Sicrhau dyfodol disglair i’ch prosiect pres poced
Mae CThEF yn atgoffa pobl sy’n ennill arian o brosiectau pres poced i wirio a oes angen iddynt gofrestru ar gyfer Hunanasesiad a datgan eu hincwm. Mae offer ar-lein am ddim ac arweiniad ar gael ar ǸԹ i’w helpu.
- Mae priodasau ym mhobman – a law yn llaw â hynny, dyma nodyn atgoffa y gallai incwm o brosiectau pres poced fod yn drethadwy
- Mae’n bosibl y bydd angen i’r sawl sy’n ennill mwy na £1,000 gofrestru ar gyfer Hunanasesiad a datgan eu hinwcm i Gyllid a Thollau EF (CThEF)
- Gall offeryn ar-lein rhad ac am ddim helpu pobl sy’n ennill arian ychwanegol wirio a oes angen iddynt roi gwybod am eu hincwm ychwanegol a phryd y mae angen iddynt wneud hynny
Mae’r gwahoddiadau wedi’u hanfon, mae’r lleoliad wedi’i drefnu ac mae’r blodau wedi’u harchebu - ond i’r rhai sy’n cyflenwi nwyddau ar gyfer priodasau ac sydd wedi troi eu hobi’n brosiect pres poced, mae un dasg fach arall i’w gwneud: gwirio’u hymrwymiadau treth.
Mae’n gyfnod prysur i briodasau, ac mae CThEF yn atgoffa’r sawl sy’n ennill incwm ychwanegol o weithgareddau fel gwerthu papurach priodas, ffilmio’r ddawns gyntaf neu greu’r gacen, bod angen iddynt roi gwybod i CThEF os byddant yn ennill mwy nag £1,000.
Mae ymgyrch CThEF, , yma i helpu’r sawl sydd â phrosiect pres poced gael eu treth yn gywir, a hynny mewn ffordd gyflym a hawdd. Mae hynny’n cynnwys y rhai sy’n cyflenwi nwyddau i briodasau, rhieni sy’n ennill arian o fusnes sy’n hobi neu grewyr cynnwys sy’n gwneud arian drwy bostio am y pethau poblogaidd diweddaraf ar-lein.
Meddai Kevin Hubbard, Cyfarwyddwr Unigolion a Busnesau Bach CThEF:
“Mae prosiect pres poced yn ffynhonnell incwm ychwanegol werthfawr i lawer o bobl. Os ydych yn ennill mwy na £1,000 o’ch prosiect pres poced, mae’n bwysig i chi ddeall eich cyfrifoldebau treth, ac mae CThEF am wneud hynny mor syml â phosibl.
“Gallwch wirio a oes angen i chi lenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad drwy ddefnyddio’r offeryn ar ǸԹ. Mae’n cymryd munudau’n unig i’w ddefnyddio, ac mae’n rhoi gwybod yn union beth sydd angen i chi ei wneud ac yn golygu na fydd biliau treth annisgwyl yn eich cyrraedd yn y pen draw.”
Os yw rhywun wedi ennill mwy na £1,000 o’i brosiect pres poced mewn blwyddyn dreth, efallai y bydd angen iddo lenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad.
Gall ddefnyddio’r offeryn ar ǸԹ. Mae’n cymryd munudau’n unig i’w ddefnyddio, ac, os oes angen llenwi Ffurflen Dreth, bydd yn esbonio sut i gofrestru.
Dylai’r rhai sy’n newydd i Hunanasesiad gofrestru ar gyfer blwyddyn dreth 2025 i 2026 erbyn 5 Hydref 2026. Mae’n rhaid iddynt gyflwyno’u Ffurflen Dreth ar-lein a thalu unrhyw dreth sy’n ddyledus erbyn 31 Ionawr 2027.
Mae’r trothwy o £1,000 yn cynnwys yr holl incwm a ddaw o brosiectau pres poced. Felly, os bydd rhywun yn ennill £600 o dynnu lluniau priodas a £500 o bostio ar y cyfryngau cymdeithasol, byddai angen iddynt gofrestru ar gyfer Hunanasesiad oherwydd bod cyfanswm eu henillion dros £1,000.
Nid yw pob incwm ychwanegol yn drethadwy. Fel arfer, does dim angen rhoi gwybod i CThEF ynghylch gwerthu eitemau personol diangen - fel clirio’ch cypyrddau dillad. Fodd bynnag, mae cynnig gwasanaeth yn gyfnewid am dâl neu werthu nwyddau am elw yn gyson, yn debygol o gyfri fel masnachu ac mae’n bosibl y bydd angen datgan hyn. Gall cwsmeriaid wirio a oes angen iddyn nhw roi gwybod i CThEF am incwm ychwanegol ar ǸԹ.
Astudiaeth achos
“Cyn gynted a dechreuodd yr archebion priodas gyrraedd, ro’n i’n gwybod bod angen i mi edrych ar fy nhreth”
Ar hyn o bryd, mae Lianna Dickson, 30, o Livingston, ar gyfnod mamolaeth o’i rôl yn y maes marchnata i ddylanwadwyr ar y cyfryngau cymdeithasol ac yn rhedeg busnes llwyddiannus i greu cynnwys priodasau law yn llaw â’i bywyd teuluol fel mam newydd.
