Cyhoeddiad y Prif Weinidog am saith gorsaf newydd ac ymrwymiad ariannu mawr
Bydd ymrwymiad newydd unwaith mewn cenhedlaeth gan Lywodraeth y DU i foderneiddio rheilffyrdd Cymru yn cefnogi 12,000 o swyddi ledled Cymru.
Prime Minister Keir Starmer and Welsh Secretary Jo Stevens visits Taff's Well Train Depot.
- Mae Keir Starmer a Phrif Weinidog Cymru Eluned Morgan wedi ymrwymo i gyflawni cynllun i drawsnewid rheilffyrdd Cymru
- Gan wneud yn iawn am flynyddoedd o danfuddsoddi gan Lywodraethau blaenorol y DU gydag ymrwymiad newydd unwaith mewn cenhedlaeth
- Yn rhan o ymgyrch ehangach i gael Prydain i adeiladu eto a chyflawni degawd o adnewyddu cenedlaethol – gan ddarparu miloedd o gyfleoedd swyddi i weithwyr Cymru
- Prawf o’r hyn y gellir ei gyflawni pan fydd Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn cydweithio
Bydd ymrwymiad newydd unwaith mewn cenhedlaeth gan Lywodraeth y DU i foderneiddio rheilffyrdd Cymru yn cefnogi 12,000 o swyddi ledled Cymru.
Mae cynllun Llywodraeth Cymru a’r DU yn nodi ymrwymiad hirdymor a fydd yn rhoi diwedd ar newid a thanfuddsoddi cronig y llywodraeth flaenorol a oedd yn dal y wlad yn ôl am gyfnod rhy hir.
Mae’r Prif Weinidog ar fin cymeradwyo’n ffurfiol gweledigaeth Trafnidiaeth Cymru ar gyfer dyfodol rheilffyrdd Cymru heddiw [dydd Mercher 18 Chwefror] – gan gytuno y dylai osod y fframwaith ar gyfer eu cyfres o brosiectau ac ymrwymo Llywodraeth y DU i weithio gyda Llywodraeth Cymru i gyflawni’r prosiect hwn cyn gynted â phosibl.
Bydd y buddsoddiad hwn yn gweld trawsnewid pellach yn rhwydwaith rheilffyrdd Cymru, gan adeiladu ar fuddsoddiad o £1.1 biliwn gan Lywodraeth Cymru i uwchraddio a thrydaneiddio Llinellau Craidd y Cymoedd a buddsoddiad o £800 miliwn mewn fflyd rheilffyrdd newydd.Ìý
Gyda’i gilydd, bydd y ddwy lywodraeth yn darparu gwasanaethau gwell a mwy aml i deithwyr ledled y wlad, gyda Llywodraeth y DU yn ymrwymo cyllid sylweddol i gyflawni’r genhedlaeth nesaf o brosiectau rheilffyrdd yng Nghymru. Â
Gan ddefnyddio’r bron i hanner biliwn o bunnoedd a addawyd yn yr Adolygiad Gwariant hwn, bydd saith gorsaf newydd yn cael eu hadeiladu ledled Cymru – buddugoliaeth enfawr i gymudwyr a hwb i’r diwydiant adeiladu.Ìý Dyma eu henwau:
- Magwyr a Gwndy
- Llan-wern
- Dwyrain Caerdydd
- Gorllewin Casnewydd
- Somerton
- Parcffordd CaerdyddÂ
- Ystad Ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy
Mae hyn yn rhan o gynlluniau ehangach y Prif Weinidog i gael Prydain i adeiladu eto – dull a fydd yn cysylltu pobl Cymru â’r degau o filoedd o swyddi rydym yn eu creu ledled y wlad, gan greu cyfleoedd a helpu i ostwng costau byw.
Meddai Prif Weinidog y DU, Keir Starmer:
Am gyfnod rhy hir, mae Cymru wedi cael ei siomi gan lywodraeth y DU sy’n amharod i wneud y gwaith caled ac adeiladu’r dyfodol y maent yn ei haeddu.Ìý
Mae’r llywodraeth hon yn rhoi diwedd ar oedi ac ansicrwydd hanesyddol gyda saith gorsaf newydd, miloedd o swyddi, ac ymrwymiad unwaith mewn cenhedlaeth i adeiladu rhwydwaith rheilffyrdd sy’n addas ar gyfer dyfodol Cymru.Ìý
Nid tincian na mesur dros dro yw hyn. Buddsoddiad ar gyfer y tymor hir yw hwn - a newid y bydd cymunedau’n ei deimlo. Mae hyn yn rhoi Cymru ar y droed flaen ac yn cael Prydain i adeiladu eto.
