°Ç¸ç³Ô¹Ï

Skip to main content
Datganiad i'r wasg

Ewch ati i ymestyn Budd-dal Plant eich plentyn yn ei arddegau cyn 31 Awst

Mae’n rhaid i rieni pobl 16 i 19 oed sy'n parhau mewn addysg nad yw'n addysg uwch neu hyfforddiant cymeradwy ymestyn eu hawliad am Fudd-dal Plant erbyn 31 Awst.

  • Mae’n rhaid i rieni pobl 16 i 19 oed sy’n dechrau addysg bellach neu gyrsiau hyfforddiant cymeradwy ymestyn eu hawliad am Fudd-dal Plant erbyn 31 Awst neu bydd y taliadau’n dod i ben yn awtomatig.
  • Mae diwrnod canlyniadau TGAU ar 20 Awst yn foment allweddol i bobl ifanc benderfynu ar eu camau nesaf.
  • Gall rhieni ymestyn eu hawliad mewn munudau gan ddefnyddio ap CThEF neu °Ç¸ç³Ô¹Ï.

Dim ond pythefnos sydd gan rieni pobl 16 i 19 oed i roi gwybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF) a fydd eu plentyn yn parhau mewn addysg neu hyfforddiant cymeradwy nad yw’n addysg uwch, neu a ydynt mewn perygl o golli taliadau Budd-dal Plant.

Y dydd Iau hwn (20 Awst), bydd cannoedd o filoedd o bobl ifanc yn cael eu canlyniadau TGAU ac yn dechrau cynllunio eu cam nesaf.

I deuluoedd y mae eu plant yn eu harddegau yn aros mewn addysg neu hyfforddiant cymeradwy nad yw’n addysg uwch, gall Budd-dal Plant barhau, ond dim ond os yw rhieni’n gweithredu cyn 31 Awst.

Gall rhieni ymestyn eu hawliad mewn munudau gan ddefnyddio ap CThEF neu ar °Ç¸ç³Ô¹Ï. Gall y rhai a chafodd lythyr gan CThEF hefyd sganio’r cod QR i fynd yn syth i’r gwasanaeth digidol. Bydd taliadau’n dod i ben yn awtomatig i unrhyw un nad yw wedi ymateb erbyn y dyddiad cau.

Mae mwy na 350,000 o rieni eisoes wedi ymestyn eu taliad Budd-dal Plant yn ddigidol cyn y dyddiad cau.

Mae Budd-dal Plant yn werth hyd at £1,406.60 y flwyddyn ar gyfer y plentyn hynaf, neu’r unig blentyn, a hyd at £930.80 y flwyddyn ar gyfer pob plentyn ychwanegol.

Meddai Myrtle Lloyd, Prif Swyddog Cwsmeriaid CThEF:

Mae tymor canlyniadau arholiadau yn foment fawr i bobl ifanc sy’n penderfynu ar eu camau nesaf, ac mae’n amser perffaith i rieni gadarnhau’r cynlluniau hynny gyda ni.

Mae Budd-dal Plant yn ffynhonnell hanfodol o gymorth i lawer o deuluoedd ac nid ydym am i neb golli allan. Dim ond ychydig funudau y mae’n eu cymryd gan ddefnyddio ap CThEF neu °Ç¸ç³Ô¹Ï, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cael y taliadau rydych yn gymwys i’w cael.

Mae Budd-dal Plant yn parhau i blant mewn addysg amser llawn, nad yw’n addysg uwch, gan gynnwys Lefelau A, Lefelau T, Cymwysterau Uwch yr Alban, NVQ hyd at lefel 3, a rhai cynlluniau hyfforddi cymeradwy. Mae rhestr lawn o lwybrau addysg cymeradwy ar gael ar °Ç¸ç³Ô¹Ï.

Mae’n rhaid i rieni y mae cynlluniau eu plentyn yn newid, er enghraifft os ydynt yn gadael addysg neu’n dechrau prentisiaeth â thâl, rhowch wybod i CThEF ar unwaith er mwyn osgoi cael eu gor-dalu.

Os oes gan hawliwr Budd-dal Plant neu ei bartner incwm net wedi’i addasu unigol o fwy na £60,000, mae’n bosibl y bydd angen i’r enillydd uchaf dalu’r Tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel (HICBC). Defnyddiwch y gyfrifiannell dreth Budd-dal Plant ar °Ç¸ç³Ô¹Ï i ddarganfod faint o HICBC i’w dalu. Gall rhieni cymwys dalu drwy eu cod treth TWE gan ddefnyddio gwasanaeth digidol HICBC, neu drwy Hunanasesiad.

Rhagor o wybodaeth

  • Rhagor o wybodaeth am Fudd-dal Plant i bobl 16 i 19 mlwydd oed
  • Mae CThEF wedi ysgrifennu at oddeutu 1.5 miliwn o rieni eleni yn eu hatgoffa i ymestyn eu hawliad cyn 31 Awst.
  • Gall rhieni na allant ddefnyddio ap CThEF na °Ç¸ç³Ô¹Ï ymestyn eu hawliad drwy’r post neu dros y ffôn gan ddefnyddio’r manylion yn eu llythyr.
  • Ni ellir hawlio Budd-dal Plant ar gyfer plant sy’n gwneud gradd prifysgol, prentisiaeth safonol yn Lloegr, na chwrs sy’n rhan o gontract swydd.
  • Dim ond os yw eu plant yn eu harddegau’n dechrau cwrs newydd neu hyfforddiant cymhwysol ym mis Medi y mae angen i rieni weithredu. Nid oes angen i’r rhai sydd eisoes yng nghanol cwrs a hysbyswyd CThEF yn flaenorol gysylltu â ni.
  • Mae’n rhaid bod y plentyn yn astudio am o leiaf 12 awr bob wythnos ar gyfartaledd, a hynny o dan oruchwyliaeth neu wrth wneud profiad gwaith sy’n ymwneud â’r cwrs i gael ei ystyried mewn addysg amser llawn. Mae hyn yn cynnwys addysg ar yr aelwyd. Os oes gan blentyn salwch neu anabledd, mae’n bosibl y bydd yn gallu gwneud llai o oriau lle mae hyn yn briodol iddo.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 17 Awst 2026