°Ç¸ç³Ô¹Ï

Skip to main content

The Rt Hon Lord Keen of Elie KC

Bywgraffiad

Penodwyd Richard Keen CF yn Adfocad Cyffredinol yr Alban ym mis Mai 2015. Daeth hefyd yn lefarydd dros fusnes y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn Nhŷ’r Arglwyddi ym mis Gorffennaf 2016.

Addysg

Aeth Richard i Ysgol King’s, Rochester a’r Dollar Academy, cyn mynd ymlaen i astudio’r gyfraith ym Mhrifysgol Caeredin.

Ei yrfa wleidyddol

Ym mis Tachwedd 2013, cyhoeddwyd y byddai Richard yn cael ei benodi’n gadeirydd newydd plaid Geidwadol yr Alban, a chymerodd le David Mundell AS yn y rôl hon ar 1 Ionawr 2014.

Parhaodd Richard yn gadeirydd hyd ei benodiad yn Adfocad Cyffredinol yr Alban ym mis Mai 2015, ac ymddiswyddodd o ganlyniad i hynny.

Gwasanaethodd Richard fel Llefarydd yr Arglwyddi i’r Swyddfa Gartref o fis Ebrill hyd fis Gorffennaf 2016.

Ei yrfa y tu allan i wleidyddiaeth

Wedi iddo gael lle yn y gyfadran, roedd Richard yn gwnsler iau sefydlog i’r Adran Masnach a Diwydiant yn yr Alban o 1986 hyd 1993, a chafodd ei benodi’n Gwnsler y Frenines yn 1993. Mae wedi gwasanaethu fel Cadeirydd Pwyllgor Apeliadau Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig yr Alban (2000-2004) ac fel Cadeirydd Tribiwnlys Apeliadau’r Heddlu.

Mae Richard wedi derbyn cyfarwyddyd rheolaidd yn y Llys Masnach, yn y TÅ· Mewnol (y Llys Apeliadau yn yr Alban) ac yng Ngoruchaf Lys y Deyrnas Unedig mewn amrywiaeth o achosion Cyfraith Gyhoeddus a Chyfraith Fasnach. Etholwyd Richard yn Ddeon y Gyfadran Adfocadau (arweinydd Bar yr Alban) yn 2007 a gwasanaethodd fel Deon hyd 2014.

Daeth yn aelod o Far Cymru a Lloegr yn 2009 a chafodd ei ethol yn Feinciwr Cymdeithas Anrhydeddus y Deml Ganol yn 2011.

Bywyd personol

Mae Richard yn byw yng Nghaeredin ac yn briod gyda dau o blant, mab a merch.

Rhagor o fanylion am yr unigolyn hwn.