Canslo nwyddau neu wasanaethau
Cyhoeddwyd 2 Mawrth 2016
Ydych chi’n ddefnyddiwr sydd:
-
wedi cytuno i brynu nwyddau neu wasanaethau, ond wedi newid eich meddwl neu’n methu â bwrw ymlaen â’r contract?
-
wedi cael eich gofyn i dalu tâl canslo i’r busnes, ond eisiau herio’r swm?
-
wedi colli eich blaendal neu ragdaliadau, ac eisiau eu cael yn ôl gan y busnes?
Efallai bod y busnes yn gofyn am fwy o arian nag y mae ganddo hawl iddo. Nid yw’r ffaith ei fod yn y contract yn golygu ei fod bob amser yn gyfreithiol rwymol. Ni all busnesau ddibynnu ar delerau annheg. Gwiriwch eich hawliau fel defnyddiwr.
Gall cyfraith defnyddwyr eich helpu
Peidiwch â derbyn y gall y busnes gadw eich blaendal a’ch rhagdaliadau neu ofyn i chi dalu tâl canslo os byddwch chi’n canslo’r contract.
Dim ond os yw telerau’r contract yn deg y gall y busnes wneud hyn.
Nid yw tâl canslo yn deg dim ond oherwydd ei fod yn y contract a lofnodwyd gennych – mae angen iddo fod yn rhesymol.
Weithiau mae gennych hawl i ad-daliad llawn neu rannol – ond ni allwch ddisgwyl cael eich holl arian yn ôl bob amser os newidiwch eich meddwl.
Gall busnesau gadw eich blaendal neu ragdaliadau, neu ofyn i chi dalu tâl canslo, dim ond mewn rhai amgylchiadau.
Os byddwch chi’n canslo’r contract, dim ond swm digonol i dalu am eu colledion gwirioneddol sy’n deillio’n uniongyrchol o’ch canslad (e.e. costau a ysgwyddwyd eisoes neu golli elw) sydd gan y busnes yr hawl i’w gadw neu ei dderbyn fel arfer.
Rhaid i fusnesau gymryd camau rhesymol i leihau eu colledion (e.e. drwy ailwerthu’r nwyddau ²Ô±ð³Ü’r gwasanaethau).
Dim ond canran fach o’r cyfanswm y dylai blaendaliadau na ellir eu had-dalu fod.
Rhaid i ffioedd canslo fod yn amcangyfrif dilys o golled uniongyrchol y busnes.
Cysylltwch â’r busnes
Os oes gennych bryderon, gofynnwch i’r busnes yn gyntaf esbonio sut y gwnaethon nhw gyfrifo’r swm maen nhw’n ei gadw neu’n ei godi arnoch am ganslo’r contract.
Gallai hefyd fod o gymorth i chi ymgyfarwyddo â’n canllaw i fusnesau.
Am wybodaeth neu gyngor
Cysylltwch â gwasanaeth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth (03454 04 05 06) i gael cyngor ar yr hyn y gallwch ei wneud.
Dewch o hyd i’ch Cyngor ar Bopeth agosaf yng ²Ô±ð³Ü’r .
Yng Ngogledd Iwerddon, cysylltwch â ar 0300 123 6262.
Nid yw’r deunyddiau hyn yn lle cyngor cyfreithiol, ac ni ddylid dibynnu arnynt fel y cyfryw.
Mae rhagor o wybodaeth am delerau annheg ar gael ar dudalennau gwe’r CMA.