Datgloi marchnad eiddo well sy'n peri llai o straen
Bydd Cofrestrfa Tir EF a’r Arolwg Ordnans yn cydweithio i gefnogi polisi’r llywodraeth a thwf economaidd.
Bydd cydweithrediad newydd rhwng Cofrestrfa Tir EF a’r Arolwg Ordnans yn helpu i drawsnewid y farchnad eiddo trwy wella hygyrchedd data ac arloesedd yn y sectorau tai a geo-ofodol. Bydd hyn yn gwneud pethau’n haw i ddinasyddion a busnesau, yn hybu hyder mewn hawliau eiddo a’r sector tai, ac yn cefnogi polisi’r llywodraeth a thwf economaidd.
Mae Cofrestrfa Tir EF wedi bod wrth wraidd trafodion marchnad eiddo yng Nghymru a Lloegr ers dros 160 mlynedd, gan gadw’r cofnod swyddogol, dibynadwy o bwy sy’n berchen ar dir. Wrth i’r farchnad esblygu, mae Cofrestrfa Tir EF am wneud ei data yn haws i’w gyrchu a’i ddefnyddio, a chysylltu â data marchnad eiddo arall. Ei nod yw newid o fod yn geidwad data yn unig i ddefnyddio’r data hwnnw’n weithredol i alluogi marchnad eiddo sy’n gweithredu’n well, gan gefnogi twf, arloesedd a hyder yn economi’r DU.
Mae’r Arolwg Ordnans yn rhan annatod o’r broses gofrestru tir, gan olrhain datblygiadau tai newydd ac arolygu ôl troed adeiladau, gan ddarparu’r data mwyaf cyfredol pan fydd cartrefi newydd yn cael eu cofrestru. Defnyddir ei ddata gan dros 4,500 o weithwyr cais bob dydd i gynnal y Gofrestr Teitl (Tir) ac fe’i defnyddir i ddelweddu terfynau cyffredinol ar bob Cynllun Teitl Cofrestrfa Tir EF.
Nawr, mae’r ddau sefydliad hirhoedlog, sydd â uchelgais gyffredin i ddatgloi gwerth data tir a lleoliad, wedi llofnodi Memorandwm o Ddealltwriaeth. Bydd hyn yn helpu i lunio marchnad eiddo fwy cysylltiedig, wedi ei galluogi’n ddigidol dros y tair blynedd nesaf, gan sbarduno gwelliannau i ddinasyddion, busnesau a gwasanaethau’r llywodraeth.
Fel rhan o’i thaith trawsnewid digidol barhaus, lansiodd Cofrestrfa Tir EF Strategaeth 2025+ y llynedd, gan ymrwymo i wneud gwasanaethau eiddo yn ‘well, yn gyflymach ac a fydd yn arwain at lai o straen’. Y fenter newydd gyda’r Arolwg Ordnans yw’r cam nesaf yn y trawsnewidiad hwnnw. Mae’r Arolwg Ordnans mewn sefyllfa dda i gefnogi, ar ôl bod trwy ei drawsnewidiad digidol ei hun yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan gyflwyno mwy o ddata i ddwylo mwy o sefydliadau i gefnogi gwneud penderfyniadau gwell.
