Datganiad hygyrchedd ar gyfer gwefan y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd
Cyhoeddwyd 11 Medi 2020
Yn berthnasol i Loegr, Gogledd Iwerddon a Chymru
Mae’r wefan hon yn cael ei chynnal gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB). Rydym yn awyddus i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech chi allu:
- newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
- chwyddo hyd at 400% heb i’r testun ddisgyn oddi ar y sgrin
- llywio drwy’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
- gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i’w ddeall.
Pa mor hygyrch yw’r wefan hon?
Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch. Gallwch weld rhestr lawn o unrhyw faterion yr ydym yn gwybod amdanynt ar hyn o bryd yn adran ‘Cynnwys nad yw’n hygyrch’ y datganiad hwn.
Adborth a gwybodaeth gyswllt
Os oes angen gwybodaeth arnoch chi am y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, fersiwn hawdd ei darllen, recordiad sain neu braille:
- Anfonwch e-bost i:fsa.communications@food.gov.uk
- Ffoniwch ein Llinell Gymorth: 0330 332 7149 (ar agor o 9.00 tan 17.00, o ddydd Llun i ddydd Gwener)
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r wefan hon
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch chi’n dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon, neu os ydych chi o’r farn nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni:
- E-bost:fsa.communications@food.gov.uk
- Llinell gymorth: 0330 332 7149 (ar agor o 9.00 tan 17.00, o ddydd Llun i ddydd Gwener)
Gweithdrefn orfodi
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych chi’n hapus â’r ffordd rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r.
Os ydych chi yng Ngogledd Iwerddon ac nad ydych chi’n hapus â’r ffordd rydym wedi ymateb i’ch cwyn, gallwch chi gysylltu â sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’) yng Ngogledd Iwerddon.
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae’r ASB wedi ymrwymo i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfio
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA, oherwydd y rhannau nad ydynt yn cydymffurfio a’r eithriadau a restrir isod.
Cynnwys nad yw’n hygyrch
Mae’r cynnwys a restrir isod yn anhygyrch am y rhesymau canlynol.
Ddim yn cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd
Mapiau ar-lein
Mae’r rheolaethau ar gyfer y gydran “Mapiau Bing” ar y dudalen Canlyniadau Chwilio yn methu WCAG 2.4.3 Gorchymyn Ffocws (A), 2.1.1 Bysellfwrdd (A), a 4.1.2 Enw, Rôl, Gwerth (A). Nid ydym yn bwriadu trwsio hyn ar hyn o bryd. Gweler hefyd y cyfeiriad at “Mapiau ar-lein” yn yr adran “Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd”.
Os byddwch yn dod o hyd i broblem nad ydym wedi’i nodi eto, cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o’r llwybrau a ddisgrifir yn yr adran ‘Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r wefan hon’ yn y datganiad hwn.
Baich anghymesur
Ar yr adeg hon, nid ydym wedi gwneud unrhyw honiadau am faich anghymesur.
Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd
Mapiau ar-lein
Mae ein gwasanaeth yn cynnwys defnyddio mapiau ar-lein i ddangos gwybodaeth ddaearyddol benodol, fel lleoliadau busnesau, ar y dudalen canlyniadau chwilio. Ni ddefnyddir y rhain at ddiben cael pen ffordd ac maent wedi’u heithrio o dan y rheoliadau. Mae lleoliad busnesau ar gael mewn fformat testun hygyrch ar yr un dudalen. Os oes angen yr wybodaeth a gyflwynir ar fap ar-lein arnoch mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni i drafod addasiadau rhesymol.
Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn ar 19 Medi 2024 ac fe’i hadolygwyd ddiwethaf ar 19 Medi 2024.
Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 9 Chwefror 2024. Cynhaliwyd y prawf gan y Ganolfan Hygyrchedd Digidol.
Gwnaethom brofi’r gwasanaeth yn seiliedig ar allu defnyddiwr i gwblhau teithiau allweddol. Dewiswyd teithiau ar sail nifer o ffactorau gan gynnwys ystadegau defnydd, asesiadau risg a chynnwys.