°Ç¸ç³Ô¹Ï

Skip to main content
Canllawiau

Bisffenol A mewn deunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd: Rheolau’r UE a goblygiadau i’r DU

Cyhoeddwyd 25 Mehefin 2026

Yn berthnasol i Loegr, Gogledd Iwerddon a Chymru

¸é³ó²¹²µ²â³¾²¹»å°ù´Ç»å»åÌýÌý

DefnyddirÌýbisffenolÌýA, neuÌýBPA,Ìýwrth weithgynhyrchu rhai deunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd, gan gynnwys rhai plastigau a gorchuddion. Mae ei effeithiau posib ar iechyd wedi’u hasesu yn y DU, yr UE ac yn rhyngwladol.Ìý

Mae’r UE wedi cyflwyno cyfyngiadau ar ddefnyddioÌýbisffenolÌýA mewn rhai deunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwydÌýdrwyÌýÌý(‘Rheoliad yr UE arÌýbisffenolÌýA’). Mae’r cyfyngiadau hyn yn berthnasol i gynhyrchion a roddir ar farchnad yr UE a marchnad Gogledd Iwerddon o dan Fframwaith Windsor.Ìý

Yn y DU, cynhaliodd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a Safonau Bwyd yr Alban (FSS) ymgynghoriad cyhoeddus ar gynigion yn ymwneud âÌýbisffenolÌýA mewn deunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd. Cyhoeddodd yr ASB eiÌýÌýyn nodi’r bwriad i gyflwyno cyfyngiadau ar ddefnyddioÌýbisffenolÌýA ym Mhrydain Fawr, yn amodol ar y broses bolisi a deddfwriaethol briodol.ÌýÌý

Ochr yn ochr â hynny, mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei bwriad i fwrw ymlaen â’rÌýcytundeb Iechydol aÌýFfytoiechydolÌý(SPS) rhwng yr UE a’r DU, ac mae trafodaethau â’r UE yn parhau. Mae Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) wedi cyhoeddi gwybodaeth yn cynghori busnesau, gan gynnwys y rhai nad ydynt yn masnachu â’r UE ar hyn o bryd, i ddechrau ystyried sut y gallai newidiadau posib yn y dyfodol o fewn cwmpas y trefniadau SPS effeithio ar eu gweithrediadau. MaeÌýDefraÌýhefyd wedi dweud yn glir y bydd manylion ac amseru unrhyw newidiadau yn dibynnu ar ganlyniad y trafodaethau.Ìý

YnglÅ·n â’r canllaw gwybodaeth hwnÌý

Mae’r canllaw hwn yn darparu gwybodaeth ffeithiol i helpu busnesau’r DU i ddeall y canlynol:Ìý

  • gofynion yr UE o ranÌýbisffenolÌýA – lle mae’r rhain yn berthnasolÌý

  • y sefyllfa gyfreithiol bresennol ym Mhrydain FawrÌý

Nid yw’r canllaw hwn yn cyflwyno rhwymedigaethau cyfreithiol newydd ac nid yw’n cymryd lle’r ddeddfwriaeth berthnasol. Dylai busnesau sicrhau eu bod yn cyfeirio at y ddeddfwriaeth berthnasol lle bo hynny’n briodol.Ìý

Perthnasedd y gofynion yn ddaearyddolÌý

At ddibenion y canllaw hwn:Ìý

  • mae deddfwriaeth yr UE yn berthnasol i farchnad yr UE ac i Ogledd Iwerddon o dan Fframwaith WindsorÌý

  • nid yw cyfyngiadau’r UE arÌýbisffenolÌýA yn berthnasol ar hyn o bryd ym Mhrydain Fawr (Cymru, Lloegr a’r Alban)Ìý

Mae’n rhaid i fusnesau sy’n rhoi cynhyrchionÌýperthnasol ar farchnad yr UE neu Ogledd Iwerddon gydymffurfio â Rheoliad yr UE arÌýbisffenolÌýA, gan gynnwys y prif ddyddiad cau cyntaf ar gyfer cydymffurfio, sef 20 Gorffennaf 2026.Ìý

