ǸԹ

Skip to main content
Aelod anweithredol o'r bwrdd, IPO

Harriet Kelsall

Bywgraffiad

Mae Harriet Kelsall yn un o’r dylunwyr pwrpasol ac arloeswyr busnes mwyaf uchel ei barch sy’n gweithio yn niwydiant gemwaith y DU heddiw. Sefydlodd hi ei busnes arobryn o fwrdd ei chegin ym 1998 ac yna dechreuodd ymgyrch i ddod â chynllun gemwaith pwrpasol cyraeddadwy i’r stryd fawr am y tro cyntaf. Hi oedd “Menyw Busnes Manwerthu y Flwyddyn” i Forward Ladies HSBC yn 2016, “Menyw Fanwerthu’r Flwyddyn” Everywoman yn 2011, un o chwe “menyw sydd wedi newid y byd busnes fwyaf” yng nghylchgrawn Sefydliad y Cyfarwyddwyr yn 2014 ac mae’n Rhyddfreiniwr y Cwmni Anrhydeddus o Eurofaint a Dinas Llundain (Worshipful Company of Goldsmiths and the City of London).

Ar ôl gorffen ei thymor fel cadeirydd Cymdeithas Genedlaethol y Gemwyr yn 2020, hi bellach yw’r dirprwy gadeirydd. Mae hi wedi bod yn gyfarwyddwr anweithredol i Gyngor Dilysnodi Prydain ers 2016 a chynghorodd yr Academi Sgiliau Creadigol a Diwylliannol ar sgiliau gemwaith o 2012-2018. Roedd hi’n Gyfarwyddwr Anweithredol y Cyngor Gemwaith Cyfrifol Rhyngwladol o 2016-2019.

Mae Harriet yn frwd dros helpu busnesau creadigol i ffynnu a’i llyfr ar y pwnc a enillodd yng Ngwobrau Llyfr Busnes y Flwyddyn 2019. Mae hi’n brif siaradwr rheolaidd ar ddechrau a thyfu busnesau creadigol a manteision dyslecsia ac mae hi’n siarad yn genedlaethol ac yn rhyngwladol am fusnes cyfrifol. Mae Harriet yn byw yng Nghaergrawnt ac mae ganddi 2 blentyn.

Aelod anweithredol o'r bwrdd, IPO

ô ein Bwrdd Llywio yw cynghori Gweinidogion, trwy ein Cyfarwyddwr Cyffredinol, ar ein strategaethau a’n perfformiad (gan gynnwys targedau) fel y nodir yn ein Cynllun Corfforaethol. Mae hefyd yn rhoi arweiniad o safbwynt masnachol ar ein gweithrediad a’n datblygiad ar draws ystod o faterion. 

Yn ystod y 12 mis diwethaf, mae’r Bwrdd Llywio wedi darparu cyngor ac arweiniad ar ystod eang o bynciau, megis ein Cynllun Corfforaethol, Targedau Asiantaeth, Polisi Eiddo Deallusol, Cyfrifon a Rheoli Risg. 

Mae’r Bwrdd Llywio yn cyfarfod chwe gwaith y flwyddyn.

Intellectual Property Office