Cyrchoedd Gorfodaeth Mewnfudo yn cyrraedd y lefel uchaf erioed
Mae cyrchoedd ac arestiadau sy’n gysylltiedig â gweithio'n anghyfreithlon wedi cyrraedd eu lefel uchaf erioed, diolch i waith diflino timau Gorfodaeth Mewnfudo'r Swyddfa Gartref.
Mae cyrchoedd ac arestiadau sy’n gysylltiedig â gweithio’n anghyfreithlon wedi cyrraedd y lefel uchaf erioed yn hanes Prydain, diolch i waith diflino timau Gorfodaeth Mewnfudo’r Swyddfa Gartref. Â
Mae’r ffigurau diweddaraf yn datgelu bod nifer y cyrchoedd wedi cynyddu 77% yn y DU ers i’r llywodraeth ddod i rym, gan arwain at 83% yn fwy o arestiadau (rhwng Gorffennaf 2024 a diwedd mis Rhagfyr 2025). Â
Cynhaliwyd dros 17,400 o gyrchoedd ar fusnesau amheus – fel bariau ewinedd, busnesau golchi ceir, siopau barbwr a siopau tecawê – gan dargedu’r rheini sy’n ceisio cynnig gwasanaethau rhatach na gweithwyr gonest a chuddio yng ngolwg pawb.  Â
Roedd y cynnydd mawr, a arweiniodd at dros 12,300 o arestiadau, yn bosibl oherwydd hwb ariannol o £5m y llynedd ar gyfer Gorfodaeth Mewnfudo, i dargedu ac erlyn troseddau gweithio’n anghyfreithlon. Â
Yng Nghymru cynhaliwyd 1,320 o gyrchoedd yn 2025, a arweiniodd at 649 o arestiadau – 103% yn fwy o gyrchoedd ac 85% yn fwy o arestiadau wrth gymharu â 2024.Â
Mae’r ymgyrch i dargedu gweithio’n anghyfreithlon yn adeiladu ar waith y llywodraeth hon i adfer trefn yn y system fewnfudo, a rhoi terfyn ar atyniad gweithio’n anghyfreithlon a ddefnyddir gan gangiau i werthu lleoedd ar gychod bach. Â
Mae’n ychwanegol at waith y llywodraeth i allgludo 50,000 o fudwyr anghyfreithlon – 23% o gynnydd o dan y llywodraeth hon. Â
Daw ffigurau heddiw ar ôl i’r Ysgrifennydd Cartref amlinellu diwygiadau ysgubol i’r system fewnfudo – sy’n ei gwneud yn llai deniadol i fudwyr anghyfreithlon ddod i’r DU, ac yn haws i allgludo’r rheini sydd heb hawl i fod yma.
Dywedodd Shabana Mahmood, yr Ysgrifennydd Cartref:   Â
Dydy gweithio’n anghyfreithlon ddim yn dderbyniol yn ein cymunedau. Â
Dyna pam rydym wedi cynyddu gweithgarwch gorfodi i’r lefel uchaf yn hanes Prydain, fel nad oes gan fudwyr anghyfreithlon yn yr economi ddu unman i guddio. Â
Rwy’n gwbl benderfynol o adfer trefn a rheolaeth dros ein ffiniau. Â
Dywedodd Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:Â
Mae gweithio’n anghyfreithlon yn bwydo’r economi ddu, ac yn niweidio busnesau yng Nghymru sy’n parchu’r gyfraith.
Roedd y llywodraeth hon wedi dweud yn glir y bydd y bobl a’r cwmnïau sy’n torri’r rheolau yn cael eu targedu’n llym, ac rydym wedi cyflawni hynny gyda’r flwyddyn brysuraf erioed o weithgarwch gorfodi ledled Cymru.
Daw’r ffigurau newydd wrth i swyddogion Gorfodaeth Mewnfudo ar draws y DU ddechrau defnyddio technoleg fideo camera corff.Â
Lansiwyd y dechnoleg ym mis Medi y llynedd, ac mae pob tîm bellach yn elwa o’r gallu hwn a fydd yn helpu i atgyfnerthu arestiadau ac erlyniadau ymhellach.