Mae gorsafoedd newydd yn golygu y bydd gweithwyr yn ei chael hi’n haws i deithio i Gaerdydd a Chasnewydd. Dyma eu henwau: Magwyr a Gwndy; Llan-wern; Dwyrain Caerdydd; Gorllewin Casnewydd; a Somerton Bydd gwaith yn dechrau ar y rhain yn ddiweddarach eleni, gyda disgwyl i Magwyr a Gwndy fod y cyntaf o’r gorsafoedd hyn i gael eu cwblhau.
Bydd gorsaf newydd o’r diwedd yn cael ei hadeiladu ym Mharcffordd Caerdydd i helpu i wasanaethu tua 800,000 o deithwyr bob blwyddyn. Bydd hyn yn creu tua 6,000 o swyddi yn yr ardal ddiwydiannol, a fydd yn cael ei hailwampio diolch i fuddsoddiad ychwanegol gan Lywodraeth y DU a dull cytunedig o ariannu a chyflawni’r orsaf rhwng Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a buddsoddwyr preifat.Ìý
Bydd gorsaf arall yn cael ei hadeiladu yng Ngogledd Cymru – i wasanaethu parc diwydiannol Glannau Dyfrdwy. Mae hyn yn rhan o’r cynlluniau i hybu’r llinell rhwng Wrecsam a Lerpwl i gysylltu’r DU gyfan yn well.Ìý
Meddai Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan:Â
Rydym bellach mewn sefyllfa ddigynsail i gyflawni’r bennod nesaf o drawsnewid ar gyfer gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru. Rydym wedi sicrhau ymrwymiadau hirdymor i brosiectau allweddol ac uchelgais newydd ar gyfer ein rhwydwaith rheilffyrdd.
Nid yw newidiadau ar y raddfa hon yn digwydd dros nos ond maent yn digwydd pan fo gweledigaeth, dylfalbarhad, a chydweithrediad. Rydym eisoes wedi profi hynny gyda Llinellau Craidd y Cymoedd, ac rydym yn dechrau gweld yr un momentwm gyda Rhwydwaith Gogledd Cymru. Pan fydd gennych chi’r uchelgais, yr ymrwymiad a’r ewyllys, mae cynnydd go iawn yn dilyn - ac mae gennym ni’r tri pheth hynny.
Mae heddiw yn nodi carreg filltir bwysig arall i’r rhwydwaith rheilffyrdd wrth i Trafnidiaeth Cymru gyhoeddi ffrwd gyffrous a hanfodol ar gyfer buddsoddi yn y dyfodol. Mae hyn yn cynnwys prosiectau ledled ein gwlad. Rydym yn croesawu cefnogaeth Llywodraeth y DU o’r cynlluniau hyn yn gynnes ac yn ddiolchgar am eu hymrwymiad i unioni anghyfiawnder tanariannu rheilffyrdd Cymru gan y llywodraeth flaenorol.
Yn y tymor agos, rwy’n falch o weld cefnogaeth i’r gwaith hanfodol yn Padeswood a Bwcle. Bydd hyn yn trawsnewid teithiau rhwng Wrecsam a Lerpwl, yn creu cyfleoedd economaidd ledled gogledd Cymru, ac yn caniatáu i gynlluniau ar gyfer gorsaf newydd Glannau Dyfrdwy symud yn ei flaen ar gyflymder. Rwyf hefyd yn croesawu cefnogaeth Llywodraeth y DU ar gyfer Parcffordd Caerdydd, ac rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i weithio’n agos gyda’r holl bartneriaid i gwblhau’r achos busnes llawn a’r cynlluniau datblygu.
Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens:
Ar ôl blynyddoedd o danfuddsoddi yn seilwaith Cymru, mae Llywodraeth y DU hon yn moderneiddio ac yn uwchraddio rheilffyrdd Cymru.
Bydd y buddsoddiad hwn mewn saith gorsaf newydd ac uwchraddiadau eraill yn rhoi hwb i gapasiti ar draws ein rhwydwaith ac yn trawsnewid profiad miloedd o deithwyr.
Mae’n rhan o’r buddsoddiad unwaith mewn cenhedlaeth yr ydym yn ei wneud i wella rheilffyrdd Cymru a fydd yn cysylltu pobl yn well â’r swyddi â chyflog da yr ydym yn eu creu ledled y wlad ac yn sbarduno twf economaidd.
