°Ç¸ç³Ô¹Ï

Skip to main content

Gweithdrefn gwyno

Sut i gwyno am y gwasanaeth a gewch gan yr Adran Gwaith a Phensiynau neu gan sefydliad sy'n darparu ei gwasanaethau.

Pryd i godi pryder neu gŵyn

Gallwch godi pryder neu wneud cwyn os ydych yn anhapus â’r gwasanaeth a ddarparwyd gan DWP, er enghraifft os:

  • mae camgymeriadau wedi’u gwneud
  • roedd oedi afresymol
  • rydych yn teimlo eich bod wedi cael eich trin yn wael
  • nid ydych wedi cael eich hysbysu beth sy’n digwydd

Darllenwch ein safonau gwasanaeth yn ein siarter cwsmeriaid.

Ni fyddwn yn ymchwilio i gwynion:

  • am bolisi y llywodraeth neu’r gyfraith
  • sydd eisoes wedi cael eu hymchwilio neu sy’n cael eu hymchwilio neu sydd ar hyn o bryd gan yr Archwilydd Achosion Annibynnol neu’r Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd
  • am sefydliad sy’n darparu gwasanaethau’r DWP, er enghraifft rhaglenni cyflogaeth neu ddarparwyr asesu iechyd – dylech gysylltu â hwy’n uniongyrchol
  • sydd, neu sydd wedi bod, yn destun achos cyfreithiol, gan gynnwys setliadau cyfreithiol

Herio neu apelio yn erbyn penderfyniad budd-dal

Os ydych am herio neu apelio yn erbyn penderfyniad budd-daliad, penderfyniad gordaliad, asesiad cynhaliaeth plant neu sancsiwn, bydd angen i chi ofyn am ailystyriaeth orfodol.

Os ydych angen rhywun i weithredu ar eich rhan

Gallwch ofyn i rywun arall godi pryder neu wneud cwyn ar eich rhan. Bydd angen i chi eu hawdurdodi i ddelio â DWP ar eich rhan yn gyntaf.

Codi pryder yn uniongyrchol

Os oes gennych bryder am unrhyw agwedd ar y gwasanaeth rydych wedi’i dderbyn, rhowch wybod i’r tîm neu’r maes busnes rydych wedi bod yn delio ag ef cyn gynted â phosibl.

Mae angen i chi roi gwybod iddynt:

  • eich rhif Yswiriant Gwladol – oni bai eich bod yn gyflogwr neu’n landlord
  • eich enw llawn, cyfeiriad a rhifau cyswllt
  • pa fudd-dal neu faes busnes rydych yn codi pryder amdano
  • beth ddigwyddodd, pryd ddigwyddodd a sut yr effeithiodd arnoch chi
  • beth rydych am iddynt ei wneud i wneud pethau’n iawn

Os ydych wedi profi triniaeth annheg, efallai y byddwn yn ystyried:

  • gwneud ymddiheuriad
  • darparu esboniad
  • cymryd camau cywiro
  • gwneud taliad arbennig os gwnaethoch ddioddef yn ariannol

Pwy i gysylltu â hwy

Gallwch gysylltu â’r tîm neu’r maes busnes rydych wedi bod yn delio â hwy dros y ffôn, yn bersonol neu’n ysgrifenedig. Defnyddiwch y manylion cyswllt ar frig unrhyw lythyrau diweddar rydym wedi’u hanfon atoch neu’r manylion cyswllt yn y rhestr isod.

Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, ewch i am fwy o wybodaeth.

Darganfyddwch am gostau galwad.

Mynediad at Waith

Ffôn: 0800 121 7479
(os na allwch glywed na siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 121 7479
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm

Gwasanaeth ‘video relay’ Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
Gwyliwch fideo i wirio y gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth.
Ewch i’r .
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm

Mae’r gwasanaeth ‘video relay’ yn defnyddio ategyn am ddim. Efallai y bydd angen i chi newid y gosodiadau diogelwch ar eich dyfais er mwyn gosod hwn.

Lwfans Gweini

Ffôn: 0800 731 0122
(os na allwch glywed na siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 731 0122
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm

Gwasanaeth ‘video relay’ Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
Gwyliwch fideo i wirio a allwch chi ddefnyddio’r gwasanaeth.

