? Eglurwch y rhesymau dros eich ymateb.

Cafodd y cwestiwn hwn 3,389 o ymatebion. Roedd y mwyafrif (79%) yn cytuno y dylid eithrio adar anwes o fewn anheddau domestig o’r cynnig i ymestyn y gofynion cofrestru gorfodol i bob rhywogaeth o adar. Ymatebodd 392 (12%) ‘nac ydw’, nad oeddent yn cytuno â’r eithriad. Nid oedd 324 (10%) yn siŵr neu nid oedd ganddynt farn.

Tabl 8: Dadansoddiad yn ôl mathau o ymatebwyr i gwestiwn 14

Ymatebwyr Oes Nac oes Ddim yn gwybod
Corff masnach y sector neu sefydliad aelodaeth 26 4 4
Sefydliad ymchwil 7 0 0
Elusen 12 4 3
Busnes 54 21 6
Awdurdod lleol 14 9 3
Unigolyn 2,481 340 296
Arall 75 14 12
Heb ateb 2 0 0

Themâu allweddol

O’r rhai a ymatebodd ‘ydw’, roedd 48% yn teimlo y dylid ystyried bod adar cawell neu adar anwes a gedwir mewn anheddau domestig mewn risg isel iawn o ddod i gysylltiad â ffliw adar neu o ledaenu’r clefyd. Yn debyg i adborth o gwestiynau blaenorol, nododd 23% y byddai’r gofynion gorfodol arfaethedig yn feichus i geidwaid adar anwes. Mynegodd lleiafrif bach (11%) y dylai ceidwaid adar anwes gael yr hawl i breifatrwydd ac y dylent gael eu heithrio rhag unrhyw ofynion cofrestru gorfodol.

O’r rhai a ymatebodd ‘nac ydw’, roedd y mwyafrif (53%) yn teimlo na ddylai adar anwes sy’n cael eu cadw mewn annedd ddomestig beri risg o ran lledaenu clefydau adar hysbysadwy.

Roedd rhai ymatebwyr ar draws yr holl ymatebion (ydw, nac ydw, ddim yn gwybod) yn cwestiynu a ddylid ymestyn y diffiniad o adar anwes i gynnwys ieir anwes. Galwodd rhai ymatebwyr am eglurhad ar y diffiniad o adar anwes a’r hyn a olygir wrth nodi ‘o fewn annedd ddomestig’. Dywedodd ymatebydd o’r categori corff masnach y sector neu sefydliad aelodaeth y byddai “eglurder ar y diffiniad o adar anwes yn hanfodol i osgoi dryswch ymhlith perchnogion, er mwyn osgoi bylchau yn y gyfraith ac i leihau problemau lles anfwriadol posibl.”

Diweddariadau blynyddol gorfodol (cwestiynau 15 i 17

Cwestiwn 15: I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â gorfodi pob ceidwad adar i adolygu a diweddaru ei wybodaeth ar y gofrestr yn flynyddol, a hynny erbyn dyddiad penodol? Eglurwch y rhesymau dros eich ateb.

Cafwyd 3,387 o ymatebion i’r cwestiwn hwn. O’u plith:

  • roedd 297 (9%) yn cytuno’n gryf

  • roedd 303 (9%) yn cytuno

  • roedd 221 (7%) ddim yn cytuno nac yn anghytuno

  • roedd 384 (11%) yn anghytuno

  • roedd 2,182 (64%) yn anghytuno’n gryf

Tabl 9: Dadansoddiad yn ôl mathau o ymatebwyr i gwestiwn

Ymatebwyr Cytuno’n gryf Cytuno Ddim yn cytuno nac yn anghytuno Anghytuno Anghytuno’n gryf
Corff masnach y sector neu sefydliad 9 4 3 3 15
Sefydliad ymchwil 1 1 1 0 4
Elusen 6 4 1 1 7
Busnes 28 13 7 7 26
Awdurdod lleol 19 5 2 0 0
Unigolyn 217 271 199 364 2,066
Arall 17 5 8 8 63
Heb ateb 0 0 0 1 1

Themâu allweddol

O’r rhai sy’n cefnogi’r diweddariad blynyddol gorfodol, tynnodd 72% sylw at bwysigrwydd cadw’r gofrestr yn gyfredol ac yn gywir, er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth. Ychwanegodd rhai ymatebwyr y byddai’n ddefnyddiol pe bai negeseuon atgoffa blynyddol yn cael eu hanfon at geidwaid drwy’r system ar-lein arfaethedig i helpu i gynnal gwybodaeth. Nododd rhai ymatebwyr (20%) y dylid cynnal adolygiad blynyddol o’r wybodaeth ar y gofrestr. Awgrymwyd y posibilrwydd o gael gwahanol ofynion adrodd ar gyfer ceidwaid o lai na 50 o adar i’r rhai â 50 o adar neu fwy.

