Dyddiad cau newydd ar gyfer ailgyflwyno data am becynwaith 2025
PackUK yn cyflwyno dyddiad cau ar gyfer ailgyflwyno data am becynwaith 2025, sef 1 Medi 2026, a fydd yn effeithio ar Hysbysiadau Atebolrwydd.
A picture of a team checking data
Mae PackUK, ar ran pedair gwlad y DU, yn cyflwyno dyddiad cau ar gyfer ailgyflwyno, sef 1 Medi 2026. Mae hyn yn berthnasol i gyflwyno data am becynwaith 2025 gan gynhyrchwyr sy’n talu ffioedd cyfrifoldeb cynhyrchwyr estynedig dros becynwaith.  Â
Mae’r dyddiad cau, sef 1 Medi, yn rhoi cyfnod o bum mis i gynhyrchwyr, o’r dyddiad cau ar gyfer adrodd, sef 1 Ebrill, i gywiro unrhyw wallau ac ailgyflwyno data am becynwaith. Bydd hyn yn golygu bod modd cyhoeddi ffioedd a Hysbysiadau Atebolrwydd yn nes ymlaen eleni, heb ddisgwyl newidiadau pellach na gorfod ailgyfrifo ymhellach.
Beth mae hyn yn ei olygu ar gyfer ffioedd a Hysbysiadau Atebolrwydd
Ar ôl y dyddiad cau ar 1 Medi, bydd y rheoleiddwyr yn parhau i fonitro cydymffurfiaeth. Bydd PackUK wedyn yn defnyddio’r data hwn i gyhoeddi ffioedd wedi’u cadarnhau i gynhyrchwyr ar gyfer 26/27 a chyhoeddi Hysbysiadau Atebolrwydd, yn ddiweddarach yn y flwyddyn galendr hon. Ar ôl 1 Medi, ni fydd ailgyflwyno rhagor o ddata cynhyrchwyr yn effeithio ar Hysbysiadau Atebolrwydd na ffioedd gwaredu.  Â
Cyhoeddodd PackUK ffioedd enghreifftiol ar gyfer Blwyddyn 2 ym mis Rhagfyr 2025. Gall y rhain newid ar sail ailgyflwyno data’n derfynol, ond nid yw PackUK yn bwriadu cyhoeddi rhagor o ffioedd enghreifftiol. Caiff y ffioedd a gyhoeddir yn ddiweddarach eleni eu cadarnhau ar gyfer Blwyddyn 2 y cynllun a’u defnyddio i gyfrifo Hysbysiadau Atebolrwydd. Â
Fel ym Mlwyddyn 1, bydd gan gynhyrchwyr 50 diwrnod calendr i dalu, gyda’r opsiwn i dalu mewn rhandaliadau.
Beth sydd angen i gynhyrchwyr sy’n talu ffioedd cyfrifoldeb cynhyrchwyr estynedig dros becynwaith ei wneud
Y cam pwysicaf y gall cynhyrchwyr ei gymryd ar hyn o bryd yw ailgyflwyno eu data pecynwaith 2025 erbyn 1 Medi 2026 os oes angen cywiriadau. Â
Os bydd cynhyrchwyr yn adrodd drwy Gynlluniau Cydymffurfio, rydym yn eu cynghori i gysylltu â nhw i gadarnhau’r hyn y mae angen iddynt ei ddarparu ac erbyn pryd. Â
Ar ôl 1 Medi, ni fydd ailgyflwyno rhagor o ddata cynhyrchwyr yn effeithio ar Hysbysiadau Atebolrwydd na ffioedd gwaredu.  Â
Fodd bynnag, rhaid i gynhyrchwyr barhau i ailgyflwyno eu data ar ôl y dyddiad hwn, er mwyn sicrhau ei fod mor gywir ag sy’n rhesymol bosibl ar gyfer eu rhwymedigaethau ailgylchu.
Pam mae PackUK yn gwneud y newid hwn
I gael rhagor o gymorth, cysylltwch â Desg Gymorth Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr Estynedig:
Ffôn: 0300 060 0002 Â
E-bost: EPRCustomerService@defra.gov.uk
Updates to this page
-
Added translation
-
First published.