°Ç¸ç³Ô¹Ï

Skip to main content

Gweithdrefn gwyno

Sut i wneud cwyn i Dŷ’r Cwmnïau am ein lefel o wasanaeth.


Darllenwch y canllawiau am gwblhau gwiriad hunaniaeth yn Nhŷ’r Cwmnïau cyn gwneud cwyn am y broses newydd hon.

 os yw eich cwyn yn ymwneud â gofyniad cyfreithiol neu newid i gyfraith cwmni (ni allwn newid y canlyniad os oes angen i chi wneud rhywbeth yn ôl y gyfraith).

Gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio’r gwasanaeth cywir

Mae prosesau gwahanol ar gyfer:

Nid ydym yn delio â chwynion am hawliau cwsmeriaid am nwyddau neu wasanaethau.

Beth allwch gwyno amdano

Gallwch ond ddefnyddio’r broses hon i gwyno am y lefel o wasanaeth a ddarparwyd gennym. Er enghraifft:

  • yr amser a gymerwyd gennym i gwblhau cais
  • gwasanaeth cwsmeriaid gwael neu gyfathrebu amhroffesiynol
  • cyngor neu ganllawiau anghywir
  • hygyrchedd
  • gwybodaeth anghywir a gyhoeddwyd gennym trwy gamgymeriad

Sut i wneud cwyn

Anfonwch e-bost atom ni er mwyn gwneud cwyn i Dŷ’r Cwmnïau.

Bydd angen i chi nodi’r canlynol:

  • eich enw llawn
  • eich cyfeiriad e-bost dewisol, fel y gallwn gysylltu â chi
  • manylion eich cwyn, gan roi digon o fanylion fel y gallwn ymchwilio (er enghraifft, beth ddigwyddodd a phryd, a beth fyddai’n datrys y broblem)

Efallai y byddai’n ddefnyddiol cynnwys y canlynol:

  • rhif ffôn, os byddai’n well gennych ein bod yn eich ffonio
  • enw a rhif eich cwmni, os yw’n berthnasol
  • unrhyw dystiolaeth i gefnogi eich cwyn

Bydd yr holl wybodaeth yma’n gyfrinachol. Ni fydd ar gael i’r cyhoedd.

Os oes angen cymorth ychwanegol gyda’ch cwyn

Gallwch gysylltu â Thŷ’r Cwmniau a dweud wrthym os oes angen cymorth ychwanegol arnoch gyda’ch cwyn oherwydd cyflwr iechyd neu’ch amgylchiadau personol.

³Ò·É±ð±ô±ð°ùÌýcymorth hygyrchedd ar gyfer defnyddwyr Tŷ’r Cwmniau.

Beth sy’n digwydd pan fyddwch yn gwneud cwyn i Dŷ’r Cwmnïau

Bydd Tŷ’r Cwmnïau yn adolygu eich cwyn. Byddwn yn ymchwilio i’r hyn a ddigwyddodd a’r hyn a ddylai fod wedi digwydd. Gelwir hyn yn adolygiad ‘haen gyntaf’.

Fel arfer, byddwn yn cysylltu â chi o fewn 28 diwrnod ar ôl i’ch cwyn ddod i law. Byddwn yn rhoi gwybod beth yw canlyniad yr adolygiad haen gyntaf a beth yw’r cam nesaf.

Os na allwn roi ymateb llawn o fewn yr amser hwn, byddwn yn rhoi gwybod beth rydym yn ei wneud a phryd y gallwch ddisgwyl ateb llawn. Gallai hyn ddigwydd os oes angen ymchwiliad mwy manwl I’ch cwyn. Byddwn yn rhoi enw cyswllt a rhif cyfeirnod cwyn.

Ni fyddwn yn eich trin yn wahanol i unrhyw un arall oherwydd eich bod wedi gwneud cwyn. Byddwn yn trin eich cwyn yn deg, yn gyfrinachol ac yn ymchwilio i’r materion yn drylwyr.

Os ydych yn anghytuno â chanlyniad yr adolygiad haen gyntaf

Gallwch ofyn am i’ch cwyn gael ei hadolygu am yr eildro. Gelwir hyn yn adolygiad ‘ail haen’.

Bydd y pennaeth cwynion yn adolygu’ch cwyn, yn edrych ar sut y cafodd eich cwyn ei thrin yn yr adolygiad haen gyntaf ac yn rhoi gwybod i chi am y canlyniad.

Mae penderfyniad yr adolygiad ail haen yn derfynol. Ni fyddwch yn gallu gofyn i Dŷ’r Cwmnïau am adolygiad arall.

Os ydych yn anghytuno â chanlyniad yr adolygiad ail haen

Gallwch ofyn i’r beirniaid annibynnol adolygu eich cwyn. Byddwn yn dweud wrthych sut i wneud hyn.

Mae’r gwasanaeth hwn yn rhad ac am ddim ac yn annibynnol o Dŷ’r Cwmnïau.

Dim ond os ydych wedi cael adolygiad haen gyntaf ac ail haen gan Dŷ’r Cwmnïau y gallwch ofyn i’r beirniaid annibynnol edrych ar eich cwyn.

Mae’r beirniaid dim ond yn ymchwilio i gwynion am y canlynol:

  • ein lefel o wasanaeth
  • camgymeriadau a wnaethom
  • ein proses trin cwynion

Mae’n rhaid bod eich cwyn wedi’i gyflwyno yn ystod y 6 mis diwethaf.

Os ydych yn anghytuno â’r beirniaid annibynnol 

Gallwch gyfeirio’ch cwyn at yr .