O’r rhai a oedd yn gwrthwynebu, roedd 56% o’r farn y byddai gorfodi ceidwaid i ddiweddaru eu gwybodaeth ar-lein yn rhy feichus i geidwaid, gyda rhai ymatebwyr yn ychwanegu nad oedd y broses arfaethedig yn ddefnydd effeithiol o gyllid cyhoeddus. Codwyd hawl ceidwaid i breifatrwydd unwaith eto fel pryder.

Cwestiwn 16: Yn dilyn ymlaen o gwestiwn 15, pryd ydych chi’n meddwl y dylid anfon y nodyn atgoffa blynyddol at geidwaid?

Atebwyd y cwestiwn hwn gan 3,387 o ymatebwyr. O’r rhai a atebodd:

  • dewisodd 121 (4%) 1 Mehefin bob blwyddyn

  • dewisodd 68 (2%) 1 Gorffennaf bob blwyddyn

  • dewisodd 172 (5%) 1 Rhagfyr bob blwyddyn

  • nid oedd gan 1,323 (39%) opsiwn a ffefrir

  • dewisodd 1,693 (50%) ‘arall’

Roedd 50% o’r ymatebwyr wedi dewis ‘arall’ mewn ymateb i’r cwestiwn. Roedd y mwyafrif (94%) ohonynt yn gwrthwynebu’r cynnig i’w wneud yn ofynnol i geidwaid adolygu a diweddaru eu gwybodaeth yn flynyddol yng nghwestiwn 15.

Tabl 10: Dadansoddiad yn ôl mathau o ymatebwyr i gwestiwn 16

Ymatebwyr 1 Mehefin bob blwyddyn 1 Gorffennaf bob blwyddyn 1 Rhagfyr bob blwyddyn Ddim yn ffafrio unrhyw opsiwn Arall
Corff masnach y sector neu sefydliad 2 2 3 10 17
Sefydliad ymchwil 1 0 0 2 4
Elusen 0 1 2 12 4
Busnes 8 6 13 25 29
Awdurdod lleo 4 5 0 14 3
Unigolyn 113 52 146 1,225 1,581
Arall 3 2 8 35 55

Nododd rhai o’r ymatebwyr fod 1 Rhagfyr yn ddyddiad da i anfon nodiadau atgoffa blynyddol at geidwaid i ddiweddaru eu gwybodaeth ar y gofrestr, gan ddweud ei bod yn dymor llai prysur i fridwyr, a bod hwn yn gyfnod pan oedd niferoedd yr adar yn fwyaf sefydlog. Roedd yn well gan rai ymatebwyr naill ai 1 Mehefin neu 1 Gorffennaf fel dyddiadau ar gyfer anfon nodiadau atgoffa blynyddol at geidwaid i ddiweddaru eu gwybodaeth ar y gofrestr. Nodwyd bod y ddau ddyddiad y tu allan i’r tymhorau bridio neu ddeor, ond cyn y tymor ffliw adar risg uchel. Y dyddiadau eraill a awgrymwyd oedd 1 Ionawr, 1 Chwefror ac 1 Ebrill.

Cwestiwn 17: Yn eich barn chi, a yw’r cyfnod pontio arfaethedig o 12 mis ar gyfer y gofynion diweddaru blynyddol gorfodol newydd yn rhesymol? Neu yn rhy fyr? Neu yn rhy hir? Neu ddim yn gwybod/dim sylw? Eglurwch y rhesymau dros eich ateb.

Atebwyd y cwestiwn hwn gan 3,387 o ymatebwyr. O’r rhai a ymatebodd, nid oedd 53% yn gwybod neu nid oedd ganddynt unrhyw sylw i’w wneud o ran y cyfnod pontio arfaethedig. Dywedodd 24% fod y cyfnod pontio arfaethedig yn rhy fyr. Dywedodd 20% fod y cyfnod yn rhesymol a dywedodd 3% ei fod yn rhy hir.