Mae trefniadau ar wahân yn berthnasol i rai nwyddau manwerthu wedi’u pecynnu ymlaen llaw sy’n symud o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon o dan Gynllun SymudÌýNwyddauÌýManwerthu Gogledd Iwerddon (NIRMS). Dylai busnesau sy’n defnyddio’r trefniadau hyn gyfeirio at ganllawiauÌýperthnasol Llywodraeth y DU ar eu cais.Ìý

Ar gyfer marchnad ddomestig Prydain Fawr, nid yw cyfyngiadau’r UE arÌýbisffenolÌýA yn berthnasol yn uniongyrchol. Bydd y sefyllfa gyfreithiol bresennol yn aros fel y mae oni bai bod deddfwriaeth ddomestig yn cael ei chyflwyno neu hyd nes y bydd deddfwriaeth o’r fath yn cael ei chyflwyno.Ìý

Diben y canllaw gwybodaeth hwnÌý

Bwriad y canllaw hwn yw:Ìý

  • darparu gwybodaeth am Reoliad yr UE arÌýbisffenolÌýA – lle mae’n berthnasol i farchnad yr UE neu Ogledd Iwerddon, gan gynnwys amserlenniÌýperthnasolÌý

  • codi ymwybyddiaeth busnesau a’u helpu i gynllunio o ystyried y newidiadauÌýposib yn y dyfodolÌýym Mhrydain FawrÌý

Nid yw’r canllaw hwn yn gosod gofynion cydymffurfio ar gyfer marchnad ddomestig Prydain Fawr.Ìý

Prif newidiadau rheoleiddiol gan yr UEÌý

Mae Rheoliad yr UE arÌýbisffenolÌýA yn cyflwyno cyfyngiadau ar ddefnyddioÌýbisffenolÌýA, aÌýbisffenolauÌýperyglus eraill, yn fwriadol mewn rhai deunyddiau penodolÌýaÌýddawÌýi gysylltiad â bwyd.Ìý

Mae’r cyfyngiadau hyn yn berthnasol i gynhyrchion a roddir ar farchnad yr UE ac yng Ngogledd Iwerddon.Ìý

Mae’r rheoliad yn cynnwys trefniadau pontio i roi amser i fusnesau addasu.Ìý

Sut mae rhoi Rheoliad yr UE arÌýbisffenolÌýA ar waith yn ymarferol?Ìý

Mae cyfyngiadau’r UE yn gwahardd defnyddioÌýbisffenolÌýA yn fwriadol wrth weithgynhyrchu rhai deunyddiau penodol a ddaw i gysylltiad â bwyd ac maent yn berthnasol o’r adeg y caiff cynhyrchion eu rhoi ar farchnad yr UE neu farchnad Gogledd Iwerddon am y tro cyntaf.Ìý

Felly, o’r dyddiadauÌýperthnasol ymlaen, ni fyddai hawl gan unrhyw un roi deunyddiau ac eitemau nad ydynt yn cydymffurfio ar y marchnadoedd hynny.Ìý

Er bod y cyfyngiad yn ymwneud â defnyddioÌýbisffenolÌýA mewn prosesau gweithgynhyrchu, caiff ei orfodi ar yr adeg y caiff deunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd eu rhoi ar y farchnad am y tro cyntaf.Ìý

Mesurau pontio a dyddiadau allweddolÌý

Dyddiad cau cyntaf y cyfnod pontio: 20 Gorffennaf 2026Ìý

O’r dyddiad hwn ymlaen, ni all deunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd at ddefnyddÌýuntroÌýneu at ailddefnydd cyffredinol sydd newydd gael eu gweithgynhyrchu a’u mewnforio, acÌýsyddÌýwedi’u rhoi ar farchnad yr UE neu farchnad Gogledd Iwerddon, gynnwysÌýbisffenolÌýA naÌýbisffenolauÌýperyglus eraill sydd wedi’u hychwanegu’n fwriadol, oni bai bod darpariaethau pontio penodol yn berthnasol.Ìý

Efallai y byddÌýmodd i ddeunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd sy’n cynnwysÌýbisffenolÌýA acÌýsyddÌýwedi’u rhoi ar y farchnad cyn y dyddiad cau hwn barhau i gael eu llenwi â bwyd neu euÌýdefnyddio i selio bwyd am gyfnod cyfyngedig. Yn unol â Rheoliad yr UE arÌýbisffenolÌýA, gallai bwyd sydd wedi’i becynnu yn ystod y cyfnod hwnnw barhau i gael ei werthu hyd nes y bydd y stociau wedi dod i ben.Ìý

