Y DU yn dathlu'r bobl o Gymru sydd wedi'u gwobrwyo yn Rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd Ei Fawrhydi'r Brenin 2026
Mae dros 67 o bobl o Gymru sydd wedi cyfrannu i’w cymunedau a’u gwlad yn cael eu dathlu yn Rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd Ei Fawrhydi’r Brenin 2026. 
New Year Honours 2026
Heddiw, mae dros 67 o bobl o Gymru sydd wedi cyfrannu i’w cymunedau a’u gwlad yn cael eu dathlu yn Rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd Ei Fawrhydi’r Brenin 2026. Â
Mae’r sawl sy’n derbyn anrhydeddau yng Nghymru yn cynnwys Ffion Lucy Mitchell-Langford, a dderbyniodd BEM am ei hymdrechion ymroddedig i gyfiawnder amgylcheddol a chymdeithasol yng Nghymru a Julie Denley, sy’n derbyn BEM yn 56 oed am ei hymroddiad i ddiwygio gwasanaethau Iechyd Meddwl yng Nghymru.Â
Mae cyfanswm o 1157 o bobl wedi cael eu gwobrwyo eleni am eu cyflawniadau eithriadol, gyda ffocws penodol ar y sawl sydd wedi cefnogi a hyrwyddo eu cymunedau.Â
Mae’r derbynwyr eleni yn cynnwys gofalwyr maeth ymroddedig, modelau rĂ´l ym maes chwaraeon menywod, gweithwyr iechyd ymroddedig, pencampwyr y celfyddydau, a chefnogwyr pobl ifanc. Â
Mae pob cwr o’r DU wedi’u cynrychioli yn y Rhestr, o’r Ynysoedd Gorllewinol i Liskeard yng Nghernyw. Â
Mae derbynwyr o Gymru yn cynrychioli 5.4% o gyfanswm y nifer o dderbynwyr anrhydeddau eleni. Â
Dywedodd Keir Starmer, Prif Weinidog y DU:Â
Mae Rhestr Anrhydeddau eleni yn dathlu’r gorau o Brydain - pobl sy’n rhoi lles cyffredinol eraill cyn lles eu hunain i gryfhau cymunedau a newid bywydau.Â
Mae eu hymroddiad tawel yn adlewyrchu’r wlad weddus a thrugarog yr ydym yn falch o fod. Ar ran y genedl i gyd, diolch - a llongyfarchiadau i bawb sy’n cael eu cydnabod heddiw.”Â
Dywedodd Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:Â
Llongyfarchiadau i bob un o’r derbynwyr haeddiannol iawn ledled Cymru sy’n cael eu cydnabod eleni.Â
Maen nhw wedi derbyn canmoliaeth am y gwaith rhyfeddol maen nhw’n ei wneud, gan wella bywydau eraill a gwneud gwahaniaeth i’w cymunedau, yn aml yn rhoi o’u hamser am ddim, codi arian i elusen neu’n cefnogi pobl fregus. Â
Mae’r rhestr yn cwmpasu pob agwedd ar fywyd yng Nghymru o chwaraeon i iechyd a lles a cherddoriaeth a’r celfyddydau. Mae gwaith y bobl anhygoel hyn yn cael effaith anferthol ar nifer enfawr o fywydau.Â
Hoffwn ddiolch i bob un ohonynt am eu hangerdd a’u hymroddiad ac am y rĂ´l ysbrydoledig mae’n nhw’n eu chwarae.”Â
Gall unrhyw un enwebu rhywun ar gyfer anrhydedd. Os ydych yn adnabod rhywun sydd wedi cyflawni pethau gwych sy’n werth eu cydnabod ewch i /honours i ganfod mwy am sut gallwch eu henwebu.Â
Derbynwyr nodedig ar draws Cymru:  Â
-
Mae Ffion Lucy Mitchell-Langford, 29 oed, yn derbyn BEM am wasanaethau i’r Amgylchedd Naturiol Morol ac i gymunedau yng Ngogledd Cymru. Mae hi’n adfocad ar gyfer cyfiawnder amgylcheddol a chymdeithasol yng Nghymru, ac mae uchafbwyntiau ei gyrfa yn cynnwys gwaith helaeth ym meysydd cadwraeth morol ac ymgysylltu cymunedol. Bu iddi sicrhau ÂŁ240,000 ar gyfer prosiect dealltwriaeth forol cyntaf y DU sydd wedi’i arwain gan y gymuned, ac mi wnaeth ei “Rhaglen Cysylltu â’r MĂ´r” wella perthnasau 1,250 o bobl gyda’r arfordir, gan gynyddu dealltwriaeth o’r mĂ´r yn sylweddol. Mae ei gwaith arloesol wedi’i gydnabod yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.Â
-
Julie Denley, BEM, 56 oed, yn derbyn BEM am wasanaethau i’r maes Iechyd Meddwl. Mae wedi arwain ar ddulliau iechyd meddwl arloesol am dros 30 mlynedd, a bu iddi hyrwyddo dulliau a arweinir gan ddinasyddion a dylanwadu ar ail-ddylunio gwasanaethau yng Nghymru. Yn dilyn yr Adolygiad Sainsbury, bu iddi sefydlu un o’r Gwasanaethau Datrys Argyfyngau a Thriniaeth yn y Cartref cyntaf yng Nghymru. Bu iddi adfywio’r Gwasanaeth Iechyd Meddwl Difrifol, gan ennill Gwobr y Prif Swyddog Nyrsio, a bu iddi lansio Gwasanaeth Iechyd Meddwl Gofal Sylfaenol newydd.Â
-
Ronald William Pearson, 78 oed, yn derbyn BEM am wasanaethau i griced. Mae wedi ymrwymo 63 o flynyddoedd i Glwb Criced Parc Gwersyllt, gan sefydlu’r clwb fel canolfan gymdeithasol i dros 3,000 o breswylwyr. Cafodd ei anrhydeddu’n ddiweddar gyda Gwobr Oes Anrhydeddus y Dirprwy Lywydd yng Ngwobrau cenedlaethol yr ECB - sef Gwobrau Criced 2024 - am ei ddegawdau o wasanaethu er lles y gymuned criced.Â
-
Darren Shane Davies, 55 oed, yn derbyn BEM am wasanaethau i rygbi yn Nhorfaen. Gyda chyfraniad anhygoel i Talywain ers sefydlu a hyfforddi tĂ®m rygbi dan 8 oed yn 1998, mae wedi hyfforddi’r un tĂ®m o rygbi iau i rygbi uwch, gan sicrhau dyrchafiadau olynol trwy system haenau rygbi Cymru i Bencampwriaeth Undeb Rygbi Cymru yn 2024. Er ei fod yn gweithio llawn amser fel trydanwr, mae’n parhau i godi proffil y gymuned trwy godi arian a threfnu digwyddiadau elusennol.Â
DIWEDD