Lwfans Gofalwr

Ffôn: 0800 731 0297
(os na allwch glywed na siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 731 0297
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm

Gwasanaeth ‘video relay’ Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
Gwyliwch fideo i wirio a allwch chi ddefnyddio’r gwasanaeth.
Ewch i’r .
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm

Mae’r gwasanaeth ‘video relay’ yn defnyddio ategyn am ddim. Efallai y bydd angen i chi newid y gosodiadau diogelwch ar eich dyfais er mwyn gosod hwn.

Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant

Ffôn: 0800 171 2345
Llinell Gymraeg: 0800 232 1979
(os na allwch glywed na siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 171 2345

Gwasanaeth ‘video relay’ Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
Gwyliwch fideo i wirio a allwch chi ddefnyddio’r gwasanaeth.
Ewch i’r .
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm

Mae’r gwasanaeth ‘video relay’ yn defnyddio ategyn am ddim. Efallai y bydd angen i chi newid y gosodiadau diogelwch ar eich dyfais er mwyn gosod hwn.

Darganfyddwch am gostau galwadau

Mae rhif ffôn gwahanol os ydych yn byw yng .

Budd-daliadau profedigaeth a marwolaeth

Ffôn: 0800 151 2012
(os na allwch glywed na siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 151 2012
Llinell Gymraeg: 0800 731 0453
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm

Gwasanaeth ‘video relay’ Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
Gwyliwch fideo i wirio a allwch chi ddefnyddio’r gwasanaeth.
Ewch i’r .
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm

Mae’r gwasanaeth ‘video relay’ yn defnyddio ategyn am ddim. Efallai y bydd angen i chi newid y gosodiadau diogelwch ar eich dyfais er mwyn gosod hwn.

Rheoli Dyled

Ffôn: 0800 916 0647
(os na allwch glywed na siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 916 0647
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 7.30pm

Gwasanaeth ‘video relay’ Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
Gwyliwch fideo i wirio a allwch chi ddefnyddio’r gwasanaeth.
Ewch i’r .
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 7.30pm

Mae’r gwasanaeth ‘video relay’ yn defnyddio ategyn am ddim. Efallai y bydd angen i chi newid y gosodiadau diogelwch ar eich dyfais er mwyn gosod hwn.

Darllenwch Safonau gwasanaeth cwsmeriaid Rheoli Dyled.

Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) os cawsoch eich geni ar ôl 8 Ebrill 1948

Ffôn: 0800 121 4600
(os na allwch glywed na siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 121 4600
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm

Gwasanaeth ‘video relay’ Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
Gwyliwch fideo i wirio a allwch chi ddefnyddio’r gwasanaeth.
Ewch i’r .
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm

Mae’r gwasanaeth ‘video relay’ yn defnyddio ategyn am ddim. Efallai y bydd angen i chi newid y gosodiadau diogelwch ar eich dyfais er mwyn gosod hwn.

Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) os cawsoch eich geni ar neu cyn 8 Ebrill 1948

Ffôn: 0800 731 0122
(os na allwch glywed na siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 731 0122
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm

Gwasanaeth ‘video relay’ Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
Gwyliwch fideo i wirio a allwch chi ddefnyddio’r gwasanaeth.
Ewch i’r .
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm

Mae’r gwasanaeth ‘video relay’ yn defnyddio ategyn am ddim. Efallai y bydd angen i chi newid y gosodiadau diogelwch ar eich dyfais er mwyn gosod hwn.

Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA), gan gynnwys ESA Dull Newydd

Ffôn: 0800 169 0310
(os na allwch glywed na siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 169 0310
Llinell Gymraeg: 0800 328 1744
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 5pm

Gwasanaeth ‘video relay’ Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
Gwyliwch fideo i wirio a allwch chi ddefnyddio’r gwasanaeth.
Ewch i’r .
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm

Mae’r gwasanaeth ‘video relay’ yn defnyddio ategyn am ddim. Efallai y bydd angen i chi newid y gosodiadau diogelwch ar eich dyfais er mwyn gosod hwn.