Cododd ambell ymatebwr fater mynediad at borth ar-lein, gan nodi nad oes gan bob unigolyn fynediad at y rhyngrwyd ac y gallent ei chael hi’n anodd cofrestru eu hadar trwy borth ar-lein. Nododd rhai hefyd y byddai’n ofynnol cael ymgyrch ymwybyddiaeth y cyhoedd gan y llywodraeth i yrru newidiadau arfaethedig yn eu blaen er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth.

Tabl 11: Dadansoddiad o’r mathau o ymatebwyr i gwestiynau 17

Atebwyr Rhesymol Rhy fyr Rhy hir Ddim yn gwybod/Dim sylw
Corff masnach y sector neu sefydliad 8 7 1 18
Sefydliad ymchwil 2 1 0 4
Elusen 8 2 1 8
Busnes 26 10 13 32
Awdurdod lleo 15 4 4 3
Unigolyn 600 749 76 1,692
Arall 20 33 7 41
Heb ateb 0 0 0 2

Gwybodaeth ychwanegol (Cwestiynau 18 i 20)

Roedd cwestiynau 18 a 19 yn gofyn am wybodaeth neu dystiolaeth ychwanegol ar effeithiau posibl newidiadau arfaethedig o dan opsiwn 1 neu opsiwn 2.

Cwestiwn 18: A oes gennych wybodaeth neu dystiolaeth ychwanegol am effeithiau posibl y diwygiad arfaethedig i’r gofynion cofrestru dofednod gorfodol a’r estyniad i bob rhywogaeth o adar fel y nodir yn opsiwn 1?

Cwestiwn 19: A oes gennych wybodaeth neu dystiolaeth ychwanegol am effeithiau posibl y diwygiad arfaethedig i’r gofynion cofrestru dofednod gorfodol a’r estyniad i geidwaid 10 aderyn neu fwy fel y nodir yn opsiwn 2?

Mae’r ymatebion a ddaeth i law i’r cwestiynau hyn yn cyfateb i, ac yn gyson â’r ymatebion i gwestiwn 11. Ailadroddodd ymatebwyr i gwestiynau 18 ac 19 a oedd o blaid yr opsiwn ‘gwneud dim’ eu bod yn anghytuno â’r cynigion i ymestyn y gofynion cofrestru dofednod gorfodol presennol (un aderyn neu 10 aderyn). Mae’r themâu allweddol yr un fath â’r rhai a nodir yng nghwestiynau 11 a 12. Felly, nid ydynt yn cael eu hailadrodd yma.

Cwestiwn 20: A oes unrhyw beth arall yr hoffech ei ddweud wrthym ynglŷn â’r diwygiadau arfaethedig i’r gofynion cofrestru?

Ymatebodd 3,387 i’r cwestiwn hwn, a dim ond 2,025 ohonynt a roddodd sylwadau pellach.

Themâu allweddol

Ailadroddodd 27% o’r ymatebwyr eu bod yn cefnogi’r gofynion dofednod gorfodol presennol (‘gwneud dim’). Dywedodd 21% o’r ymatebwyr y byddai’r newidiadau arfaethedig yn atal ceidwaid rhag cadw adar. Dywedodd 16% y byddai’r newidiadau arfaethedig i’r gofyniad cofrestru gorfodol yn arwain at gostau ychwanegol i geidwaid.

Ailadroddodd 15% o’r ymatebwyr fod y newidiadau arfaethedig yn cael eu hystyried yn fiwrocrataidd neu’n feichus, gyda rhai yn ychwanegu bod ganddynt ddiffyg ymddiriedaeth gyffredinol yn y broses neu yn y llywodraeth.

Daeth nifer o themâu a materion cyffredinol i’r amlwg hefyd o’r ymatebion i’r ymgynghoriad. Roedd y rhain yn cynnwys:

  • mater mynediad at borth cofrestru ar-lein i unigolion heb fynediad at y rhyngrwyd

  • yr angen am ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth ynglŷn â’r newidiadau arfaethedig i ofynion cofrestru er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth

  • yr angen i wneud y broses gofrestru’n syml, yn hawdd ac yn hawdd ei defnyddio

  • y cais i sicrhau bod gofynion cofrestru gwahanol ar gyfer ceidwaid gyda llai na 50 o adar o’i gymharu â’r rhai sydd â dros 50 o adar

  • yr angen am eglurder ynghylch sut y byddai’r newidiadau arfaethedig yn cael eu gorfodi

Ymateb y Llywodraeth a’r camau nesaf

Hoffem ddiolch i’r holl ymatebwyr a gyfrannodd at yr ymgynghoriad.

