Gwirio a herio eich prisiad ardrethi busnes Rhestr Ardrethu Ganolog — cofrestrwch i ddefnyddio’r gwasanaeth
Defnyddiwch y ffurflen hon i gofrestru ar gyfer y gwasanaeth gwirio a herio Rhestr Ardrethu Ganolog 2026 yng Nghymru a Lloegr.
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
Dogfennau
Manylion
Defnyddir y ffurflen i gofrestru ar gyfer gwasanaeth gwirio a herio Rhestr Ardrethu Ganolog 2026 yng Nghymru a Lloegr. Dim ond os yw’ch eiddo ar y Rhestr Ardrethu Ganolog (yn agor tudalen Saesneg) y dylech ddefnyddio’r ffurflen hon. Y mathau o eiddo sydd yn y rhestrau ardrethu canolog yw:
- rhwydweithiau cyflenwad trydan, nwy a dŵr
- piblinellau traws gwlad
- rhwydweithiau trafnidiaeth mawr
- rhwydweithiau telathrebu
Os oes angen i chi wirio neu herio prisiad ardrethi busnes Rhestr Ardrethu Ganolog 2026 (yn agor tudalen Saesneg), rhaid i chi lenwi ac anfon y ffurflen T048 atom yn gyntaf i gofrestru ar gyfer y gwasanaeth. Darllenwch yr arweiniad cyn llenwi’r ffurflen hon.
Pwy na ddylai ddefnyddio’r gwasanaeth hwn
Mae’r ffurflen T048 hon ar gyfer eiddo rhestr ganolog yn unig. Mae pob eiddo annomestig (busnes) arall, fel siopau, swyddfeydd ac eiddo diwydiannol yn rhestrau ardrethu lleol 2026.
Os yw eich eiddo ar restr ardrethu lleol, yna bydd angen i chi greu cyfrif prisio ardrethi busnes. Darganfyddwch fwy am y gwasanaeth gwirio a herio ar gyfer eiddo mewn rhestrau ardrethu lleol.
Mae’r gwasanaeth hwn yn berthnasol i Gymru a Lloegr yn unig. Ymdrinnir ag apeliadau ardrethi busnes yn wahanol yn a .
Unwaith y byddwch wedi cwblhau’r ffurflen
Ar ôl cwblhau’r ffurflen dylech ei dychwelyd drwy e-bost i nvuinboxvo@hmrc.gov.uk.
Os na allwch anfon eich ffurflen wedi’i llenwi ar-lein, gallwch ei hanfon drwy’r post i:
Valuation Office
Wycliffe House
Green Lane
Durham
DH1 3UW
Ar ôl i chi anfon y ffurflen
Unwaith y byddwn wedi adolygu eich cais, byddwch yn derbyn eich prisiad manwl trwy e-bost neu’r post yn dibynnu ar eich dewis.
Gallwch ddysgu sut i herio’ch prisiad os ydych o’r farn bod gwall yn y prisiad manwl rydych wedi’i gael.
Updates to this page
-
The year '2023' has been updated to '2026' throughout this guidance, to reflect that all Central Rating List properties will have been given a new valuation as part of the 2026 revaluation.
-
The Welsh form has been updated.
-
The English form has been updated.
-
Welsh translation added.
-
Clearer guidance added.
-
The PDF attachments have been updated.
-
Updated to include Wales in the 2023 rating list
-
Clarity on which properties are in the Central Rating List and a link to information on checking and challenging properties in local rating lists.
-
First published.