Budd-dal Analluogrwydd

Cymhorthdal Incwm

Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol

Ffôn: 0800 121 8379
(os na allwch glywed na siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 121 8379

Gwasanaeth ‘video relay’ Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
Gwyliwch fideo i wirio a allwch chi ddefnyddio’r gwasanaeth.
Ewch i’r .
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm

Mae’r gwasanaeth ‘video relay’ yn defnyddio ategyn am ddim. Efallai y bydd angen i chi newid y gosodiadau diogelwch ar eich dyfais er mwyn gosod hwn.

Canolfan Byd Gwaith

Anfonwch eich cwyn drwy’r post i’ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith lleol. Darganfyddwch eich .

Lwfans Ceisio Gwaith (JSA), gan gynnwys JSA Dull Newydd

Gwneud .

Ffôn: 0800 169 0310
(os na allwch glywed na siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 169 0310
Llinell Gymraeg: 0800 328 1744
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 5pm

Gwasanaeth ‘video relay’ Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
Gwyliwch fideo i wirio a allwch chi ddefnyddio’r gwasanaeth.
Ewch i’r .
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 5pm

Mae’r gwasanaeth ‘video relay’ yn defnyddio ategyn am ddim. Efallai y bydd angen i chi newid y gosodiadau diogelwch ar eich dyfais er mwyn gosod hwn.

Lwfans Mamolaeth

Ffôn: 0800 169 0283
(os na allwch glywed na siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 169 0283

Gwasanaeth ‘video relay’ Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
Gwyliwch fideo i wirio a allwch chi ddefnyddio’r gwasanaeth.
Ewch i’r .
Dydd Llun i ddydd Gwener, 10am i 3pm

Llinell Gymraeg: 0800 169 0296
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm

Mae’r gwasanaeth ‘video relay’ yn defnyddio ategyn am ddim. Efallai y bydd angen i chi newid y gosodiadau diogelwch ar eich dyfais er mwyn gosod hwn.

Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)

Ffôn: 0800 121 4433
(os na allwch glywed na siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 121 4433
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm

Gwasanaeth ‘video relay’ Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
Gwyliwch fideo i wirio a allwch chi ddefnyddio’r gwasanaeth.
Ewch i’r .
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm

Mae’r gwasanaeth ‘video relay’ yn defnyddio ategyn am ddim. Efallai y bydd angen i chi newid y gosodiadau diogelwch ar eich dyfais er mwyn gosod hwn.

Pensiwn y Wladwriaeth a’r Gwasanaeth Pensiwn

Ffôn: 0800 731 0469
(os na allwch glywed na siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 731 0469
Llinell Gymraeg: 0800 731 0453
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm

Gwasanaeth ‘video relay’ Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
Gwyliwch fideo i wirio a allwch chi ddefnyddio’r gwasanaeth.
Ewch i’r .
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 3pm

Mae’r gwasanaeth ‘video relay’ yn defnyddio ategyn am ddim. Efallai y bydd angen i chi newid y gosodiadau diogelwch ar eich dyfais er mwyn gosod hwn.

Os ydych dramor, cysylltwch â’r Ganolfan Bensiwn Ryngwladol.

Cronfa Gymdeithasol

Ffôn: 0800 169 0140
(os na allwch glywed na siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 169 0140

Gwasanaeth ‘video relay’ Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
Gwyliwch fideo i wirio a allwch chi ddefnyddio’r gwasanaeth.
Ewch i’r .
Dydd Llun i ddydd Gwener, 10am i 3pm

Mae’r gwasanaeth ‘video relay’ yn defnyddio ategyn am ddim. Efallai y bydd angen i chi newid y gosodiadau diogelwch ar eich dyfais er mwyn gosod hwn.

Credyd Cynhwysol

Gallwch godi pryder am Gredyd Cynhwysol ar-lein drwy:

Llinell gymorth Credyd Cynhwysol

Ffôn: 0800 328 5644
(os na allwch glywed na siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 328 5644
Llinell Gymraeg: 0800 328 1744
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm

Gwasanaeth ‘video relay’ Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
Gwyliwch fideo i wirio a allwch chi ddefnyddio’r gwasanaeth.
Ewch i’r .
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 8pm

Mae’r gwasanaeth ‘video relay’ yn defnyddio ategyn am ddim. Efallai y bydd angen i chi newid y gosodiadau diogelwch ar eich dyfais er mwyn gosod hwn.