Meddai Ysgrifennydd dros Trafnidiaeth, Heidi Alexander:
Mae rheilffyrdd yng Nghymru wedi cael eu gadael ar ôl am gyfnod rhy hir, ac mae teithwyr yn haeddu gwell. Mae cysylltiadau rheilffordd gyflymach, fwy dibynadwy a gwell â swyddi a chyfleoedd, a seilwaith sy’n cefnogi cymunedau a thwf, wedi bod yn hen bryd.
Bydd cyhoeddiadau heddiw yn helpu i gyflawni hynny’n union, gyda gorsafoedd newydd ledled Cymru, o Gaerdydd i Lannau Dyfrdwy.
Meddai Vernon Everitt, Cadeirydd Trafnidiaeth Cymru:
Mae trafnidiaeth yn galluogi twf economaidd cynaliadwy, cynhyrchiant uwch, mynediad at gartrefi, swyddi ac addysg yn ogystal â gwell cyfleoedd i bawb. Gan gefnogi gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer trafnidiaeth a gweithio gyda Llywodraeth y DU, mae gweledigaeth Ymlaen, Gyda’n Gilydd yn nodi agenda uchelgeisiol i wneud cynnydd pellach yn y meysydd hyn trwy fuddsoddi mewn gwasanaethau rheilffyrdd fel rhan o gynllun trafnidiaeth integredig.ÌýÂ
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf rydym wedi cyflawni gwelliannau mawr o ran trafnidiaeth ar gyfer y bobl, busnesau a chymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu. Mae hyn yn cynnwys trenau a gwasanaethau newydd, trawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd yn gyfan gwbl a nawr gwelliannau sylweddol i wasanaethau rheilffyrdd fel rhan o Rwydwaith Gogledd Cymru. Rydym hefyd yn gweithio’n galed i fuddsoddi’r cyllid a ddyrannwyd i Gymru o dan yr adolygiad gwariant diwethaf i ddod â gwelliannau pellach i gymunedau cyn gynted â phosibl.Ìý
Mae angen i ni fynd ymhellach nawr. Heddiw, fe wnaethom amlinellu ffrwd bosibl o brosiectau yn y dyfodol a fydd yn dod â manteision pellach ledled Cymru gyfan, ac rwyf wrth fy modd bod Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi cefnogi’r weledigaeth hon yn llwyr heddiw.
Dogfen Gweledigaeth Trafnidiaeth Cymru Â
Mae Bwrdd Rheilffyrdd Cymru wedi datblygu ei weledigaeth hirdymor ar gyfer buddsoddi mewn gwella rheilffyrdd yng Nghymru. Mae Trafnidiaeth Cymru wedi cyhoeddi’r weledigaeth hon fel rhan o’i ddogfen o’r enw ‘ .Ìý
Mae Bwrdd Rheilffyrdd Cymru yn fwrdd rhynglywodraethol a fydd yn goruchwylio cyflawni’r ffrwd hon o brosiectau, gyda’r aelodau’n cynnwys Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, Trafnidiaeth Cymru a Network Rail.Ìý
Ymrwymiad Llywodraeth y DU i gyflawni’r weledigaeth honno Â
Mae Llywodraeth y DU yn cymeradwyo gweledigaeth Trafnidiaeth Cymru ac yn cytuno y bydd yn sail i ffrwd prosiectau Bwrdd Rheilffyrdd Cymru. Mae Llywodraeth y DU hefyd yn ymrwymo i weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru i gyflawni’r ffrwd hon o brosiectau cyn gynted â phosibl.Ìý
Mae hyn yn cynrychioli ymrwymiad unwaith mewn cenhedlaeth i reilffyrdd yng Nghymru a ddechreuodd gyda’r buddsoddiadau a wnaed eisoes yn yr adolygiad gwariant cynhwysfawr.ÌýÂ
Er bydd cyfanswm cost y ffrwd honno o brosiectau yn newid dros amser wrth i’r diwydiant a’r cynlluniau hyn ddatblygu, mae Trafnidiaeth Cymru ar hyn o bryd yn amcangyfrif bod cyfanswm cost yr holl gynlluniau dan ystyriaeth hyd at £14 biliwn. Mae’r ffrwd yn ymrwymiad trawsnewidiol unwaith mewn cenhedlaeth, gydag union ddyraniadau ychwanegol Llywodraeth y DU i’w cadarnhau mewn Adolygiadau Gwariant yn y dyfodol.
