Plentyn yn troi’n 16 Peidiwch â cholli allan ar Fudd-dal Plant
Mae’n rhaid i rieni plant yn eu harddegau sy’n dechrau cyrsiau addysg bellach neu hyfforddiant cymwys ymestyn eu hawliad Budd-dal Plant erbyn 31 Awst.
- Bydd tua 1.5 miliwn o rieni pobl 16-19 oed yn cael llythyrau atgoffa yn yr wythnosau nesaf.
- Y ffordd gyflymaf a hawsaf i ymestyn yw drwy ap CThEF neu ar-lein yn °Ç¸ç³Ô¹Ï.
Atgoffir rhieni pobl 16-19 oed i ymestyn eu hawliad Budd-dal Plant os yw eu plant yn eu harddegau’n aros mewn rhai mathau o addysg neu hyfforddiant ar ôl eu TGAU neu eu TGAU Cenedlaethol 5.
Bydd Budd-dal Plant yn dod i ben yn awtomatig ar 31 Awst ar neu ar ôl pen-blwydd plentyn yn 16 oed oni bai bod rhieni’n cadarnhau cynlluniau eu plant yn eu harddegau. Bydd tua 1.5 miliwn o lythyrau atgoffa yn cael eu hanfon o ddiwedd mis Ebrill ymlaen, gyda’r rhan fwyaf yn cyrraedd cartrefi ddechrau mis Mai.
Nid oes angen i rieni aros am eu llythyr. Agorodd gwasanaeth digidol Cyllid a Thollau EF (CThEF) ar gyfer ymestyn ar 1 Ebrill, felly gall y rhai sydd eisoes yn gwybod cynlluniau eu plant yn eu harddegau weithredu heddiw.
Gellir gwneud estyniadau hawlio ar ap CThEF neu ar-lein yn °Ç¸ç³Ô¹Ï. Mae’r llythyrau hefyd yn cynnwys cod QR sy’n cysylltu’n uniongyrchol â’r gwasanaeth digidol.
Mae Budd-dal Plant werth £27.05 yr wythnos – neu £1,406.60 y flwyddyn – i’r plentyn hynaf neu’r unig blentyn ac £17.90 yr wythnos i bob plentyn ychwanegol. Y llynedd, estynnodd 874,000 o rieni eu hawliad, gyda mwy na hanner yn gwneud hynny ar-lein neu drwy ap CThEF.
Meddai Myrtle Lloyd, Prif Swyddog Cwsmeriaid CThEF:
Mae Budd-dal Plant yn hwb ariannol go iawn i deuluoedd, felly os yw’ch plentyn yn ei arddegau eisoes yn gwybod ei fod yn aros mewn addysg neu hyfforddiant ar ôl ei TGAU neu ei arholiadau Cenedlaethol 5, does dim angen i chi aros am ein llythyr.
Gallwch ymestyn eich hawliad Budd-dal Plant heddiw mewn munudau drwy ap CThEF neu ar-lein yn °Ç¸ç³Ô¹Ï.
Gall Budd-dal Plant barhau i bobl ifanc sy’n astudio’n llawn amser mewn addysg nad yw’n addysg uwch, neu ar gyrsiau hyfforddi cymeradwy di-dâl. Ewch i °Ç¸ç³Ô¹Ï am y rhestr lawn o gyrsiau cymwys.
Os oes gan hawliwr Budd-dal Plant neu ei bartner incwm unigol rhwng £60,000 ac £80,000, mae’n bosibl y bydd yr enillydd uchaf yn agored i’r Tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel (HICBC). Defnyddiwch y gyfrifiannell dreth Budd-dal Plant ar °Ç¸ç³Ô¹Ï i gael amcangyfrif. Gall rhieni dalu’r tâl drwy eu cod treth TWE gan ddefnyddio’r gwasanaeth digidol HICBC, neu drwy Hunanasesiad.
Rhagor o Wybodaeth
Rhagor o wybodaeth am Fudd-dal Plant i bobl 16 i 19 mlwydd oed..
Bydd tua 1.5 miliwn o lythyrau’n cael eu hanfon at rieni pobl 16-19 oed o ddiwedd mis Ebrill 2026 ymlaen. Disgwylir i lythyrau gyrraedd o 8 Mai ymlaen.
Nid oes angen i rieni aros am eu llythyr. Mae’r gwasanaeth digidol ar agor nawr yn °Ç¸ç³Ô¹Ï ac ar ap CThEF.
Dim ond os yw eu plant yn eu harddegau’n dechrau cwrs newydd neu hyfforddiant cymhwysol ym mis Medi y mae angen i rieni weithredu. Nid oes angen i’r rhai sydd eisoes yng nghanol cwrs a hysbyswyd CThEF yn flaenorol gysylltu â ni.
Mae’n rhaid bod y plentyn yn astudio am o leiaf 12 awr bob wythnos ar gyfartaledd, a hynny o dan oruchwyliaeth neu wrth wneud profiad gwaith sy’n ymwneud â’r cwrs i gael ei ystyried mewn addysg amser llawn. Mae hyn yn cynnwys addysg ar yr aelwyd. Os oes gan blentyn salwch neu anabledd, mae’n bosibl y bydd yn gallu gwneud llai o oriau lle mae hyn yn briodol iddo.
Ni ellir hawlio Budd-dal Plant os yw cwrs person ifanc yn rhan o gontract swydd.
Gall rhieni weld a rheoli eu hawliad drwy ap CThEF, gan gynnwys gweld gwybodaeth am daliadau, tystiolaeth o hawl, ac ychwanegu plant.
Bydd codau QR mewn llythyrau CThEF bob amser yn cyfeirio at °Ç¸ç³Ô¹Ï neu ap CThEF. Rhowch wybod am e-byst amheus gyda chodau QR i phishing@hmrc.gov.uk.