Mae’r cydweithrediad rhwng yr Arolwg Ordnans a Chofrestrfa Tir EF yn cynnwys:
-
sicrhau aliniad strategol, mewn perthynas â Chronfa Ddata Ddaearyddol Genedlaethol yr Arolwg Ordnans a map ffordd Cynnyrch yr Arolwg Ordnans a map ffordd a thrawsnewid geo-ofodol Cofrestrfa Tir EF
-
rhannu mewnwelediadau a chysyniadau: beth sydd ei angen ar y farchnad a sut y gall yr Arolwg Ordnans a Chofrestrfa Tir EF gyflawni eu tasgau cyhoeddus orau i yrru twf economaidd
-
manteisio ar gyfleoedd ar gyfer dosbarthu data, gan gynnwys gwneud y defnydd gorau o Hwb Data’r Arolwg Ordnans i ddarparu data Cofrestrfa Tir EF i’r farchnad
-
cyfnewid gwybodaeth, sgiliau ac arfer gorau mewn meysydd o ddiddordeb cyffredin, er enghraifft trwyddedu, geo-ofodol, cydymffurfiaeth; helpu i greu safon gyson i’r sector cyhoeddus ar gyfer modelau masnachol ac ailddefnyddio data
Croesawodd Tina Kennedy, Prif Swyddog Cwsmeriaid yr Arolwg Ordnans, y cydweithrediad:
Mae marchnad eiddo fwy effeithlon yn hanfodol i economi’r DU. Mae’n helpu pobl i symud cartref yn haws, yn cefnogi datblygiad a buddsoddiad, ac yn sail i un o’r asedau mwyaf sylweddol y mae llawer o bobl yn berchen arnynt. Mae hwn yn gyfle amhrisiadwy i weithio’n agos gyda Chofrestrfa Tir EF i ddarparu gwerth i’r llywodraeth, prynwyr tai a datblygwyr. Mae ein data dibynadwy wedi bod yn rhan annatod o’r broses gofrestru tir erioed, felly rydym wrth ein bodd yn cydweithio â CTEF i wella hygyrchedd data ymhellach ar draws y llywodraeth a chryfhau cysylltedd rhwng adrannau ar draws y farchnad dai.
Dywedodd Lynne Nicholson, Dirprwy Gyfarwyddwr Data a Phennaeth Grŵp Data yng Nghofrestrfa Tir EF:
Mae gennym gynlluniau cyffrous i drawsnewid o gadw cofnodion traddodiadol i hybu twf economaidd yn weithredol a datgloi cyfleoedd newydd ar draws y sector tai. Rwy’n edrych ymlaen at weithio’n agos gyda chydweithwyr yr Arolwg Ordnans i rannu mewnwelediadau a syniadau, ac adeiladu gweledigaeth a rennir ar gyfer data dibynadwy a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’n holl gwsmeriaid.
Mae’r cydweithrediad yn cefnogi cynllun strategol llywodraeth 2024-2026 i alluogi darparu 1.5 miliwn o gartrefi newydd ledled Lloegr yn y senedd bresennol, ochr yn ochr â gwaith parhaus i gefnogi adfywio cymunedau. Mae hefyd yn cefnogi marchnad eiddo gref, sy’n chwarae rhan bwysig yn economi a ffyniant y genedl. Yng Nghymru a Lloegr, caiff eiddo ei brisio ar bron £9 triliwn, sy’n cyfrif am dros hanner cyfoeth y genedl, gyda thua £1.66 triliwn o fenthyca wedi ei sicrhau yn ei erbyn. Mae gan y DU un o farchnadoedd eiddo mwyaf y byd, gyda gwerthiannau blynyddol yn fwy na £360 biliwn.
Mae manteision eraill i broses gofrestru tir fwy effeithlon yn cynnwys cynllunio amgylcheddol mwy effeithlon, lleihau twyll wrth ddyblygu teitlau eiddo a defnyddio data Cofrestrfa Tir EF a’r Arolwg Ordnans i ganfod risg yswiriant eiddo yn seiliedig ar ledaeniad daearyddol a pherchnogaeth portffolios.
Swyddfa’r Wasg
Trafalgar House
1 Bedford Park
Croydon
CR20 2AQ
·¡²ú´Ç²õ³ÙÌýHMLRPressOffice@landregistry.gov.uk
Ffôn (dydd Llun i ddydd Gwener 8:30am i 5:30pm) 0300 006 3365
Symudol (5:30pm i 8:30am yn ystod yr wythnos waith, trwy’r penwythnosau ac yn ystod gwyliau cyhoeddus) 07864 689 344