Ein llywodraethiant
Y prif bwyllgorau gwneud penderfyniadau a rheoli yn APHA.
µþ·É°ù»å»åÌý´¡±Ê±á´¡
Mae’r bwrdd yn cwrdd 6 gwaith y flwyddyn. Mae’n gyfrifol am y canlynol:
- gosod cyfeiriad strategol yr asiantaeth
- sicrhau bod yr asiantaeth yn cyflawni ei thargedau
- rheoli risg
- rheoli’r ffordd rydym yn gweithio ac yn cyfathrebu ag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) a llywodraethau Cymru a’r Alban.
Cadeirydd y Bwrdd yw Elizabeth Buchanan, Prif Gyfarwyddwr Anweithredol APHA. Yr aelodau a’r bobl sy’n mynychu yw:
- Richard Lewis, Prif Weithredwr APHA
- Lizzie Peers, Cyfarwyddwr Anweithredol
- Laura Green, Cyfarwyddwr Anweithredol
- Laurie Benson, Cyfarwyddwr Anweithredol
- Kevin Ingram, Cyfarwyddwr Cyllid APHA
- Dan Horton, Cyfarwyddwr Dros Dro Gwyddor Anifeiliaid a Phlanhigion
- Jason Field, Cyfarwyddwr y Ganolfan Bioamddiffyn Genedlaethol, Weybridge
- Nicola Hirst, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyflenwi Anifeiliaid a Phlanhigion
- Richard Knight, Cyfarwyddwr Trawsnewid APHA Richard McCart, Cyfarwyddwr Newid (Dros Dro)
- Irene Cristofaro, Cyfarwyddwr Milfeddygol APHA
- Christine Middlemiss, Prif Swyddog Milfeddygol (DU)
- Nicola Spence, Prif Swyddog Iechyd Planhigion Defra
- Anna Jenkins, Dirprwy Gyfarwyddwr Adnoddau Dynol
- Anjali Juneja, Cyfarwyddwr Iechyd a Lles Anifeiliaid a Phlanhigion
Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg
Mae’r pwyllgor yn cyfarfod bedair gwaith y flwyddyn gyda chyfarfodydd ychwanegol os bydd angen. Mae’n gyfrifol am y canlynol:
- cefnogi’r bwrdd yn y gwaith o reoli risg
- asesu perfformiad yr asiantaeth
- adolygu rheolaeth ariannol yr asiantaeth
- hysbysu’r bwrdd am ganlyniadau’r archwiliadau mewnol ac allanol
Y cadeirydd yr Lizzie Peers, Cyfarwyddwr Anweithredol, ac yr aelodau eraill yw:
- David Horne, Aelod Annibynnol
- Laurie Benson, Cyfarwyddwr Anweithredol
Y bobl sy’n dod i’r cyfarfod yn rheolaidd yw:
- Richard Lewis, Prif Weithredwr APHA
- Kevin Ingram, Cyfarwyddwr Cyllid APHA
- Russ Baldwin, Pennaeth Cyllid a Phartneriaeth Busnes APHA
- Natalie Towers, Prif Archwilydd Mewnol Defra ac GIAA
- Defra, Rheolwr Risg a Sicrwydd APHA
- Swyddfa Archwilio Genedlaethol
Tîm Arwain Cyfarwyddiaeth APHA
Mae Tîm Arwain y Gyfarwyddiaeth yn cyfarfod yn fisol ac mae’n gyfrifol am y canlynol:
- rhediad gweithredol APHA o ddydd i ddyddgweithredu gwelliannau
- monitro cyflawniadau yn erbyn targedau
- awdurdodi a rheoli rhaglen newid yr asiantaeth
Y cadeirydd yw Richard Lewis, Prif Weithredwr APHA. Yr aelodau eraill yw:
- Kevin Ingram, Cyfarwyddwr Cyllid APHA
- Dan Horton, Cyfarwyddwr Dros Dro Gwyddor Anifeiliaid a Phlanhigion
-
Jason Field, Cyfarwyddwr y Ganolfan Bioamddiffyn Genedlaethol, Weybridge
-
Nicola Hirst, Â Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyflenwi Anifeiliaid a Phlanhigion
- Richard Knight, Cyfarwyddwr Trawsnewid APHA
- Richard McCart, Cyfarwyddwr Newid (Dros Dro)
- Irene Cristofaro, Cyfarwyddwr Milfeddygol APHA
- Anna Jenkins, Dirprwy Gyfarwyddwr Adnoddau Dynol
Mae pedwar Is-bwyllgor APHA yn adlewyrchu pileri strategaeth APHA. Maent yn cefnogi’r Bwrdd Gweithredol.
±õ²õ-²ú·É²â±ô±ô²µ´Ç°ù²¹³ÜÌý´¡±Ê±á´¡
Mae ±õ²õ-²ú·É²â±ô±ô²µ´Ç°ù²¹³ÜÌý´¡±Ê±á´¡Â yn cynnwys y 4 piler; Hyrwyddo, Diogelu, Pobl a Lle, ac Arloesi. Mae’r is-bwyllgorau’n cyfarfod yn fisol cyn y Bwrdd Gweithredol. Mae hyn yn caniatáu i faterion brys gael eu huwchgyfeirio i’r Bwrdd Gweithredol os oes angen. Mae’r pwyllgorau’n cefnogi’r Bwrdd Gweithredol ac mae ganddynt awdurdod dirprwyedig i wneud penderfyniadau sy’n berthnasol i’r pileri a materion gweithredol o ddydd i ddydd.
Mae gorchwylion ac aelodaeth yr is-bwyllgorau yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd.
Bwrdd Cynghori Gwyddoniaeth APHA
Mae’r bwrdd yn cyfarfod saith gwaith y flwyddyn. Mae’n cefnogi µþ·É°ù»å»åÌý´¡±Ê±á´¡Â a’r Swyddog Cyfrifyddu yn eu cyfrifoldebau o ran goruchwylio a sicrhau gwaith gwyddonol APHA.
Y Cadeirydd yw Laura Green, Cyfarwyddwr Anweithredol. Mae’r aelodau eraill yn cynnwys amrywiaeth o wyddonwyr ac arbenigwyr allanol sy’n gweithio ar wyddoniaeth ac ymchwil milfeddygol a llywodraethol.
Bwrdd Llywodraethu Iechyd a Diogelwch ar y CydÂ
Mae’r Bwrdd yn cyfarfod yn fisol ac mae’n gyfrifol am sicrhau bod APHA yn ceisio codi safonau iechyd a diogelwch yn barhaus. Mae’n goruchwylio’r canlynol: Â
- y gwaith o roi strategaethau iechyd a diogelwch ar y cyd APHA a Defra ar waithÂ
- cyflawni cynlluniau iechyd, diogelwch a llesiant APHAÂ
- cynnal a rheoli seilwaith safle Weybridge Â
Cyd-gadeirir gan Dan Horton (dros dro) a Kath Jones, Cyfarwyddwr Eiddo Grŵp Defra.
Mae’r aelodau yn cynnwys uwch-reolwyr sy’n cynrychioli gwahanol feysydd grŵp Eiddo APHA a Defra.