Gwiriwch a allwch ddefnyddio’r Gwasanaeth ‘video relay’

Mae’r gwasanaeth ‘video relay’ yn defnyddio ategyn am ddim. Efallai y bydd angen i chi newid y gosodiadau diogelwch ar eich dyfais er mwyn gosod hwn.

Gofyn i’ch pryder fynd i’r tîm cwynion

Gallwch ofyn i’ch pryder gael ei adolygu gan dîm cwynion y DWP os:

  • rydych yn anhapus â’r ymateb o’r maes busnes rydych wedi bod yn delio â hwy i ddechrau
  • nid yw eich pryder wedi’i ddatrys yn llawn

Bydd aelod o’n tîm cwynion yn cysylltu â chi i drafod eich cwyn yn fanylach. Byddant yn ymchwilio i’r gŵyn ac yn anelu at ei datrys o fewn 15 diwrnod gwaith. Os bydd yr ymchwiliad yn cymryd mwy na 15 diwrnod, bydd y rheolwr datrys cwynion yn eich diweddaru ac yn dweud wrthych pryd y gallwch ddisgwyl ymateb.

Byddwch yn derbyn ymateb terfynol dros y ffôn neu drwy lythyr gan dîm cwynion y DWP. Bydd hyn yn dweud wrthych beth yw canlyniad eich cwyn. Os byddwch angen yr ymateb terfynol mewn ffurf arall, rhowch wybod i ni yn ystod eich galwad gychwynnol gyda’r tîm cwynion. Byddwn yn rhoi gwybod i chi os bydd eich ffurf ddewisol yn arwain at unrhyw oedi.

Os ydych wedi profi triniaeth annheg, efallai y byddwn yn ystyried:

  • gwneud ymddiheuriad
  • darparu esboniad
  • cymryd camau cywiro
  • gwneud taliad arbennig os gwnaethoch ddioddef yn ariannol

Dywedir wrthych hefyd sut i gysylltu â’r Archwilydd Achosion Annibynnol (ICE) os ydych yn dal i fod yn anfodlon.

Cysylltwch â’r Archwilydd Achosion Annibynnol (ICE)

Rhaid i chi fod wedi derbyn ymateb terfynol gan dîm cwynion y DWP cyn y gallwch gysylltu â’r Archwilydd Achosion Annibynnol.

Os nad ydych yn hapus â’r ymateb terfynol gan dîm cwynion DWP, gallwch ofyn i’r Archwilydd Achosion Annibynnol edrych ar eich cwyn.

Rhaid i chi gysylltu â hwy o fewn 6 mis ar ôl derbyn yr ymateb terfynol gan DWP. Bydd manylion sut i wneud hyn yn cael eu hegluro yn eich ymateb gan y tîm cwynion. Efallai y bydd yr Archwilydd Achosion Annibynnol yn gofyn am weld copi o’ch ymateb terfynol, os gwnaethoch ei dderbyn trwy lythyr.

Darganfyddwch sut i gysylltu â’r Archwilydd Achosion Annibynnol.

Cysylltu ag Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd (PHSO)

Os nad ydych yn hapus â’r ymateb terfynol gan yr Archwilydd Achosion Annibynnol, gallwch ofyn i AS gyfeirio eich cwyn at yr Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd.

Rhaid i chi gysylltu â hwy o fewn 12 mis ar ôl derbyn yr ymateb terfynol gan yr ICE. Bydd manylion sut i wneud hyn yn cael eu hegluro yn eich ymateb gan yr Archwilydd Achosion Annibynnol. Efallai y bydd yr Ombwdsmon Seneddol y Gwasanaeth Iechyd yn gofyn am weld copi o’ch ymateb terfynol, os gwnaethoch ei dderbyn drwy lythyr.

Darganfyddwch sut i .

Cwynion am yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP)

Os ydych angen ysgrifennu atom am gŵyn am DWP nad yw’n gysylltiedig â’r gwasanaeth rydych wedi’i dderbyn, ysgrifennwch at:

DWP Complaints
Post Handling Site B
Wolverhampton
WV99 2GY