°Ç¸ç³Ô¹Ï

Skip to main content
Canllawiau

Hysbysiad preifatrwydd dosbarthu carcasau eidion

Sut mae'r Asiantaeth Taliadau Gwledig (RPA) yn casglu ac yn prosesu gwybodaeth bersonol sy'n ymwneud â'r swyddogaeth Dosbarthu Carcasau Eidion.

Dogfennau

Manylion

Diben Prosesu

Y swyddogaeth Dosbarthu Carcasau Eidion yw’r cynllun gorfodol ar gyfer dosbarthu carcasau eidion yn ôl safon y cytunwyd arni fel y gellir pennu prisiau teg am gig.

Pam y gallwn brosesu eich data personol

Mae’r gyfraith yn caniatáu i ni brosesu eich data personol o dan y canlynol:

  • erthygl 6(1)(e) o Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU). Caniateir i ni brosesu data personol pan fydd angen i ni ymgymryd â thasg gyhoeddus
  • Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (UE) 2017/1184 dyddiedig 20 Ebrill 2017 sy’n gosod rheolau ar gyfer cymhwyso Rheoliad (UE) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran graddfeydd yr Undeb ar gyfer dosbarthu carcasau eidion, moch a defaid ac o ran cofnodi prisiau categorïau penodol o garcasau ac anifeiliaid byw ar y farchnad
  • Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (UE) 2017/1182 dyddiedig 20 Ebrill 2017 sy’n ategu Rheoliad (UE) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran graddfeydd yr Undeb ar gyfer dosbarthu carcasau eidion, moch a defaid ac o ran cofnodi prisiau categorïau penodol o garcasau ac anifeiliaid byw ar y farchnad
  • 2018 Rhif 1164 Amaethyddiaeth, Lloegr
  • Rheoliadau Dosbarthu Carcasau a Chofnodi Prisiau (Lloegr) 2018

Pa ddata personol rydym yn eu prosesu

Y wybodaeth rydym yn ei chasglu ac yn ei phrosesu yw:

  • gwybodaeth gofrestru cwsmeriaid
  • Rhif y daliad (CPH)
  • cofnodlyfrau ceidwaid a chofnodion
  • data prisiau
  • rhifau tagiau clust

Mae’n bosibl y byddwn yn prosesu eich data personol, gan gynnwys eich cyfeiriad e-bost a gaiff ei gynnwys mewn unrhyw gwestiynau neu adborth y byddwch yn eu hanfon atom. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth i gysylltu â chi am grantiau’r dyfodol a diweddariadau i’r polisi ffermio a fyddai’n berthnasol i chi.

Eich cyfrifoldeb o ran data personol pobl eraill

Os ydych wedi cynnwys data personol am bobl eraill yn eich cofnodion, mae’n rhaid i chi ddweud wrthynt. Rhaid i chi roi copi o’r Hysbysiad Preifatrwydd hwn iddynt er mwyn sicrhau eu bod yn gwybod y bydd eu data personol yn cael eu defnyddio.

Ble y bydd eich data personol yn cael eu storio

Rydym yn storio, yn trosglwyddo ac yn prosesu eich data personol ar ein gweinyddion yn y Deyrnas Unedig (y DU) ac yn yr Undeb Ewropeaidd (UE).

Am ba hyd y byddwn yn cadw eich data personol

Byddwn yn cadw eich data am saith mlynedd.

Cyfeiriwch at ein Siarter Gwybodaeth Bersonol a’r adran ‘Am faint o amser y byddwn yn cadw data’ am ragor o wybodaeth am unrhyw eithriadau posibl.

Gyda phwy rydym yn rhannu eich data personol

Rydym yn rhannu eich data personol â’r UE.

Eich hawliau

Darllenwch ein Siarter Gwybodaeth Bersonol i gael gwybod pa hawliau sydd gennych o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data a Deddf Diogelu Data 2018.

Sut i wneud cwyn

Os bydd gennych bryderon ynglŷn â’r ffordd y mae’r RPA yn defnyddio eich data personol, darllenwch am sut i gysylltu â ni neu am sut i wneud cwyn.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 18 Gorffennaf 2024
Diweddarwyd ddiwethaf ar 8 Awst 2024 Show all updates
  1. Added Welsh translation.

  2. First published.

Argraffu'r dudalen hon