Archwiliad o reolaethau alergenau a chamau archwilio perthnasol sydd heb eu cwblhau – Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, 4–6 Tachwedd 2025
Yn berthnasol i Gymru
Dogfennau
Manylion
Bu i’r archwiliad bwyso a mesur trefniadau Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i gynnal rheolaethau bwyd swyddogol sy’n gysylltiedig ag alergenau, sef rhan bwysig o swyddogaeth safonau bwyd yr awdurdod. Roedd hyn yn cynnwys gwiriad go iawn mewn sefydliad bwyd er mwyn asesu effeithiolrwydd y rheolaethau swyddogol ac, yn fwy penodol, y gwiriadau a gynhaliwyd gan swyddogion yr awdurdod, er mwyn gwirio bod gweithredwr y busnes bwyd yn cydymffurfio â’r gofynion deddfwriaethol.  Roedd cwmpas yr archwiliad hefyd yn cynnwys asesiad o drefniadaeth a rheolaeth gyffredinol yr awdurdod, a gwaith mewnol i fonitro gweithgareddau safonau bwyd.