°Ç¸ç³Ô¹Ï

Skip to main content

Polisi dogfennau hygyrch

Mae’r polisi hwn yn cwmpasu hygyrchedd dogfennau a ddarperir gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.


Mae’r polisi hwn yn esbonio pa mor hygyrch yw’r dogfennau y mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn eu cyhoeddi ar °Ç¸ç³Ô¹Ï. Mae’n cynnwys dogfennau PDF, taenlenni, cyflwyniadau a mathau eraill o ddogfennau.

Nid yw’n cyfeirio at gynnwys a gyhoeddir ar °Ç¸ç³Ô¹Ï fel HTML. Bydd prif ddatganiad hygyrchedd °Ç¸ç³Ô¹Ï yn ymdrin â hynny.

Defnyddio ein dogfennau

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn cyhoeddi dogfennau mewn ystod o fformatau, gan gynnwys dogfennau PDF a Word. Rydyn ni’n awyddus i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio’r dogfennau hynny.

Er enghraifft, pan fyddwn ni’n llunio dogfen, rydyn ni’n sicrhau ein bod yn:

  • darparu dewis HTML lle bo hynny’n bosibl
  • tagio penawdau a rhannau eraill o’r ddogfen yn iawn, fel y gall darllenwyre sgrin ddeall strwythur y dudalen
  • cynnwys testun amgen ochr yn ochr â delweddau nad ydyn nhw’n rhai addurniadol, fel bod pobl nad ydyn nhw’n gallu eu gweld yn deall pam maen nhw yno
  • osgoi defnyddio tablau, ac eithrio pan fyddwn ni’n cyflwyno data
  • ysgrifennu mewn Cymraeg a Saesneg clir

Pa mor hygyrch yw ein dogfennau

Dylai dogfennau newydd rydyn ni’n eu cyhoeddi a dogfennau y mae angen i chi eu lawrlwytho neu eu llenwi i gael mynediad at un o’r gwasanaethau rydyn ni’n eu darparu, fod yn gwbl hygyrch.

Fodd bynnag, rydyn ni’n gwybod nad yw rhai o’n dogfennau hŷn (a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018) yn hygyrch.

Er enghraifft, nid yw rhai ohonynt:

  • wedi’u tagio’n iawn – er enghraifft, nid ydyn nhw’n cynnwys penawdau priodol
  • wedi’u hysgrifennu mewn Saesneg clir

Mae hyn yn berthnasol yn bennaf i’n dogfennau tryloywder. Mae’r mathau hyn o ddogfennau wedi’u heithrio o’r rheoliadau, felly nid oes gennym ni unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i’w gwneud yn hygyrch.

Ond os oes angen i chi gyrchu gwybodaeth o un o’r mathau hyn o ddogfennau, gallwch chi gysylltu â ni a gofyn am fformat arall.

Cais am fformat hygyrch

Os na allwch chi gael mynediad at wybodaeth ar ei fformat presennol oherwydd anghenion hygyrchedd, anabledd, cyflwr iechyd, amhariad, neu oherwydd eich bod chi’n defnyddio technoleg gynorthwyol, gallwch chi ofyn am fformat gwahanol a hygyrch.

Er enghraifft:

  • print bras
  • Braille
  • sain
  • Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
  • fformatau sy’n gweithio gyda darllenwyr sgrin a thechnolegau cynorthwyol eraill

Efallai na fydd gofyn am gynllun gwahanol, cyfeiriad tudalen, arddull cyflwyno neu hoff ddewis o ran math o ffeil ar ei ben ei hun yn ddigon i gyfrif fel cais am fformat hygyrch, ac efallai na chewch chi ymateb.

Os oes angen dogfen arnoch rydyn ni wedi’i chyhoeddi mewn fformat hygyrch:

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gydag un o’n dogfennau

Rydyn ni bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd ein dogfennau. Os byddwch chi’n dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydyn nhw wedi’u rhestru ar y dudalen hon, neu os ydych chi o’r farn nad ydyn ni’n bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni drwy:

Gweithdrefn orfodi

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’).

Os nad ydych chi’n hapus â’r ffordd rydyn ni’n ymateb i’ch cwyn, .

Os ydych chi yng Ngogledd Iwerddon ac nad ydych chi’n hapus â’r ffordd rydyn ni wedi ymateb i’ch cwyn, gallwch chi gysylltu â sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 ( y ‘rheoliadau hygyrchedd’) yng Ngogledd Iwerddon.

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd ein dogfennaus

Rydyn ni ymrwymo i wneud ein dogfennau’n hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Mae’r dogfennau rydyn ni’n eu cyhoeddi yn cydymffurfio’n llawn â safon AA fersiwn 2.1 y Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe.

Baich anghymesur

Ar yr adeg hon, nid ydyn ni wedi gwneud unrhyw honiadau am faich anghymesur.

Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni drwsio ffeiliau PDF neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydyn nhw’n hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau.

Er enghraifft, nid ydyn ni’n bwriadu trwsio adroddiad blynyddol a chyfrifon yr Asiantaeth Safonau Bwyd 2012 i 2013 ar gyfer San Steffan.

Bydd unrhyw ddogfennau PDF neu Word newydd a gyhoeddwn yn bodloni safonau hygyrchedd.

Sut gwnaethon ni brofi ein dogfennau

Fe wnaethon ni brofi sampl o’n dogfennau ddiwethaf ar 4 Medi 2020. Cynhaliwyd y prawf hwn gan staff y sefydliad. Rydyn ni’n defnyddio’r lefel A a lefel AA Fersiwn 2.1 y Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys i brofi pa mor hygyrch yw cynnwys.

Fe wnaethon ni brofi dogfennau PDF. Fe wnaethon ni benderfynu profi’r math hwn o ddogfen oherwydd, ar wahân i HTML, dyma’r fformat dogfen a ddefnyddir amlaf wrth i’r ASB gyhoeddi ar-lein.

Ein gwaith i wella hygyrchedd

Mae’r ASB wedi ymrwymo i:

  • ddiweddaru dogfennau hÅ·n i fod yn hygyrch
  • sicrhau bod dogfennau newydd yn hygyrch cyn eu cyhoeddi
  • cyhoeddi dogfennau yn HTML lle bo hynny’n bosibl, yn hytrach na PDF
  • hyfforddi staff i sicrhau eu bod yn ymwybodol o bwysigrwydd hygyrchedd, a sut i wneud eu dogfennau’n hygyrch

Paratowyd y dudalen hon ar 1 Hydref 2020.