°Ç¸ç³Ô¹Ï

Skip to main content
Datganiad i'r wasg

Prif Weithredwr wedi ei benodi i Gofrestrfa Tir EF

Mae Iain Banfield wedi cael ei benodi'n Brif Weithredwr newydd Cofrestrfa Tir EF.

Heddiw (24 Gorffennaf 2026) mae Iain Banfield wedi cael ei benodi’n Brif Weithredwr a Phrif Gofrestrydd Tir parhaol Cofrestrfa Tir EF yn dilyn ei gyfnod llwyddiannus fel Prif Weithredwr Dros Dro.

Bydd Iain yn ymgymryd â’r rôl yn ffurfiol ym Medi 2026. Gan adeiladu ar ei lwyddiannau fel Prif Swyddog Gweithredol Dros Dro a Phrif Swyddog Ariannol er 2019, mae hefyd yn dod â phrofiad sylweddol o rolau blaenorol yn yr Adran Masnach Ryngwladol, Masnach a Buddsoddi y DU, a rolau yn y Weithrediaeth Cyfranddalwyr a’r Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau.

Mae’r penodiad wedi cael ei gymeradwyo yn dilyn proses recriwtio agored a theg.

Dywedodd Neil Sachdev, Cadeirydd Anweithredol Cofrestrfa Tir EF:

Rwy’n falch iawn i gadarnhau penodiad Iain yn Brif Weithredwr a Phrif Gofrestrydd Tir newydd Cofrestrfa Tir EF. Mae Iain yn dod â chyfoeth o brofiad gydag ef o’i rolau blaenorol a’i gyfnod fel Prif Swyddog Ariannol a Phrif Swyddog Gweithredol Dros Dro. Rwy’n credu mai ef yw’r person iawn i arwain Cofrestrfa Tir EF trwy gam nesaf ei thrawsnewidiad, gan barhau i wella gwasanaeth cwsmeriaid, moderneiddio’r sefydliad a chefnogi uchelgeisiau’r Llywodraeth ar gyfer tai a thwf economaidd.

Hoffwn ddiolch hefyd i gydweithwyr ar draws Cofrestrfa Tir EF y mae eu proffesiynoldeb, ymrwymiad ac ymroddiad wedi cynnig modd i’r sefydliad wneud cynnydd cryf dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae’r bwrdd a minnau’n edrych ymlaen at weithio gydag Iain a’r tîm cyfan wrth iddynt adeiladu ar y llwyddiannau hyn.

Dywedodd Iain Banfield:

Rydw i wrth fy modd i gael fy mhenodi i’r rôl hon ar ôl cael yr anrhydedd o wasanaethu fel Prif Swyddog Gweithredol Dros Dro dros y flwyddyn ddiwethaf. Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda phawb ar draws y sector ac o fewn y sefydliad wrth inni barhau ar ein taith drawsnewid, gan wella gwasanaethau i gwsmeriaid, gweithio’n agos gyda’n partneriaid ar draws y sector eiddo, a chyflwyno manteision parhaol ar gyfer ein holl bartneriaid.

Bywgraffiad Iain Banfield

Ymunodd Iain â Chofrestrfa Tir EF yn Chwefror 2019 fel Prif Swyddog Ariannol. Cyn hynny, treuliodd dwy flynedd a hanner yn yr Adran Masnach Ryngwladol, fel Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllid Strategol i ddechrau ac yna Cyfarwyddwr Cyllid Dros Dro. Ar hyn o bryd Iain yw Prif Weithredwr a Phrif Gofrestrydd Tir Dros Dro Cofrestrfa Tir EF.

Yn was sifil er 2001, mae Iain wedi cael uwch rolau ym maes cyllid ac arweinyddiaeth ar draws y llywodraeth, gan gynnwys Cyfarwyddwr Cyllid ar gyfer Masnach a Buddsoddi y DU, Partneriaethau Busnes Cyllid, a swyddi o fewn y Weithrediaeth Cyfranddalwyr a’r cyn Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau.

Nodiadau i olygyddion

  • Mae Prif Weithredwr Cofrestrfa Tir EF yn rôl Uwch Wasanaeth Sifil a ddewisir trwy gystadleuaeth agored a theg. Caiff yr ymgeisydd llwyddiannus ei benodi gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol i’r rôl Prif Gofrestrydd Tir, yn yr achos hwn gan y Farwnes Taylor ar ran Steve Reed.
  • Bydd Iain yn dechrau yn ei swydd ar 1 Medi 2026. Bu’n Brif Swyddog Gweithredol Dros Dro er Medi 2025.
  • Mae Cofrestrfa Tir EF yn diogelu perchnogaeth tir ac eiddo sy’n werth bron £9 triliwn ar draws Cymru a Lloegr, gan chwarae rôl hanfodol wrth gefnogi’r farchnad eiddo, prynu tai ac uchelgeisiau’r Llywodraeth ar gyfer tai a thwf economaidd.
  • Darllenwch ragor o wybodaeth am Cofrestrfa Tir EF

  • Gallwch ddarllen am uchafbwyntiau llwyddiannau Iain fel Prif Swyddog Gweithredol Dros Dro yn Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2025/26 Cofrestrfa Tir EF a gyhoeddwyd yn ddiweddar: Cofrestrfa Tir EF yn adrodd am gynnydd cryf i gwsmeriaid – °Ç¸ç³Ô¹Ï

Swyddfa’r Wasg:

Trafalgar House
1 Bedford Park
Croydon
CR0 2AQ

Ebost: HMLRPressOffice@landregistry.gov.uk

¹ó´Úô²Ô 0300 006 3365
(Dydd Llun i ddydd Gwener 8:30am i 5:30pm)

Ar gyfer galwadau brys gan y cyfryngau y tu allan i oriau swyddfa yn unig (gan gynnwys penwythnosau a gwyliau cyhoeddus), ffoniwch 07864 689 344

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 24 Gorffennaf 2026