Dywedodd Richard Johnson, Arweinydd Cydymffurfiaeth a Gorfodaeth Mewnfudo Cymru a Gorllewin Lloegr:Â
Mae’n erbyn y gyfraith i weithio’n anghyfreithlon, ac ni fyddwn yn goddef hynny yn ein cymunedau.Â
Hoffwn ddiolch i’m timau am eu hymdrechion diwyro i fynd i’r afael â’r gweithgarwch troseddol hwn dros y flwyddyn diwethaf, a byddwn yn cynnal y momentwm hwn drwy gydol 2026 i sicrhau nad oes unman i guddio rhag y rheolau mewnfudo.
Yn ystod cyrchoedd y llynedd ar weithio’n anghyfreithlon, ymwelodd swyddogion ag amrywiaeth o sectorau – gan gynnwys bwytai, safleoedd adeiladu a bariau ewinedd.Â
- Yn dilyn tri ymweliad â warysau pecynnu a dosbarthu yng Nghil-y-coed ar 5 Awst, cafodd wyth person o Tsieina eu harestio am weithio’n anghyfreithlon. Cafodd pedwar eu harestio er mwyn cael eu hallgludo o’r DU.Â
- Yn dilyn ymweliad â Star Barbers ym Mhorthmadog ar 12 Medi, cafodd tri pherson eu harestio am weithio’n anghyfreithlon. Cafodd dau ddyn o Dwrci eu rhoi ar fechnïaeth mewnfudo a chytunodd y llall, dyn o Sweden, i adael y DU o’i wirfodd. Â
- Ar 14 Hydref, arweiniodd ymweliad â safle adeiladu masnachol ym Mhenrhyn Gŵyr, Abertawe, at arestio saith person o Tsieina, gyda phedwar yn cael eu harestio er mwyn cael eu hallgludo o’r DU.
A thrwy’r Ddeddf newydd ar Ddiogelwch y Ffin, Lloches a Mewnfudo, mae’r llywodraeth yn ehangu gwiriadau hawl i weithio er mwyn cynnwys economi gweithwyr gìg, achlysurol, is-gontractiol a dros dro, gan sicrhau nad oes gan weithwyr anghyfreithlon sy’n anwybyddu’r rheolau unman i guddio. Â
Ar ben hyn, mae’r Tasglu Domestig ar gyfer Troseddau Mewnfudo Trefnedig yn dod â phartneriaid y llywodraeth a gorfodi’r gyfraith at ei gilydd, gan gynnwys yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu, Rheolaeth Diogelwch y Ffin a Gorfodaeth Mewnfudo, i ddefnyddio pob adnodd sydd ar gael i ddod o hyd i gangiau smyglo troseddol sy’n gweithredu yn y DU, i darfu arnynt a’u chwalu. Â
Dros y 12 mis diwethaf tarfwyd ar 33% yn fwy o achosion smyglo mudwyr – bron i 4,000 o achosion ers mis Gorffennaf 2024 – ac mae cytundeb pwysig gyda Ffrainc yn golygu bod y rheini sy’n cyrraedd ar gychod bach bellach yn cael eu hanfon yn ôl.  Â
Er mwyn sicrhau ymhellach bod rhaid i bobl gael caniatâd er mwyn gallu gweithio yn y DU, cyhoeddodd y llywodraeth y llynedd y bydd yn cyflwyno ID digidol erbyn diwedd Senedd y DU, a fydd yn orfodol i brofi hawl rhywun i weithio.   Â
Bydd hyn yn creu ffordd symlach a mwy cyson i gyflogwyr wneud yn siŵr bod rhywun yn gymwys i weithio. Bydd y cam hwn yn ei gwneud yn anoddach i fudwyr anghyfreithlon ddod o hyd i waith, ac yn galluogi’r llywodraeth i ddod o hyd i berchnogion busnes diegwyddor sydd ddim yn cynnal gwiriadau.  Â
Mae’r gwaith hwn, gyda’i gilydd, yn rhan o ymgyrch benodol y llywodraeth i ddiogelu ffiniau Prydain, a rhoi terfyn ar yr addewid ffug o waith a ddefnyddir i werthu lleoedd ar gychod bach peryglus.Â
DIWEDD