°Ç¸ç³Ô¹Ï

Skip to main content
Canllawiau

Ychwanegion bwyd anifeiliaid

Cyhoeddwyd 8 Rhagfyr 2017

Yn berthnasol i Loegr, Gogledd Iwerddon a Chymru

Mae ychwanegion bwyd yn sylweddau, yn ficro-organebau neu’n baratoadau (ar wahân i ddeunydd bwyd anifeiliaid a rhag-gymysgeddau neu ‘premixtures’) sy’n cael eu hychwanegu’n fwriadol at fwyd anifeiliaid neu ddŵr er mwyn cyflawni un neu ragor o’r swyddogaethau penodol fel yr amlinellir isod. 

Mae ychwanegion bwyd anifeiliaid yn gynhyrchion sydd wedi’u hawdurdodi at ddibenion penodol mewn bwyd anifeiliaid, er enghraifft:

  • bodloni gofynion maethol yr anifeiliaid
  • gwella ansawdd bwyd anifeiliaid, ansawdd bwyd sy’n dod o anifeiliaid (er enghraifft cig, pysgod, llaeth, wyau)
  • gwella perfformiad ac iechyd yr anifeiliaid

Mae ychwanegion bwyd anifeiliaid yn  sy’n golygu:

  • dim ond os ydynt wedi’u hawdurdodi i’w defnyddio y gellir eu rhoi ar y farchnad 
  • mai dim ond at y diben a nodir yn yr awdurdodiad y gellir eu defnyddio

²Ñ²¹±ðÌý yr Undeb Ewropeaidd (UE) a gymathwyd yn amlinellu:

  • rheolau ar 
  • amodau defnyddio ar gyfer ychwanegion
  • darpariaethau ar labelu ychwanegion bwyd anifeiliaid a’u rhag-gymysgeddau y mae’n rhaid cadw atynt

Cofrestr o ychwanegion bwyd anifeiliaid

Mae’r ASB yn cadw cofrestr sy’n adlewyrchu’n gywir statws awdurdodi ychwanegion bwyd anifeiliaid fel y’i pennir gan yr awdurdod priodol (gweinidogion) yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. ²Ñ²¹±ð’rÌý yn rhestru’r ychwanegion bwyd anifeiliaid y caniateir eu defnyddio ym Mhrydain Fawr ac yn cyfeirio at eu telerau awdurdodi.  yw’r sail gyfreithiol ar gyfer defnyddio ychwanegion bwyd anifeiliaid unigol.

Categorïau ychwanegion bwyd anifeiliaid

Mae’r rheoliad yn cwmpasu’r categorïau ychwanegion bwyd anifeiliaid canlynol (gydag enghreifftiau o’u grwpiau swyddogaethol):

  • ychwanegion technolegol (fel cyffeithyddion neu ‘preservatives’)
  • ychwanegion synhwyraidd (fel cyflasynnau (‘flavourings’) a lliwiau)
  • ychwanegion maeth (fel fitaminau a mwynau)
  • ychwanegion sootechnegol (fel ensymau a micro-organebau a ddefnyddir i effeithio’n gadarnhaol ar berfformiad anifeiliaid iach)
  • cocsidiostatau a histomonostatau (i reoli parasitiaid perfedd)

Yn flaenorol, roedd defnyddio gwrth-fiotigau fel ychwanegion bwyd anifeiliaid yn cael ei ganiatáu. Bellach, mae’r defnydd ohonynt wedi’i wahardd, ac eithrio cocsidiostatau a histomonostatau.

Awdurdodi ychwanegion bwyd anifeiliaid

Mae ein  yn darparu gwybodaeth am broses awdurdodi a gofynion ymgeisio ar gyfer ychwanegion bwyd anifeiliaid. Mae’r broses hon yn cynnwys gwerthusiad o’r dull(iau) dadansoddi a chyflwyno coflen (‘dossier’) er mwyn dadansoddi risg.

Mewnforion, allforion a symud ychwanegion bwyd anifeiliaid

Rhaid i farchnata ychwanegion bwyd anifeiliaid, rhag-gymysgeddau a’r rhai sydd wedi’u hymgorffori mewn bwyd anifeiliaid gadw at y meini prawf awdurdodi ym Mhrydain Fawr fel y nodir yng nghyfraith yr UE a gymathwyd.