Rydym wedi ystyried yn ofalus yr ymatebion i’r opsiynau i ymestyn y gofynion cofrestru dofednod presennol, gan gynnwys yr opsiwn ‘gwneud dim’. Mae’r llywodraeth yn cydnabod, er bod y rhan fwyaf o’r ymatebwyr i’r ymgynghoriad yn anghytuno â gwneud newidiadau i’r gofynion cofrestru dofednod gorfodol presennol, roedd yna gytundeb gan nifer o ymatebwyr y dylid lleihau’r trothwy cofrestru o 50 o adar i un neu 10.

Rydym yn ddiolchgar iawn am y diddordeb yn yr ymgynghoriad hwn. Ar ôl ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad yn briodol a chymryd i ystyriaeth amcanion y llywodraeth i fynd i’r afael ag achosion o glefydau adar hysbysadwy (fel ffliw adar) mewn adar a gedwir, rydym yn bwriadu gweithredu opsiwn 1.

Bydd ymestyn y cofrestru gorfodol presennol i bob rhywogaeth o adar drwy leihau’r trothwy i un yn sicrhau bod gennym wybodaeth am leoliad yr holl adar sydd mewn perygl (dofednod ac adar caeth eraill). Mae hyn yn bwysig wrth geisio atal a rheoli brigiaau o glefyd adar hysbysadwy, fel ffliw adar. Gall achosion o ffliw adar, hyd yn oed mewn heidiau bach, olygu costau sylweddol i’r llywodraeth, i ddiwydiant ac i’r trethdalwr. Bydd gwybod lleoliad yr holl adar sydd mewn perygl yn galluogi’r llywodraeth i gyfathrebu â’r holl geidwaid adar pan fydd risg uwch o lediad ffliw adar, ac yn ystod brigiadau o ffliw adar a chlefyd Newcastle, ar fesurau y mae angen iddynt eu cymryd i amddiffyn iechyd eu hadar ac atal clefydau rhag lledaenu. Mae ymestyn y cofrestru hefyd yn ein galluogi i gynnal gwyliadwriaeth:

  • i fodloni mesurau rheoli clefydau a nodir mewn deddfwriaeth ddomestig a

  • chyflawni gofynion rhyddid rhag clefyd yr UE at ddibenion masnach, yn dilyn brigiad o glefyd ym Mhrydain Fawr

Bydd gorfodi pob ceidwad i ddiweddaru ei wybodaeth ar y gofrestr yn flynyddol yn sicrhau cywirdeb y data a bydd yn helpu i gydymffurfio â mesurau cofrestru gorfodol sy’n cael eu cyflwyno.

Gwnaethom nodi’r angen am eglurder o ran y diffiniad o adar anwes ac anheddau domestig y bu ymatebwyr yn gofyn amdano. Mae dofednod ac adar caeth eraill (gan gynnwys adar anwes) yn agored i glefydau adar hysbysadwy (fel ffliw adar a chlefyd Newcastle). Fodd bynnag, rydym yn derbyn bod rhai adar cawell sy’n cael eu cadw dan do yn rhai risg isel iawn, o ystyried eu lleoliad. Felly, ein bwriad yw eithrio adar parotaidd a golfanaidd a gedwir mewn ‘tŷ adar’ pwrpasol heb unrhyw fynediad i’r ardal allanol o’r gofyniad cofrestru gorfodol. Bydd y meini prawf eithrio a’r diffiniad perthnasol o ardal allanol yn fwy clir yn y ddeddfwriaeth.

