ǸԹ

Skip to main content
Ffurflen

Treth Gorfforaeth: Treth Iawndal (CT600K)

Dywedwch wrth CThEF os yw'ch cwmni yn agored i Dreth Gorfforaeth ar log iawndal.

Dogfennau

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch different.format@hmrc.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Manylion

Cyn i chi lawrlwytho’r ffurflen a’i hanfon drwy’r post, gwiriwch pryd y mae angen i chi anfon Ffurflen Dreth y Cwmni ar-lein (yn Saesneg).

Defnyddiwch y tudalennau atodol hyn os yw’ch cwmni’n agored i Dreth Gorfforaeth ar log iawndal ac mae ganddo log iawndal sydd heb ei eithrio rhag tâl treth iawndal.

Mae llog iawndal yn golygu elw sy’n bodloni amodau A i C.

Amod A

Mae’r elw yn llog a dalir, neu sy’n daladwy, gan Gomisiynwyr Cyllid a Thollau EF am gais gan y cwmni am iawndal mewn perthynas â’r naill neu’r llall o’r materion canlynol (neu faterion honedig):

  • talu swm i’r Comisiynwyr o dan gamgymeriad cyfreithiol sy’n ymwneud â mater treth
  • casgliad anghyfreithlon gan y Comisiynwyr o ran trethiant

Amod B

Mae llys wedi gwneud penderfyniad terfynol bod y Comisiynwyr yn atebol i dalu’r llog neu fod y Comisiynwyr a’r cwmni, i setlo’r cais yn derfynol, wedi dod i gytundeb, a bod gan y cwmni’r hawl i gael y llog wedi’i dalu iddo, neu y bu’n cadw’r llog.

Amod C

Nid yw’r llog a benderfynir ei fod yn ddyledus, neu a gytunwyd arno, wedi’i gyfyngu i log syml ar gyfradd statudol.

Ffurflenni ac arweiniad cysylltiedig

Defnyddiwch ffurflen CT600 i gyflwyno Ffurflen Dreth y Cwmni drwy’r post os na allwch ei chyflwyno ar-lein.

Defnyddiwch y Datganiad yr Hydref 2024 — trosolwg o ddeddfwriaeth dreth a chyfraddau (OOTLAR) (yn agor tudalen Saesneg) i gael trosolwg o’r newidiadau pennaf yn y Gyllideb, sy’n effeithio ar Dreth Gorfforaeth.

Defnyddiwch yr arweiniad CT600K i’ch helpu chi i lenwi’r ffurflen tudalen atodol CT600K.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 10 Ebrill 2017
Diweddarwyd ddiwethaf ar 1 Ebrill 2025 show all updates
  1. Link to the form CT600 and Autumn Statement has been updated.

  2. A link to the CT600K guidance has been added.

  3. The related forms and guidance have been updated for 2023.

  4. The related forms and guidance have been updated for 2022.

  5. A Welsh translation of the form has been added

  6. First published.

Argraffu'r dudalen hon