Bydd y rhaglen yn creu dros 1,000 o swyddi newydd parhaol yn uniongyrchol. Bydd yn creu dros 6,000 o swyddi newydd yn ystod y gwaith adeiladu. Bydd hefyd yn cefnogi miloedd o swyddi newydd mewn diwydiannau ledled Cymru sy’n dibynnu ar rwydwaith trafnidiaeth gwell.Ìý
Mae manteision hirdymor cyflawni’r 43 cynllun gyda gwaith datblygu sefydledig (fel y’u nodwyd yn y weledigaeth) yn cynnwys:Â
- Gwerth £6.3 biliwn mewn manteision economaidd ehangach
- Hyd at 13.3 miliwn o deithiau rheilffordd newydd bob blwyddynÂ
- 3.8 miliwn yn llai o deithiau car – gostyngiad o 115 miliwn o gilomedrau cerbyd bob blwyddyn
- 55,000 tunnell o COâ‚‚Â yn cael ei osgoi bob blwyddyn
Buddsoddiad Rheilffyrdd Cyfredol Llywodraeth y DUÂ Â
Dyrannodd Adolygiad Gwariant 2025 o leiaf £445 miliwn i welliannau rheilffyrdd yng Nghymru; £302 miliwn ar gyfer uwchraddio seilwaith yn ystod y cyfnod Adolygiad Gwariant hwn, £95 miliwn ar gyfer datblygiad pellach, a £48 miliwn i Lywodraeth Cymru ar gyfer gwelliannau ar Linellau Craidd y Cymoedd yn ystod y cyfnod Adolygiad Gwariant hwn.Ìý
Gorsafoedd a gwasanaethau newydd (‘Burns’) De-ddwyrain CymruÂ
Wedi’i sefydlu gan Lywodraeth Cymru yn 2019 i nodi ffyrdd o leddfu tagfeydd ar yr M4, cynigiodd Comisiwn Burns ddarparu pum gorsaf newydd rhwng Caerdydd a Chyffordd Twnnel Hafren. Argymhellodd Comisiwn Burns y gorsafoedd canlynol: Magwyr a Gwndy; Llan-wern; Dwyrain Caerdydd; Gorllewin Casnewydd; a SomertonÂ
Mae setliad Adolygiad Gwariant 2025 yn cynnwys £90 miliwn ar gyfer yr gorsafoedd hyn dros y pedair blynedd nesaf i hwyluso gwasanaethau trên newydd yn y dyfodol. Bydd y gwaith ar bob un o’r pum gorsaf yn dechrau eleni gyda’r disgwyl y bydd gwaith adeiladu dwy orsaf yn dechrau erbyn 2029. Disgwylir i Magwyr a Gwndy fod yr orsaf gyntaf o’r pump i gael ei chwblhau.Ìý
Uwchraddio Llinellau Lliniaru De CymruÂ
Mae Llywodraeth y DU wedi dyrannu o leiaf £40 miliwn i gyflymu’r Llinellau Lliniaru sy’n rhedeg wrth ymyl y Prif linellau rhwng Caerdydd a Chyffordd Twnnel Hafren.ÌýBydd hyn yn creu 2 linell gyflymder uchel ychwanegol a fydd yn cynnig mwy o hyblygrwydd ar gyfer gwasanaethau cludo nwyddau a chludo teithwyr, yn gwella perfformiad, ac yn creu’r capasiti ar gyfer twf gwasanaeth trên.ÌýÂ
Mae’r Achos Busnes Llawn i fod i gael ei gyflwyno yn ystod gwanwyn 2026 a bydd gwaith ar y cynllun hwn yn cael ei alinio â’r gorsafoedd a’r gwasanaethau newydd arfaethedig yn Ne-ddwyrain Cymru.Ìý
Parcffordd CaerdyddÂ
Mae Parcffordd Caerdydd yn orsaf reilffordd newydd a gynigir o fewn datblygiad Llynnoedd Hendre ger Llaneirwg, Caerdydd. Mae’r datblygiad yn rhan o waith adfywio ehangach sy’n cyfuno’r orsaf newydd a pharc busnes mawr.Ìý
Mae datblygiad Parcffordd Caerdydd wedi’i gynllunio i drawsnewid cysylltedd rhwng Caerdydd, Casnewydd a’r rhanbarth ehangach, gan gefnogi twf economaidd a ffyniant bro.Ìý
Mae Parcffordd Caerdydd yn addo dod yn gatalydd ar gyfer twf, gan gyfrannu at adfywio Dwyrain Caerdydd a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd ehangach drwy ddenu busnesau a buddsoddiad o ansawdd uchel. Mae gan y datblygiad y potensial i gefnogi tua 6,000 o swyddi trwy ei barc busnes cysylltiedig.Ìý