Rydym yn deall bod y mwyafrif o’r ymatebwyr yn teimlo bod y newidiadau arfaethedig yn rhy fiwrocrataidd ac yn feichus. Rydym yn cytuno y dylai’r broses ar gyfer cofrestru a diweddariadau blynyddol fod mor syml â phosibl. Fel y nodwyd yn y cyfnod ymgynghori, rydym ar hyn o bryd yn gweithio ar symleiddio’r broses gofrestru trwy gyflwyno porth ar-lein. Bydd hyn yn caniatáu i geidwaid newydd gofrestru eu hadar ar-lein, neu i geidwaid presennol gael mynediad at eu cofnod neu ddadgofrestru a diweddaru os nad ydynt bellach yn cadw adar. Bydd y broses gofrestru newydd yn symlach ac yn hawdd ei defnyddio heb fiwrocratiaeth a gwaith papur diangen. Bydd canllawiau hefyd yn cael eu darparu i helpu ceidwaid i lywio’r system newydd. Rydym hefyd yn cydnabod nad yw pobl bob amser yn teimlo’n hyderus yn defnyddio meddalwedd ddigidol, a byddwn yn archwilio ffyrdd o gefnogi hyn.

Awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am orfodi’r gofynion cofrestru dofednod presennol a byddant yn cadw’r cyfrifoldeb hwn o dan y newidiadau arfaethedig. Bydd awdurdodau lleol yn parhau i gymryd ymagwedd cam wrth gam tuag at orfodi, gan gynghori ceidwaid o’u dyletswydd. Bydd camau gorfodi ffurfiol yn cael eu hystyried ar gyfer diffyg cydymffurfiaeth barhaus yn unig.

Y Camau Nesaf

Bydd y newidiadau arfaethedig yn cael eu gweithredu mewn 2 gam. Byddai’r gofynion cofrestru gorfodol yn berthnasol o ddiwedd yr haf neu ddechrau hydref 2024 a’r diweddariadau blynyddol gorfodol 12 mis wedyn.

Bydd Defra, Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth Cymru yn lansio ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus ar y cyd cyn i’r gofynion newydd ddod i rym. Byddwn yn cymryd y camau hyn i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ymhlith yr holl geidwaid adar cyn i’r gofynion cofrestru gorfodol newydd ddod i rym. Mae hyn yn arbennig o bwysig i’r rhai nad yw’n ofynnol yn gyfreithiol iddynt gofrestru eu hadar ar hyn o bryd.

Mae Defra, Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth Cymru yn cynnig gweithredu’r mesurau newydd drwy’r ddeddfwriaeth ganlynol:

  • yn Lloegr

  • yn yr Alban

  • yng Nghymru

Atodiad A: rhestr o’r ymatebwyr

Rhestr o ymgyngoreion a ymatebodd i’r ymgynghoriad hwn ac nad oeddent yn gofyn am gyfrinachedd.

  • 2 Sisters Food Group

  • AF Beavan & Co

  • AM Doble

  • AFD Roberts Farm

  • Adams & Thom

  • AJ ac EJ Philip

  • Ama

  • Anglia Free Range Eggs Ltd

  • Cymdeithas Prif Swyddogion Safonau Masnach

  • Australian Finch Society UK

  • Avara Foods Ltd

  • Aviagen Turkeys Ltd

  • Avicultural Society

  • Banham Poultry (2018) Ltd

  • Border Convention

  • Bridgers Farm Ltd

  • Cyngor Dinas Bryste

  • British and Irish Association of Zoos and Aquariums

  • British Association for Shooting and Conservation

  • Cyngor Adar Prydain

  • Cyngor Diwydiant Wyau Prydain

  • Cymdeithas Cynhyrchwyr Wyau Maes Prydain

  • British International Championship Club

  • Cyngor Dofednod Prydain

  • Cymdeithas Milfeddygol Anifeiliaid Bach Prydain

  • Cymdeithas Milfeddygon Prydain

  • Cymdeithas Ddofednod Milfeddygol Prydain

  • Cymdeithas Swolegol Milfeddygol Prydain

  • Brownies Bespoke Aviaries

  • Cyngor Bwrdeistref Broxtowe

  • Bruce Howell Waterfowl

  • Safonau Masnach CBS Caerffili

  • Grŵp rhanbarthol Iechyd Anifeiliaid yr Awdurdod Safonau Masnach Ganolog (Centsa)

  • Cheshire Hawking Club

  • Cheshire Pheasants

  • Chickens To Your Door

  • Dinas Newcastle upon Tyne

  • Canary Colour Breeders’ Association

  • Countryside Alliance

  • Croft 2 Lee

  • Cumbria Region – Royal Pigeon Racing Association

  • Dementia Pioneers CIC

  • DJ ac MP Mills

  • Cymdeithas Safonau Masnach Dwyrain Lloegr – grŵp gorchwyl iechyd a lles anifeiliaid

