°Ç¸ç³Ô¹Ï

Skip to main content
Datganiad i'r wasg

Mae ffigurau newydd yn datgelu bod 7 miliwn o bobl wedi dechrau swydd newydd yn 2025

Annog ceiswyr gwaith, a’r rhai sy’n dechrau swydd newydd, i lawrlwytho ap CThEF er mwyn cael gwybodaeth hanfodol ynghylch eu gwaith.

  • Gydag Wythnos Genedlaethol Gyrfaoedd wedi dechrau, caiff y rhai sy’n ceisio gwaith eu hatgoffa i ddefnyddio ap CThEF er mwyn cael yr wybodaeth hanfodol wrth wneud cais am swydd newydd, neu wrth ddechrau swydd newydd
  • Fe wnaeth mwy na 7 miliwn o bobl ddechrau swydd newydd yn 2025. Mae hyn yn gynnydd o 300,000 o’r flwyddyn flaenorol
  • Mae gan geiswyr gwaith sydd wedi lawrlwytho ap CThEF fynediad hwylus at eu rhif Yswiriant Gwladol, cod treth, a’u cofnod gwaith, sy’n eu helpu wrth fynd ati i ddechrau swydd newydd

Mae Cyllid a Thollau EF (CThEF) wedi datgelu bod mwy na 7 miliwn o bobl wedi dechrau swydd newydd yn 2025. Wrth i Wythnos Genedlaethol Gyrfaoedd fynd rhagddo, mae CThEF am atgoffa’r rhai sy’n dechrau swydd newydd yn 2026 i lawrlwytho ap CThEF er mwyn cael eu manylion hanfodol o ran eu cyflogaeth a’u treth.

Boed rhywun yn berson ifanc sy’n chwilio am ei swydd gyntaf, neu yn rhywun sy’n chwilota am her newydd, newid gyrfa, neu wedi ennill dyrchafiad – mae lawrlwytho ap CThEF yn rhoi mynediad mewn ennyd i’r holl wybodaeth hanfodol o ran eu cyflogaeth a’u treth.

Y gwanwyn yw’r cyfnod prysuraf ar gyfer recriwtiaid newydd. Y llynedd fe wnaeth mwy nag 1.8 miliwn o bobl ddechrau swydd newydd rhwng mis Ebrill a Mehefin 2025. Gall lawrlwytho ap CThEF helpu i setlo eich nerfau ar eich diwrnod cyntaf. Mae lawrlwytho’r ap yn rhwydd ac yn syml i’w wneud drwy °Ç¸ç³Ô¹Ï, yr App Store, neu Google Play.

Wrth wasgu un botwm, gall yr ap ddangos gwybodaeth sy’n atebion i gwestiynau cyffredin gan recriwtwyr a chyflogwyr pan fo rhywun yn dechrau swydd newydd, gan gynnwys y canlynol:

  • rhif Yswiriant Gwladol
  • cofnod cyflogaeth a chofnod incwm
  • gwybodaeth ynghylch Talu Wrth Ennill (TWE), gan gynnwys y P60
  • eich cod treth

Meddai Myrtle Lloyd Prif Swyddog Cwsmeriaid CThEF:

Gall ymgeisio am swydd, neu ddechrau swydd newydd, fod yn heriol yn ei hun. Ond mae ap CThEF yn eich darparu â mynediad hwylus at bopeth sydd ei angen arnoch er mwyn gwneud yr ochr weinyddol o bethau ychydig yn haws – yn enwedig i bobl ifanc gan ei fod yn bosibl nad ydynt yn gwybod pa wybodaeth sydd ei hangen ar gyflogwyr. Lawrlwytha ap CThEF er mwyn arbed amser a straen i ti dy hun, ac er mwyn lleihau’r ofn ar dy ddiwrnod cyntaf.

Roedd gan ap CThEF mwy na 2.7 miliwn o ddefnyddwyr newydd yn 2025. Rhai o nodweddion mwyaf poblogaidd yr ap oedd y canlynol:

  • fe wnaeth bron i 270,000 o bobl lawrlwytho eu cofnod TWE, yn dangos eu P60, ac yn cynnwys manylion o’u cyflogaeth flaenorol, eu cyflog, a’r dreth sydd wedi’i thalu ganddynt hyd yn hyn
  • fe wnaeth mwy na 507,000 o bobl ddefnyddio’r gyfrifiannell dreth i gyfrifo swm y dreth maent yn ei dalu ar eu cyflog
  • fe wnaeth mwy na 522,000 o bobl lawrlwytho eu rhif Yswiriant Gwladol i waled eu ffon symudol, er mwyn cael mynediad ato ar unrhyw bryd

Rhagor o Wybodaeth

Rhagor o wybodaeth am (2 i 7 Mawrth 2026)

Er mwyn cael help i chwilio am swydd, neu i wneud cais am un, ewch at y canllaw

Gallwch weld y llif data ynghylch cyflogai yn yr (tabl 6) diweddaraf

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 4 Mawrth 2026