298,905 o gyflwynwyr Hunanasesiad yn ymateb yn gyflym
Rhwng 6 a 12 Ebrill, mae cannoedd o filoedd o bobl wedi cyflwyno eu Ffurflenni Treth Hunanasesiad ar gyfer blwyddyn dreth 2025 i 2026.
- Fe wnaeth 298,905 o bobl gyflwyno eu Ffurflenni Treth Hunanasesiad yn ystod wythnos gyntaf y flwyddyn dreth, a record o 737,891 yn Ebrill 2026.
- Fe wnaeth 86,270 o unigolion gwblhau eu Ffurflenni Treth ar Ddydd Llun y Pasg, 6 Ebrill.
- Mae pobl sy’n ffeilio eu Ffurflenni Treth Hunanasesiad yn gynnar ac sydd ag ad-daliad treth yn ddyledus iddynt yn ei gael yn gynt.
Roedd cannoedd o filoedd o drethdalwyr ar y blaen drwy gyflwyno eu Ffurflenni Treth Hunanasesiad yn gynnar yn ystod y mis diwethaf, gyda 86,270 yn cyflwyno ar y diwrnod cyntaf - wrth iddi ddod i’r amlwg mai Dydd Llun y Pasg oedd y diwrnod mwyaf poblogaidd.
Fe wnaeth dros 298,900 o bobl gyflwyno rhwng 6 a 12 Ebrill - sef wythnos gyntaf y flwyddyn dreth. Fe wnaeth mis Ebrill yn ei gyfanrwydd sefydlu record newydd. Bu bron i 740,000 o bobl gyflwyno eu Ffurflenni Treth ar gyfer blwyddyn dreth 2025 i 2026.
Gall unrhyw un sydd ddim yn sicr a oes angen iddo gwblhau Ffurflen Dreth ddefnyddio’r offeryn gwirio ar °Ç¸ç³Ô¹Ï er mwyn dysgu. Mae’n rhaid i’r rhai sy’n newydd i Hunanasesiad gofrestru yn gyntaf er mwyn cael eu cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR). Mae’n rhaid iddynt gael y cyfeirnod hwn er mwyn cwblhau a chyflwyno eu Ffurflenni Treth.
Meddai Myrtle Lloyd, Prif Swyddog Cwsmeriaid Cyllid a Thollau EF:
Mae cyflwyno’n gynnar a chadw ar ben eu materion ariannol wedi dod yn rhywbeth cyffredin i filoedd o bobl. Mae’n lleihau’r pwysau ym mis Ionawr, ac yn golygu y gallant dreulio eu hamser yn canolbwyntio ar eu busnes, a gwneud y pethau maent yn hoffi eu gwneud.
Dechreuwch arni heddiw gyda’ch Ffurflen Dreth drwy chwilio am ‘Self Assessment’ ar °Ç¸ç³Ô¹Ï, a dewis yr opsiwn Cymraeg ar y dudalen berthnasol.
Disgwylir i dros 12 miliwn o drethdalwyr gyflwyno Ffurflen Dreth 2025 i 2026 erbyn 31 Ionawr 2027. Fodd bynnag, nid oes rhaid i bobl aros. Mae CThEF yn annog miliynau o bobl i gychwyn arni a chyflwyno’n gynnar. Golyga hyn eu bod yn ymwybodol o’r dreth sydd arnynt yn gynt, fel eu bod yn gallu cynllunio ar gyfer unrhyw daliad ymlaen llaw, ac osgoi’r straen o’i adael tan fis Ionawr.
Mae CThEF wedi diweddaru arweiniad ar gyflwyno Ffurflenni Treth yn gynnar a help ynghylch talu biliau ar °Ç¸ç³Ô¹Ï.
Gall trethdalwyr sefydlu cynllun talu cyllidebol er mwyn gwneud taliadau debyd uniongyrchol – yn wythnosol neu’n fisol – tuag at eu bil treth Hunanasesiad. Bydd hyn yn gwasgaru cost eu bil treth dros y flwyddyn, yn lle bod un bil angen ei dalu ar unwaith erbyn y dyddiad cau ar gyfer talu ar 31 Ionawr.
Mewn achosion lle mae treth wedi’i gordalu, gellir hawlio ad-daliadau cyn gynted ag y bydd y Ffurflen Dreth wedi’i phrosesu. Bydd cwsmeriaid yn gallu gwirio a oes ad-daliad yn ddyledus iddynt drwy ddefnyddio ap CThEF. Mae hefyd yn golygu y gall pobl gymryd eu hamser i lenwi eu Ffurflen Dreth, gan sicrhau bod yr holl wybodaeth a gyflwynwyd yn gywir. Bydd hyn yn arwain at lai o gamgymeriadau a chosbau posibl.
