Cydnabyddiaeth ar sail perfformiad – Cynlluniau Sicrwydd Cymeradwy yr ASB
Diweddarwyd 29 Mehefin 2026
Yn berthnasol i Loegr, Gogledd Iwerddon a Chymru
Rydym ni wedi cyflwyno lleihau amlder yr arolygiadau (cydnabyddiaeth ar sail perfformiad) ar gyfer busnesau sy’n cydymffurfio sy’n aelodau o gynlluniau sicrwydd cymeradwy’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn y meysydd cynhyrchu cynradd (2006), hylendid llaeth (2011) a bwyd anifeiliaid (2014).
Pan gaiff cynllun sicrwydd ei gymeradwyo, gall aelodau sy’n cydymffurfio â’r cynllun hwnnw elwa o gydnabyddiaeth ar sail perfformiad, ar y sail eu bod yn cymryd camau cadarnhaol i leihau risgiau a chydymffurfio â gofynion deddfwriaethol, trwy broses ardystio trydydd parti.
Cynlluniau Sicrwydd Cymeradwy
Cydffederasiwn y Diwydiannau Amaethyddol
²Ñ²¹±ðÌý(AIC) yn sefydliad annibynnol, nid er elw sy’n gweithio ar ran aelodau yn y sector cyflenwi amaethyddol. Mae AIC yn cynrychioli amrywiaeth o sectorau yn y diwydiant bwyd anifeiliaid ac mae’n rheoli nifer o gynlluniau sicrwydd.
Mae gan AIC dri chynllun sydd wedi’u cymeradwyo gennym ni:
- (FEMAS)
- (TASCC)
- (UFAS)
Mae AIC yn gweithredu i  (PDF, Saesneg yn unig) gyda’r ASB, Safonau Bwyd yr Alban a’r Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol(VMD).
Cynllun sicrwydd y Tractor Coch
²Ñ²¹±ðÌý yn gynllun sicrwydd ar hyd y gadwyn gyfan sy’n gweithredu safonau ar y fferm ac ar ôl giât y fferm, y gallu i olrhain, lles anifeiliaid a diogelu’r amgylchedd.
Mae Cynllun Sicrwydd y Tractor Coch hefyd yn gweithredu cynllun trwyddedu ar gyfer busnesau bwyd sydd am wneud honiad Tractor Coch. Mae rhagor o wybodaeth am ofynion trwyddedu Cynllun Sicrwydd y Tractor Coch ar gael ar eu gwefan.
Mae gan Cynllun Sicrwydd y Tractor Coch sydd wedi’u cymeradwyo gennym ni:
- Cig eidion a chig oen
- Cnydau a betys siwgwr
- Llaeth
- Cynnyrch ffres
- Moch
- Dofednod
Mae Cynllun Sicrwydd y Tractor Coch yn gweithredu i  (PDF, Saesneg yn unig) gyda’r ASB.
Comisiwn Da Byw a Chig Gogledd Iwerddon
Mae Comisiwn Da Byw a Chig Gogledd Iwerddon (LMC) yn Gorff Cyhoeddus Anadrannol Gweithredol, a sefydlwyd o dan Ddeddf Comisiwn Marchnata Da Byw 1967. Mae’n gwasanaethu fel y corff statudol sy’n gyfrifol am gefnogi, hyrwyddo a sicrhau ansawdd sectorau cig eidion a chig defaid yng Ngogledd Iwerddon.
Mae gan LMC un cynllun sydd wedi’i gymeradwyo gennym ni:
- (NIBL FQAS)
Mae LMC yn gweithredu i (PDF, Saesneg yn unig) gyda’r Asiantaeth Safonau Bwyd yng Ngogledd Iwerddon.
Welsh Lamb and Beef Producers
²Ñ²¹±ðÌý (WLBP) yn gymdeithas gydweithredol amaethyddol a reolir gan ffermwyr sy’n cynnwys dros 7,000 o ffermwyr o Gymru. Mae WLBP yn ymdrechu i gryfhau hyder defnyddwyr trwy ddarparu sicrwydd o safonau ffermydd trwy’r Cynllun Sicrwydd Fferm Da Byw Cymru (FAWL).
Mae gan WLBP un ​​cynllun sydd wedi’i gymeradwyo gennym ni:
- (FAWL)
²Ñ²¹±ðÌýWelsh Lamb and Beef Producers Ltd yn gweithredu (PDF, Saesneg yn unig) gydag ASB Cymru.
Dilysu Cynlluniau Sicrwydd Cymeradwy
Er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth a hyder parhaus ar ôl cymeradwyo cynllun sicrwydd i ennill cydnabyddiaeth, byddwn ni’n gwirio cydymffurfiaeth â’n meini prawf.
Mae awdurdodau gorfodi yn gwirio canran o aelodau’r cynllun sicrwydd i wirio cydymffurfiaeth busnes. Bydd y gwiriadiadau hyn yn ein galluogi i fod â hyder yn y cynllun sicrwydd a’r statws cynllun cymeradwy.
Adroddiad eithriad yr Awdurdod Gorfodi
Pan fo awdurdod gorfodi yn tynnu sttws cydnabyddiaeth ar sail perfformiad oddi ar fusnes, dylai roi gwybod i’r ASB cynted â phosibl drwy ddefnyddio’r  (MS Word, Saesneg yn unig).
Mae’r wybodaeth hon yn bwysig i helpu’r ASB i gyflawni ei rôl o wirio’r cynlluniau sicrwydd cymeradwy.
Darllenwch ein .