Gwneud cais am gyllid ymchwil
Cyhoeddwyd 26 Ionawr 2018
Yn berthnasol i Loegr, Gogledd Iwerddon a Chymru
Cyflwynir galwadau am dendr trwy system dendro electronig ac maent yn cael eu llwytho’n awtomatig ar byrth hysbysebu tendr fel , sef gwasanaeth e-hysbysu’r DU lle caiff hysbysiadau caffael eu cyhoeddi.Â
I gael hysbysiadau e-bost am gyfleoedd caffael gallwch chi gofrestru fel cyflenwr.
Mae’r holl wybodaeth am gyfleoedd caffael,  sy’n bodoli eisoes ar gael i’r cyhoedd. Nid ydym yn cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif na gwybodaeth y gellir ei defnyddio i gael mantais gystadleuol annheg.
Sicrhau ansawdd yn ein hymchwil
Ynghyd â Chyngor Ymchwil Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra), Cyngor Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol a Chyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol rydym wedi datblygu Cod Ymarfer i sicrhau bod gwyddoniaeth a thystiolaeth a gomisiynir gennym yn gyson o safon uchel a dibynadwy.
Gyda Defra, gwnaethom gomisiynu Gwasanaeth Achredu’r Deyrnas Unedig yn 2006 i archwilio sampl o’n prosiectau gwyddoniaeth a thystiolaeth yn erbyn darpariaethau’r Cod.
Dosbarthwyd y canfyddiadau o’r rhaglen archwilio ddwy flynedd a chafodd y Cod ei ddiwygio wedyn o ganlyniad i ganfyddiadau’r archwiliad.