  • Cyngor Sir Dwyrain Sussex – Safonau Masnach

  • Cyngor Sir Essex

  • Undeb Amaethwyr Cymru

  • Female Falconers Club

  • Force Brewery Limited

  • Frankiss Ltd

  • Gateshead and Newcastle Budgerigar Society

  • Glenrath Farms Ltd

  • GNF a GA Browning

  • Go Active Falconry

  • Hailsham & District Bird Club

  • Havant & Solent Cage Bird Societies

  • Hazelgrove farm

  • High View Farm

  • Highland Eggs (Scotland) Ltd

  • Homestead Farm

  • Humphreys

  • Intake Farm

  • Canolfan Ryngwladol ar gyfer Adar Ysglyfaethus

  • Cyngor Ynys Wyth

  • IWC Ltd

  • J Priestner Partnership

  • Cyngor Kirklees

  • Laying Hen Welfare Forum

  • LCS Agriculture Ltd

  • Lizard Canary Association of Great Britain

  • Cyngor Tref Loftus

  • Logie Farms

  • Bwrdeistref Bromley yn Llundain

  • MJ Hayward & Sons

  • Mainline Growers Ltd

  • Market Bosworth Farm Sales Ltd

  • Midlothian Federation

  • Miss Sally E Crowe

  • Morndyke Parrot Sanctuary

  • Muirmill Farm

  • Panel Cenedlaethol Iechyd a Lles Anifeiliaid

  • National Centre for Birds of Prey

  • Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr (NFU)

  • NFU Cymru

  • NFU Yr Alban

  • Cyngor Sir Norfolk – Safonau Masnach

  • North Devon Hawk Walks

  • Grŵp Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymdeithas Safonau Masnach Gogledd-ddwyrain Lloegr (NETSA Region)

  • North of Scotland Gloster Club/Publicity Officer Portknockie Cage Bird Society

  • Norwich City Flying Club

  • Safonau Masnach Cyngor Swydd Nottingham

  • P ac M Bennion

  • PD Hook (Hatcheries) Ltd

  • Paradise Park

  • Paradise Pets Ltd

  • Parrot Trust Scotland

  • Poultry Health Services

  • Cyngor Sir Powys – Gwasanaeth Safonau Masnach

  • RJ Harbottle (Farm)

  • RG ac RJ Allen

  • Royal Pigeon Racing Association

  • Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar

  • Y Coleg Milfeddygol Brenhinol

  • RSPCA

  • Rutland Poultry Ltd

  • S J Bridger

  • S. Holmes agricultural services

  • Cyngor Dinas Salford

  • Scottish Homing Union

  • Scrumptious Eggs

  • West Wales Fife Fancy Canary Club

  • Shotton & Trimdon Federation

  • Cyngor Swydd Amwythig

  • Shropshire Good Food Partnership

  • Shropshire One Loft Race

  • Soames Trust

  • South Essex wildlife hospital

  • Cyngor Dinas Stoke

  • Safonau Masnach Cyngor Sir Suffolk

  • Sundean Vet Group

  • The British Hen Welfare Trust

  • The Canary Council and The National Council for Aviculture

  • The Falconry School

  • The Game Farmers’ Association

  • The Hawk Board

  • The Lakes Free Range Egg Co Ltd

  • The Lancashire British Bird Mule and Hybrid Club

  • The International Ornithological Association

  • The New Arc Wildlife Rescue

  • The Owls Trust

  • The Scots Fancy Specialist Club

  • The Self Help Group for Farmers, Pet Owners and Others experiencing difficulties with the RSPCA)

  • TIR Bach Smallholding Ltd

  • Trading Standards Southeast Limited – Southeast Animal Health and Welfare Panel

  • Cymdeithas Byjerigars Cymru

  • Cymdeithas Hebogiaid Cymru

  • Undeb Colomennod Dychwel Cymru

  • West Grinstead Bird Society

  • Westland Barton Ltd

  • Wickerty Snook Ornamental

  • Waterfowl Breeding Farm

  • Wild Things Rescue

  • Cyngor Metropolitan Cilgwri

  • Wolds And District Flying Club

  • Woofferton Poultry Ltd

  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

  • WT ac RT Greenhill

  • WWT Slimbridge Living Collection