Yn ogystal, o 6 Ebrill 2026 ymlaen, mae’n rhaid i unig fasnachwyr a landlordiaid sydd â throsiant dros £50,000 ddefnyddio . Bydd yn ofynnol iddynt gyflwyno crynodebau chwarterol o’u hincwm a’u treuliau i CThEF. O Ebrill 2027 ymlaen, bydd hyn hefyd yn berthnasol i unig fasnachwyr a landlordiaid sydd â throsiant cyfun o dros £30,000. Gall asiantau hefyd gofrestru eu cleientiaid ar °Ç¸ç³Ô¹Ï.
Bydd y rhai sydd o fewn cwmpas Troi Treth yn Ddigidol (MTD) yn parhau i gyflwyno Ffurflen Dreth Hunanasesiad, ac mae CThEF yn annog cwsmeriaid i ennill y blaen a chyflwyno eu Ffurflenni Treth ar gyfer blwyddyn dreth 2025 i 2026 nawr.
Yn aml, mae troseddwyr yn dynwared CThEF er mwyn dwyn arian neu wybodaeth bersonol o dan enw rhywun arall. Dylai pobl gymryd amser er mwyn oedi a meddwl a yw’r cais yn un gwirioneddol cyn rhannu gwybodaeth bersonol. Ni ddylai pobl ddilyn cysylltiadau sydd mewn negeseuon annisgwyl, na rhannu eu manylion mewngofnodi ar gyfer CThEF. Mae rhagor o wybodaeth ynghylch manylion cyswllt gwirioneddol CThEF, a chyngor ar sut i adnabod sgamiau, ar gael ar °Ç¸ç³Ô¹Ï drwy chwilio am ‘HMRC phishing and scams’, a dewis yr opsiwn Cymraeg ar y dudalen berthnasol.
Mae ystod eang o help a chymorth ar-lein ar gael ar °Ç¸ç³Ô¹Ï i helpu pobl i lenwi a chyflwyno eu Ffurflen Dreth.
Rhagor o Wybodaeth
Rhagor o wybodaeth am Hunanasesiad
Dadansoddiad o’r data o ran cyflwyno:
| Dyddiad | Ffurflen dreth 25-26 | Ffurflen dreth 24-25 |
|---|---|---|
| 6 Ebrill | 86,270* | 57,815** |
| 7 Ebrill | 56370 | 64505 |
| 8 Ebrill | 43763 | 49162 |
| 9 Ebrill | 39785 | 41617 |
| 10 Ebrill | 33316 | 36373 |
| 11 Ebrill | 21,243** | 30529 |
| 12 Ebrill | 18,158** | 19,418** |
| Cyfanswm | 298905 | 299419 |
     *Gŵyl banc
     **diwrnodau dros y penwythnos
Manylion Cyflwyno ym mis Ebrill:
| Blwyddyn | Ffurflenni Treth | Cyfanswm sydd wedi’u cyflwyno |
|---|---|---|
| Ebrill 2026 | 2025-26 | 737891 |
| Ebrill 2025 | 2024-25 | 687247 |
| Ebrill 2024 | 2023-24 | 706660 |
| Ebrill 2023 | 2022-23 | 641403 |
| Ebrill 2022 | 2021-22 | 561215 |
Mae rhestr o bwy sy’n gorfod llenwi Ffurflen Dreth ar gael ar °Ç¸ç³Ô¹Ï.
Bydd angen i bensiynwyr a gafodd y Taliad Tanwydd Gaeaf (Taliad Gwresogi Gaeaf i Bobl o Oedran Pensiwn yn yr Alban) gan y Llywodraeth yn 2025 dalu’r taliadau hynny yn ôl os oedd cyfanswm eu hincwm yn fwy na £35,000 ym mlwyddyn dreth 2025 i 2026. Bydd y taliadau hyn yn cael eu hadfer drwy Ffurflenni Treth Hunanasesiad 2025 i 2026 y pensiynwyr hynny sydd eisoes yn drethdalwyr Hunanasesiad.
Bydd CThEF yn cynnwys y tâl yn awtomatig mewn Ffurflenni Treth ar-lein pan fydd hynny’n bosibl. Mae’n bwysig gwirio bod CThEF wedi nodi swm y Taliad Tanwydd Gaeaf yn gywir, ond gall pobl ei nodi eu hunain os oes angen iddynt. Bydd angen i bobl sy’n cyflwyno ar bapur ei gynnwys ar eu Ffurflen Dreth, sydd i fod i gael ei chyflwyno erbyn 31 Hydref 2026.
Mae rhagor o wybodaeth am ddull adennill CThEF ar gael ar °Ç¸ç³Ô¹Ï.
Mae’n bwysig bod cwsmeriaid yn rhoi gwybod i CTHEF os oes unrhyw newid i fanylion neu amgylchiadau, megis cyfeiriad neu enw newydd, neu os nad yw’n hunangyflogedig mwyach neu os yw’r busnes wedi cau. Ni ddylent gymryd yn ganiataol y bydd rhywun arall yn rhoi gwybod i CThEF ar eu rhan.
Os nad oes angen i gwsmeriaid cymryd rhan yn Hunanasesiad, bydd angen iddynt roi gwybod i CThEF.