Dyddiad cau estynedig: 20 Ionawr 2028Ìý

Mae cyfnod pontio estynedig yn berthnasol i rai cynhyrchion penodol, gan gynnwys rhai eitemau at ddefnyddÌýuntroÌýac offer cynhyrchu bwyd proffesiynol dethol at ailddefnydd.Ìý

Gallai methu â chydymffurfio â gofynionÌýperthnasol yr UE effeithio ar eich gallu i roi cynhyrchion ar farchnadoedd yr UE neu Ogledd Iwerddon.Ìý

Efallai y bydd paratoi’n gynnar yn helpu busnesau, sy’n cyflenwi marchnad yr UE neu farchnad Gogledd Iwerddon, i ddelio â newidiadau i’r gadwyn gyflenwi. I fusnesau sy’n cyflenwi marchnad ddomestig Prydain Fawr yn unig, gallai paratoi’n gynnar hefyd helpu gyda chynllunio hirdymor.Ìý

Gwaith cynllunio a pharodrwydd y busnesÌý

Mae’r adran hon yn rhoi ystyriaethau dewisol i helpu busnesau i ddeall gofynion yr UE o ranÌýbisffenolÌýA ac ymateb iddynt, lle bo’n berthnasol.Ìý

Mae gofynion yr UE o ranÌýbisffenolÌýA yn berthnasol pan fydd deunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd neu fwyd wedi’i becynnu yn cael eu rhoi ar farchnad yr UE neu farchnad Gogledd Iwerddon. Nid yw’r gofynion hyn yn uniongyrchol berthnasol i farchnad ddomestig Prydain Fawr.Ìý

Yn dilyn yr ymgynghoriad arÌýbisffenolÌýAÌýaÌýchyhoeddi crynodeb o’r ymatebion, nododd yr ASB fwriad i gyflwyno cyfyngiadau ym Mhrydain Fawr, yn amodol ar y broses bolisi a deddfwriaethol briodol.Ìý

Efallai y bydd paratoi’n gynnar yn helpu busnesau i ddelio â newidiadau posib yn y dyfodol a lleihau’r risg o darfu ar eu gwaith pan allai fod angen addasiadau i gyfansoddiad cynnyrch neu gadwyni cyflenwi.Ìý

Efallai hoffai busnesau sy’n rhoi cynhyrchion ar farchnad yr UE neu farchnad Gogledd Iwerddon ystyried y canlynol:Ìý

Canfod pa gynhyrchion a marchnadoedd sy’n berthnasolÌýÌý

  • adolygu cynhyrchion i ganfod ble maeÌýbisffenolÌýA, neuÌýbisffenolauÌýcysylltiedig, yn cael eu defnyddio’n fwriadolÌýÌý

  • gwahaniaethu rhwng cynhyrchion y mae’r busnes yn eu cyflenwi i farchnad yr UE neu farchnad Gogledd Iwerddon a’r rhai y mae’r busnes yn eu cyflenwi ym Mhrydain Fawr yn unigÌý

CynllunioÌýar gyfer cydymffurfiaeth â’r UE a Gogledd Iwerddon (lle bo’n berthnasol)ÌýÌý

  • ystyried dyddiadau cauÌýperthnasol ar gyfer y cyfnod pontio o dan Reoliad yr UE arÌýbisffenolÌýAÌýÌý

  • adolygu cadwyni cyflenwi, prosesau gweithgynhyrchu a phortffolios cynnyrch i ganfod ble gallai fod angen newidiadauÌý

Ymgysylltu â chadwyni cyflenwiÌýÌý

  • ymgysylltu â chyflenwyr i ddeall a ywÌýbisffenolÌýA neu sylweddau cysylltiedig yn cael eu defnyddio’n fwriadolÌýÌý

  • ystyriedÌýargaeledd deunyddiau amgenÌýlle bo angenÌýy galluÌýiÌýroi cynhyrchion arÌýfarchnad yr UE neu farchnad Gogledd IwerddonÌý