Bydd yn annog pobl ledled De Cymru i deithio mewn modd mwy cynaliadwy, gan leihau amseroedd teithio i Gaerdydd a Chasnewydd a’u cysylltu ag ardaloedd eraill o Gymru a’r DU. Gobeithir hefyd y bydd yr orsaf yn helpu i leddfu tagfeydd pan fydd digwyddiadau mawr yn digwydd yng nghanol Caerdydd.Ìý
Mae Llywodraeth y DU heddiw yn cyhoeddi ein bod wedi cytuno ar gynllun gyda Llywodraeth Cymru a buddsoddwyr preifat i fwrw ymlaen â’r prosiect gyda chyllid ychwanegol gan Lywodraeth y DU ar gael i gyflawni’r orsaf.ÌýÂ
Bydd yr union gyfraniad ariannu gan bob partner a’r amserlen ar gyfer cyflawni’r orsaf yn dibynnu ar waith datblygu dilynol.ÌýÂ
Caerdydd CanologÂ
Mae Llywodraeth y DU wedi dyrannu £59.8 miliwn ar gyfer cynlluniau i drawsnewid Gorsaf Caerdydd Canolog, gorsaf reilffordd brysuraf Cymru, gan ddod â chyfanswm cyllid Llywodraeth y DU ar gyfer y prosiect i £77.8 miliwn. Mae hyn yn cael ei gefnogi gan £40 miliwn ychwanegol o Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a £21 miliwn gan Lywodraeth Cymru. Mae gwaith ar yr orsaf i fod i ddechrau yng ngwanwyn 2026, gyda’r rhan fwyaf o’r gwaith wedi’i gwblhau erbyn 2029.Ìý
Cynyddu amlder gwasanaethau yn ardal Caerdydd (Cyffordd Gorllewin Caerdydd)Â
Dros y 3 blynedd nesaf, bydd Llywodraeth y DU yn buddsoddi hyd at £30 miliwn ar welliannau seilwaith i gynyddu capasiti cyffordd allweddol i’r gorllewin o orsaf Caerdydd, a fydd yn galluogi cynnydd mewn gwasanaethau ar rwydwaith Llinellau Craidd y Cymoedd.Ìý
Bydd y gwelliant hwn yn cael ei gyflawni fel rhan o waith adnewyddu y bwriedir ei gynnal ar y gyffordd yn 2028, gan ddarparu effeithlonrwydd sylweddol.Ìý
Cynnydd mewn amlder y gwasanaeth ar y rheilffordd rhwng Wrecsam a LerpwlÂ
Mae’r llinell rhwng Wrecsam a Lerpwl wedi’i chyfyngu gan y seilwaith presennol ger Gwaith Sment Padeswood, gan leihau capasiti ac arwain at Network Rail yn datgan bod y llinell yn seilwaith sy’n achosi tagfeydd yn 2023.ÌýÂ
Mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda Bargen Twf Gogledd Cymru – Uchelgais Gogledd Cymru – sydd wedi cytuno i gyd-ariannu’r gwelliannau i drefniadau’r brif linell i gyfleuster cludo nwyddau gwaith sment Padeswood. Bydd hyn yn darparu symudiad di-dor i drenau cludo nwyddau oddi ar y brif linell ac i mewn i’r gwaith sment yn hytrach na’r symudiadau presennol sy’n cymryd llawer o amser.Ìý Â
Bydd y cyllid hwn yn galluogi Llywodraeth y DU i ddefnyddio ei chyllid presennol a gytunwyd yn yr adolygiad gwariant i fwrw ymlaen â chynlluniau pellach ar y llinell hon, gan gynnwys gorsaf ychwanegol i wasanaethu Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy, a gwelliannau diogelwch, capasiti a chyflymder llinell ym Mwcle.Ìý
Bydd y gwelliannau hyn yn galluogi dau drên yr awr ar y llinell rhwng Wrecsam a Lerpwl ac yn galluogi mwy o bobl i gyrraedd y gwaith ar y trên.Ìý Â
Gwelliannau diogelwch a gwasanaeth Arfordir Gogledd CymruÂ
Mae Llywodraeth y DU yn buddsoddi tua £30 miliwn mewn gwelliannau diogelwch a gwasanaeth ar Brif Linell Arfordir Gogledd Cymru. Mae hyn yn cynnwys dylunio a gosod dwy bont droed hygyrch newydd i ddisodli 4 croesfan rheilffordd risg uchel ym Mhrestatyn ac Abergele ar Brif Linell Arfordir Gogledd Cymru a chyflawni cynnydd o 50% yng ngwasanaeth trenau Trafnidiaeth Cymru o fis Mai 2026 ymlaen.ÌýDisgwylir i’r gwaith adeiladu gael ei gwblhau yng ngwanwyn 2027.