Rhaid i farchnata ychwanegion bwyd anifeiliaid, rhag-gymysgeddau a’r rhai sydd wedi’u hymgorffori mewn bwyd anifeiliaid yng Ngogledd Iwerddon gadw at y meini prawf awdurdodi o dan ddeddfwriaeth yr UE. 

²Ñ²¹±ð’rÌý yn darparu gwybodaeth am fasnachu bwyd anifeiliaid rhwng Prydain Fawr, Gogledd Iwerddon, yr UE a thrydydd gwledydd eraill (y tu allan i’r UE) ar ôl 31 Rhagfyr 2020.

Mae gofynion pellach wedi’u nodi ar gyfer .

Tynnu ychwanegion bwyd anifeiliaid yn ôl

Gellir tynnu ychwanegion bwyd anifeiliaid yn ôl o’r farchnad am nifer o resymau, er enghraifft, gan nad oedd cais newydd wedi’i gyflwyno, oherwydd pryderon diogelwch, neu oherwydd bod y cynnyrch wedi’i ddisodli gan ychwanegion bwyd anifeiliaid newydd. Gweler  i weld yr ychwanegion bwyd anifeiliaid awdurdodedig diweddaraf i’w tynnu’n ôl o’r farchnad.

Ychwanegion bwyd anifeiliaid o bwys sydd wedi’u tynnu’n ôl

Fformaldehyd

TDefnyddiwyd Fformaldehyd yn gyffredin ar gyfer trin halogiad microbaidd mewn bwyd anifeiliaid, ond gwrthodwyd ei awdurdodiad yn 2018 o dan  yr UE a gymathwyd. Nid oedd canfyddiadau asesiadau risg yn gallu dod i gasgliad ar lefelau defnyddio diogel ar gyfer fformaldehyd mewn rhywogaethau anifeiliaid targed.

Ethoxyquin

Mae ethoxyquin yn ychwanegyn bwyd anifeiliaid arall sydd wedi’i ddefnyddio ar draws y byd ers blynyddoedd lawer fel gwrthocsidydd. Mae ei ddefnydd bellach wedi’i atal mewn bwyd anifeiliaid o dan  yr UE a gymathwyd. Caniatawyd ethoxyquin ddiwethaf ar y farchnad ym mis Mehefin 2020.

Gwm Cassia

Mae gwm cassia wedi bod ar y farchnad ers blynyddoedd lawer fel asiant gelio (gelling agent) mewn bwyd anifeiliaid. Yn 2019, nododd yr asesiad risg gyd-amhuredd (p-phenetidine) a allai fod yn garsinogenig yng ngradd bwyd anifeiliaid lled-buredig gwm cassia. Gan fod gwm cassia wedi’i buro yn cael ei ddefnyddio mewn bwyd sydd â lefelau isel iawn o’r cyd-amhuredd hwn; mae  bellach yn amnewid y gwm cassia wedi’i buro i’w ddefnyddio mewn bwyd anifeiliaid, a thynnu’r radd bwyd anifeiliaid lled-buredig yn raddol o’r farchnad erbyn 16 Rhagfyr 2020.

Ychwanegion bwyd anifeiliaid nad ydynt yn cydymffurfio â’r Gofrestr Deunyddiau Bwyd Anifeiliaid

Mae deunyddiau bwyd anifeiliaid yn darparu cyflenwad maethol i anifeiliaid, ac fe’u manylir yn  cyfraith yr UE a gymathwyd. Mae hefyd gofrestr o ddeunyddiau bwyd anifeiliaid lle mae deunyddiau bwyd anifeiliaid newydd yn cael eu hysbysu a’u cyhoeddi, fel sy’n ofynnol o dan  cyfraith yr UE a gymathwyd (Erthygl 24(6)).

Gall y Gofrestr o ddeunyddiau bwyd anifeiliaid gynnwys gwallau gan gynnwys cofnodion y penderfynwyd eu bod yn ychwanegion bwyd anifeiliaid anawdurdodedig ac sy’n cael eu gwrthod. Cyfrifoldeb Perchennog y Busnes Bwyd Anifeiliaid yw monitro’r Gofrestr o Ddeunyddiau Bwyd Anifeiliaid i sicrhau bod cynhyrchion penodol yn aros yn y Gofrestr o Ddeunyddiau Bwyd Anifeiliaid fel cofnodion dilys.