°Ç¸ç³Ô¹Ï

Skip to main content
Canllawiau

Rhestr wirio alergenau ar gyfer busnesau bwyd

Cyhoeddwyd 13 Mawrth 2025

Yn berthnasol i Loegr, Gogledd Iwerddon a Chymru

Mae gennych chi a’ch staff rôl bwysig i’w chwarae wrth ddiogelu pobl ag alergeddau bwyd. Mae eich ymateb chi yn bwysig.ÌýCodwch eich llais dros alergeddau.

²Ñ²¹±ðÌý y mae’n rhaid i fusnesau bwyd eu bodloni os ydyn nhw’n gweithredu yn y Deyrnas Unedig (DU). Mae’r rhestr wirio hon yn rhoi gair o gyngor ar sut y gall eich busnes fodloni’r gofynion hynny.  

Bydd dilyn y rhestr wirio hon yn helpu’ch busnes i ddarparu prydau diogel i gwsmeriaid ag alergeddau neu anoddefiadau bwyd. Argymhellir rhannu’r rhestr wirio hon â staff a rheolwyr. Gellir defnyddio’r rhestr wirio ar y cyd â’n hyfforddiant alergedd bwyd am ddim.Ìý

Rhestr wirio alergenau ar gyfer rheolwyr

  • A ydych chi wedi egluro i’r tîm pwy sydd â’r cyfrifoldeb cyffredinol am reoli alergenau?
  • A oes aelod cyfrifol o staff ar gael ar bob shifft i reoli ceisiadau gan gwsmeriaid ag alergeddau? 
  • Os ydych chi’n defnyddio arwydd sy’n gofyn i gwsmeriaid holi am alergenau, a yw hwn yn cael ei arddangos yn amlwg mewn man lle mae cwsmeriaid yn gwneud eu dewisiadau bwyd? Mae gennym ni  y gallwch ei arddangos.
  • A yw staff yn deall yn glir sut i osgoi croeshalogi alergenau?
  • A yw staff y gegin yn gwybod sut i gofnodi alergenau pan fydd ryseitiau’n cael eu newid ac wrth bwy i adrodd hyn?
  • A oes gweithdrefnau ar waith wrth gael dosbarthiadau cynhwysion, i wirio eich bod wedi cael yr eitemau rydych wedi’u harchebu?
  • Os oes unrhyw newidiadau i’r cynhwysion yn eich archeb reolaidd (er enghraifft amnewidiadau), a oes gennych chi weithdrefn ar waith i gymeradwyo, cofnodi ac adrodd ar hyn?
  • A oes gweithdrefnau clir a staff penodedig ar gyfer diweddaru gwybodaeth ysgrifenedig am alergenau os bydd ryseitiau neu gynhwysion yn newid?
  • A oes cyfarwyddiadau clir ar waith ar gyfer glanhau’r safle, yr offer a’r offer gwaith? 

Gallech chi hefyd

  • sicrhau bod gennych chi ddatganiad ar fwydlenni a thaflenni wedi’u hargraffu i roi gwybod i gwsmeriaid sut i gael gwybodaeth am alergenau ar gyfer eich prydau
  • cofio annog cwsmeriaid i wneud staff yn ymwybodol o unrhyw ofynion alergenau sydd ganddynt a chael sgwrs am y gofynion hyn wrth gymryd archebion. Gallai hyn fod trwy ofyn i gwsmeriaid, arddangos arwyddion neu’r ddau
  • sicrhau bod staff wedi’u hyfforddi’n ddigonol i  am alergenau a’u bod yn gwybod ble i ddod o hyd i’r wybodaeth sydd ei hangen arnynt i allu rhoi gwybodaeth gywir i’r defnyddiwr

  • rhoi cyfarwyddiadau yn ardal y gegin i egluro sut i atal croeshalogi
  • gofyn i staff y gegin ddefnyddio matrics alergenau wrth gynllunio ryseitiau
  • darparu hyfforddiant addas i staff ar alergenau a gorsensitifrwydd i fwyd yn flynyddol, er mwyn iddynt ddeall yn llawn ganlyniadau posib darparu gwybodaeth anghywir – a allai fygwth bywyd
  • gwneud yn siŵr bod staff yn ymwybodol o beth i’w wneud os bydd cwsmer yn cael adwaith alergaidd yn ystod pryd bwyd

