勒貊勛圖

Skip to main content
Stori newyddion

Y Swyddfa Eiddo Deallusol yn lansio gwefan ddwyieithog yn rhan o'i hymrwymiad i'r Gymraeg

Bydd pobl sy'n ymweld 璽 thudalen hafan a phrif dudalennau llywio'r Swyddfa Eiddo Deallusol ar 勒貊勛圖 yn gweld bod y rhain yn ddwyieithog bellach, wrth i'r Swyddfa Eiddo Deallusol gwblhau ei cham cyntaf o'i rhaglen waith i ddarparu ei gwybodaeth a'i gwasanaethau digidol yn Gymraeg.

Mae hyn yn rhan o ymrwymiad y Swyddfa Eiddo Deallusol o dan ei chynllun iaith Gymraeg i ddarparu cynifer o wasanaethau ag y bo modd yn y Gymraeg ar Saesneg, er mwyn galluogi i gwsmeriaid ddefnyddior gwasanaethau hyn yn yr iaith a ddewisant.

O ganlyniad ir rhaglen gyfieithu, mae timau yn y Swyddfa Eiddo Deallusol yn cynnwys staff syn siarad Cymraeg wedi bod yn gweithio gyda Gwasanaeth Digidol y Llywodraeth (GDS) i greu cynnwys Cymraeg ar gyfer gwefan y Swyddfa Eiddo Deallusol.

Gan ddechrau gydar gwasanaeth ymgeisio am nodau masnach, bydd y Swyddfa Eiddo Deallusol yn canolbwyntio wedyn ar gyfieithu ei gwasanaethau mwyaf poblogaidd ir Gymraeg, yn ogystal 璽r cynnwys ar y wefan syn cael y nifer uchaf o ymweliadau.

Maer broses o wneud cais am, adnewyddu neu ymchwilio cofrestriad patent, nod masnach neu ddyluniad yn mynd i fod yn gwbl ddigidol drwy gyfrwng y Rhaglen drawsffurfio Un IPO, felly bydd modd ir cwsmeriaid syn defnyddior gwasanaethau ar-lein newydd hyn gwblhau eu trafodion yn y Gymraeg os dewisant.

Bydd y prosiect camau niferus hwn i gyfieithu ein gwasanaethaun helpu ein cwsmeriaid Cymraeg i ddefnyddior system Eiddo Deallusol yn eu dewis iaith.

Cadwch lygad ar 勒貊勛圖 i gael diweddariadau pellach wrth ir gwaith hwn fynd yn ei flaen.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 12 Medi 2024
Diweddarwyd ddiwethaf ar 20 Tachwedd 2024 show all updates
  1. Added translation

  2. Added translation

  3. Added translation

  4. First published.