Ar ôl priodi yn 2024, gwnaeth Lianna sylweddoli ei bod hi’n difaru peidio â hurio crëwr cynnwys i gipio’r eiliadau o’r tu ôl i’r llen o’i phriodas hi ei hun. Felly, o ganlyniad i gefndir yn y cyfryngau cymdeithasol a breuddwyd o redeg ei busnes ei hun, gwelodd y cyfle i gyfuno’r ddau beth a lansiodd Captured By Fifteen.
Meddai Lianna:
“Syrthiais i dros fy mhen a fy nghlustiau mewn cariad â phopeth a oedd yn gwneud â phriodasau yn dilyn fy mhriodas i, felly meddyliais i mai dyma’r ffordd berffaith i gyfuno rhywbeth ro’n i’n dwlu arno gyda’r profiad gwaith oedd gen i.”
Fel crëwr cynnwys, mae Lianna’n cipio’r eiliadau arbennig sy’n digwydd y tu ôl i’r llen ar ei ffôn wrth iddynt ddigwydd, ac yn anfon y ffilmiau gwreiddiol a’r rîls proffesiynol o uchafbwyntiau’r dydd cyn pen 24 awr.
“Mae’r pâr yn gallu deffro ac ail-fyw eu priodas gyfan drannoeth yn y ffordd fwyaf naturiol.”
Tyfodd ei busnes yn gyflym ac o fewn y flwyddyn gyntaf roedd hi wedi ffilmio bron i 50 o briodasau. Wrth i’r archebion gyrraedd ac i’r incwm dyfu, roedd hi’n gwybod bod angen iddi fynd i’r afael â’i threth.
“Cyn gynted a dechreuais i gael archebion ar gyfer sawl priodas, ro’n i’n gwybod bod hyn yn mynd i ddod â thipyn o arian ychwanegol. Gwnes i ddarllen llawer o wybodaeth ar ǸԹ a gwefan CThEF. Unwaith i mi sylwi bod fy incwm dros y lwfans incwm masnachu o £1,000, ro’n i’n gwybod y byddai angen i mi lenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad. Roedd popeth ar-lein yn hawdd iawn ei ddeall.”
Gwelodd fod y broses yn haws na’r disgwyl, a chadwodd daenlen fanwl a oedd yn cynnwys tabiau ar gyfer anfonebau, gwariant, tanysgrifiadau a manylion ynghylch milltiroedd er mwyn bod ar ben ei ffigurau drwy gydol y flwyddyn.
“Gwnes i lenwi fy Ffurflen Dreth cyn pen awr. Roedd hi llawer yn haws na’r disgwyl. Ro’n i’n meddwl y byddai’n angen i mi nodi pob trafodyn yn unigol a byddai hynny’n cymryd oriau, ond nid dyna sut oedd hi mewn gwirionedd. Ro’n i wedi bod yn cadw cofnod o’r holl ffigurau, felly dim ond mater o lenwi’r wybodaeth a chopïo’r ffigurau i’r ffurflen oedd hi.”
Mae ei chyngor i bobl eraill mewn sefyllfa debyg yn syml.
“Cadwch gofnod o bopeth a siaradwch gyda rhywun sy’n deall y broses — neu chwiliwch am fideos o rywun yn egluro’r peth i chi os ydych chi’n ei chael hi’n anodd darllen pethau’n unig.”
Mae Lianna’n esbonio ar sut y dechreuodd ei phrosiect pres poced.
Mae CThEF yn annog pawb sydd mewn sefyllfa debyg - gan gynnwys y rhai sy’n ffilmio priodasau, tynnu lluniau o’r digwyddiadau, pobi’r gacen neu’n gwerthu nwyddau a wnaed â llaw - i ddefnyddio’r neu offeryn ar-lein CThEF sy’n rhad ac am ddim i wirio a oes angen iddynt gofrestru.
Nodiadau i Olygyddion
Mae arweiniad pellach a gwybodaeth ynghylch llenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar ǸԹ ynghyd â rhestr o’r bobl y mae angen iddynt lenwi Ffurflen Dreth
Mae’r lwfans masnachu o £1,000 yn golygu nad oes angen i unrhyw un sy’n ennill llai na £1,000 mewn blwyddyn dreth ddatgan hynny na thalu treth arno.
Dylai’r sawl nad oes angen iddynt gyflwyno eu Ffurflen Dreth bellach roi gwybod i CThEF cyn gynted â phosibl i osgoi cael unrhyw gosbau.
Mae arweiniad yr ymgyrch Help Treth ynghylch Prosiectau Pres Poced yn cwmpasu pedwar maes allweddol: prynu neu greu pethau i’w gwerthu; rhoi gwasanaeth (h.y gyrwyr dosbarthu parseli, hyfforddwyr ymarfer corff); creu cynnwys a dylanwadu; a rhoi eiddo ar osod.
Yn ôl gwaith ymchwil a gynhaliwyd gan CThEF, a gafodd ei gyhoeddi yn 2023, mae un ym mhob deg o bobl yn y DU yn gweithredu yn yr economi gudd, a 65% ohonynt heb wybod y dylent fod wedi’u cofrestru ar gyfer treth.
Dyma’r rhesymau dros beidio â datgan yn ôl gwaith ymchwil CThEF: dywedodd 35% fod eu hincwm yn rhy fach i fod o bwys; dywedodd 32% nad oedd hi’n werth treulio’r amser arno; dywedodd 21% fod yr incwm yn anghyson neu dros dro felly doedden nhw ddim yn gwybod bod angen iddynt ei ddatgan; dywedodd 22% ei fod yn anghyson neu dros dro ac felly nid oedd hi’n werth treulio’r amser arno.