Monitro datblygiadau rheoleiddiolÌýÌý

  • cadw llygad ar y diweddaraf gan yr ASB, yr FSS ac adrannauÌýperthnasol o Lywodraeth y DUÌýÌý

  • ystyried sut gallai datblygiadau deddfwriaethol i ddod, gan gynnwys y rhai sy’n gysylltiedig â threfniadau SPS, effeithio ar gynllunio hirdymorÌý

Dangos cydymffurfiaeth â’r gofynion o ranÌýbisffenolÌýAÌýÌý

Mae’n rhaid i fusnesau sy’n rhoi deunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd ar farchnad yr UE a marchnad Gogledd Iwerddon gydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol yr UE ar ddeunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd, gan gynnwys y cyfyngiadau ar ddefnyddioÌýbisffenolÌýA yn fwriadol fel y mae wedi’i nodi o dan Reoliad yr UE arÌýbisffenolÌýA.Ìý

Ar gyfer marchnad Prydain Fawr, mae’n rhaid i fusnesau gydymffurfio â’rÌýddeddfwriaeth berthnasol aÌýgymathwydÌýar ddeunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd, sy’n gosod gofynion cyffredinol o ran diogelwch, cydymffurfiaeth a dogfennau ategol. Nid yw fframwaith presennol Prydain Fawr yn cynnwys cyfyngiadau cyfatebol ar ddefnyddioÌýbisffenolÌýA yn fwriadol.Ìý

Ar draws y fframweithiau hyn, mae’n ofynnol i fusnesau allu dangos eu bod yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth berthnasol. Bydd y dull yn dibynnu ar y cynnyrch a’r broses weithgynhyrchu:Ìý

  • gallai busnesau ddangos eu bod yn cydymffurfio drwy ddulliau priodol, gan gynnwys dogfennau, sicrwydd gan gyflenwyr, data am burdeb neu brofion, lle bo’n berthnasolÌý

  • dylai busnesau gynnal profion, pan fyddant yn eu defnyddio, yn unol â gofynion a chanllawiauÌýperthnasolÌý

  • dylai busnesau gadw dogfennau ategol tra bo’r cynnyrch ar y farchnad ac am gyfnod priodol wedi hynnyÌý

Gofynion cyfreithiol: dogfennau a chofnodionÌý

O dan fframwaith deddfwriaethol yr UE ar ddeunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd, a’r fframweithiau tebyg aÌýgymathwydÌýym Mhrydain Fawr, mae’n rhaid i fusnesau wneud y canlynol:Ìý

  • gallu dangos eu bod yn cydymffurfio â’r gofynionÌýperthnasolÌý

  • sicrhau bod deunyddiauÌýac eitemauÌýa ddaw i gysylltiad â bwydÌýddod â Datganiad CydymffurfiaethÌý

  • cadw dogfennau ategol aÌýrhoi mynediad i awdurdodau cymwys at y rhain ar gaisÌý

Mae’r gofynion hyn yn codi o dan fframwaith deddfwriaethol ehangach ar ddeunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd. Mae’r canllaw hwn yn adlewyrchu’r gofynion hynny, ac nid yw’n cyflwyno’r gofynion nac yn ymhelaethu arnynt.Ìý

Ffynonellau allanol o wybodaeth bellachÌý

Mae’r Undeb Ewropeaidd wedi cyhoeddi canllawiau’r UE ar weithreduÌýÌýo ran defnyddioÌýbisffenolÌýAÌýaÌýsylweddau cysylltiedig yn fwriadol mewn deunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd. Efallai y bydd y ddogfen ganlynol yn ddefnyddiol:ÌýÌý

Ìý

MaeÌýDefraÌýwedi cyhoeddi gwybodaeth i fusnesau ar drefniadau SPS y DU a’r UE:ÌýCytundeb SPS y DU a’r UE – gwybodaeth i fusnesau.Ìý

Cysylltu a chymorth pellachÌý

Ar gyfer ymholiadau technegol, cysylltwch agÌýFCM-BPA@food.gov.uk.ÌýÌý

I gael gwybod y diweddaraf, efallai hoffai busnesau gadw llygad ar wefannau’r ASB acÌýFSS.