Rhestr wirio alergenau ar gyfer staff cegin

Storio bwyd

  • A yw cynhwysion yn cael eu storio mewn cynwysyddion wedi’u selio a’u labelu? 
  • Os ydych chi’n trosglwyddo cynhwysion o’u deunydd pecynnu gwreiddiol, a oes gennych chi ffordd o adnabod yr alergenau sy’n bresennol yn y cynnyrch? 
  • A yw deunydd pecynnu cynhwysion agored yn cael eu storio mewn cynwysyddion wedi’u selio lle bo hynny’n briodol?
  • A oes gennych chi bolisi gollwng i ddelio ag achosion pan fydd un cynhwysyn yn cael ei ollwng ar gynhwysyn arall?

Mannau paratoi bwyd

  • A oes gennych chi restrau ryseitiau cywir, fel bod rhestr glir o’r alergenau sy’n bresennol yn y bwyd rydych chi’n ei weini?
  • A oes gennych chi negeseuon atgoffa ar waith i ddiweddaru cofnodion ac adrodd amdanynt pan fyddwch yn gwneud newidiadau i rysáit?
  • Ydych chi’n golchi’ch dwylo’n drylwyr â sebon a dŵr poeth wrth baratoi prydau heb alergenau? 
  • Pan ddaw archeb gan gwsmer sydd ag alergedd, a oes gennych chi broses glir ar waith i sicrhau y gellir paratoi’r bwyd yn ddiogel a’i weini i’r cwsmer cywir? 
  • Ydych chi’n ymwybodol o’r alergenau mewn garneisiau, topins neu sawsiau fel y gallwch chi osgoi eu defnyddio?
  • Ydych chi’n glanhau arwynebau cegin yn rheolaidd fel nad oes gweddillion bwyd na briwsion gweladwy o brydau bwyd eraill?

Rhestr wirio alergenau ar gyfer staff sy’n gweini 

  • Oes gennych chi ffordd effeithiol o roi gwybod yn gywir i gwsmeriaid am yr alergenau yn y prydau ar eich bwydlen? Mae gennym adnoddau i’ch helpu.
  • Ydych chi’n cyfleu risgiau croeshalogi i gwsmeriaid ag alergeddau neu anoddefiadau bwyd?
  • A oes gennych chi wybodaeth ysgrifenedig gywir y gallwch chi gyfeirio ati pan ofynnir i chi am alergenau neu a ydych chi’n gwybod at bwy i gyfeirio ceisiadau gwybodaeth am alergenau?
  • Sut rydych chi’n cofnodi archeb cwsmer sy’n gofyn am bryd heb alergenau ac yn cyfleu hyn yn glir i staff y gegin?
  • Ydych chi’n ymwybodol o’r hyn y dylech ei wneud os yw cwsmer yn profi adwaith alergaidd yn ystod pryd bwyd? I gael mwy o wybodaeth, darllenwch .Ìý

Rhestr wirio alergenau ar gyfer archebion dosbarthu a bwyd tecawê

´¡°ù³¦³ó±ð²ú¾±´Ç²ÔÌý

  • A yw staff yn ymwybodol o sut i gymryd archebion â gofynion alergeddau penodol dros y ffôn neu ar-lein?
  • A oes gennych chi ddatganiad ar eich gwefan i gynghori cwsmeriaid lle gallant gael gwybodaeth am alergenau cyn iddynt fynd ati i archebu?
  • A yw eich gwybodaeth am alergenau ar-lein yn glir, yn gywir ac yn hygyrch ar yr adeg pan fydd cwsmeriaid yn archebu bwyd? 
  • Os ydych chi’n darparu bwyd trwy safle archebu ar-lein, a ydych chi’n dilyn eu gofynion ar gyfer darparu gwybodaeth am alergenau?

Dosbarthu bwyd

  • A ydych wedi cael gwared ar risgiau croeshalogi posibl wrth ddosbarthu’r archeb o’ch busnes i’r cwsmer?
  • Pan fydd y cwsmer yn cael yr archeb, a yw’n glir pa un yw’r pryd heb alergenau? (Gallwch chi ddefnyddio sticeri neu nodyn ar y cynhwysydd mewn marciwr parhaol i labelu pob pryd).

Arwyddion Alergeddau ac Anoddefiadau Bwyd